John Davies

John Davies

Fel cyn gyfarwyddwr BT Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol BT Wholesale, roedd John Davies yn gyfrifol am rwydwaith BT yn y DU ac am gyflwyno band eang i Gymru. Yn y gorffennol mae wedi cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi busnes ac economeg, mae wedi bod yn gadeirydd pwyllgor Cymru OFCOM ac mae bellach yn ymgynghorydd telathrebu.

Mae profiad eang John mewn band eang a’r sector masnachol yn help i ffurfio polisïau ac arferion  gweithio’r Grŵp Cynghori fel y byddant yn diwallu anghenion busnesau Cymru. Mae John o blaid gwneud newidiadau bychain gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’n awyddus i weld Cyflymu Cymru i Fusnesau’n arwain busnesau drwy’r camau o ddewis a defnyddio technoleg sy’n ateb eu hanghenion.