Mandy Evans

Mae gan Mandy brofiad helaeth iawn o Lywodraeth Leol ac mae wedi rhedeg llawer o gynlluniau Awdurdod Lleol mewn cydweithrediad â chwmnïau’r sector preifat er budd cymunedau, mewn bywyd busnes a phersonol. Mae wedi arwain a rheoli contractau llawer o brosiectau sydd wedi bod yn flaenllaw ledled y DU, gan gynnwys; partneriaethau masnachol, Hysbysebu Digidol a chynlluniau Cyfnewidfa Rhyngrwyd a Thalebau Band Eang Caerdydd. Mae ganddi hefyd ddealltwriaeth dda o faterion Awdurdod Lleol, Busnes a Phreifat yn Rhanbarth Caerdydd.

Mae Mandy yn rhan o’r tîm Dinasoedd Craidd Dinasoedd Deallus, sy’n gweithio ochr yn ochr â Dinasoedd Craidd y DU ar brosiectau enghreifftiol ledled y DU. Ac mae ganddi gysylltiadau clos â’r sector BBChau yng Nghaerdydd ac mae’n gweithio â hwy i gynyddu manteision y rhaglen Band Eang Cyflym Iawn. Mae’n rhan o dîm Swyddogion Digidol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a hefyd Grŵp Seilwaith Digidol Cymru, gan weithio ar ddarpariaeth strategol seilwaith digidol ledled rhanbarth De-ddwyrain Cymru.