Rhys Cornwall

Rhys Cornwall

Rhys yw Pennaeth Pobl a Newid Busnes Cyngor Dinas Casnewydd ac mae’n gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau cefnogi a galluogi yn yr Awdurdod Lleol. Mae’n gwneud yn siŵr bod pob cynllun yn hybu arloesi ac yn darparu gwasanaethau sy’n gost effeithiol ac wedi’u targedu at breswylwyr, busnesau a phartneriaid.

Fel rhan o’i rôl, Rhys oedd yn arwain y newid i alluogi Cyngor Dinas Casnewydd i ymuno â’r Gwasanaeth Adnodd a Rennir (SRS); partneriaeth TG yn y sector cyhoeddus sy’n hybu cydweithredu, arloesi a chydnerthedd yng Ngwent fel rhanbarth.  Mae ei ffordd strategol o feddwl a’i brofiad helaeth o weithio ochr yn ochr â busnesau i hybu swyddi a thwf economaidd yn golygu bod Rhys mewn sefyllfa unigryw i ffurfio rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion busnesau lleol yng Nghymru. 

Newport City Council Logo