Tony Davies

Tony Davies

Mae gan Tony brofiad helaeth mewn masnach electronig, ar ôl gwasanaethu fel Athro BT mewn Masnach Electronig ac Ymgyfnewid Data Electronig a Phennaeth Dirprwyaeth y Deyrnas Unedig yng Nghanolfan Busnes Electronig y Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd wedi gwasanaethu am ddau dymor fel Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Cymru OFCOM.

Mae wedi bod yn gysylltiedig â’r Rhaglen Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn ar gyfer Busnes ers cam braenaru cyntaf y prosiect ac mae wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Grŵp Cynghori. Tony yw ei Gadeirydd ers y cychwyn a gofynnir iddo’n aml am sylwadau ac i siarad am fuddiannau rhyngrwyd band eang ac effaith bositif hynny ar yr economi.