Mae profiad cwsmeriaid yn cyfeirio at y profiad cyflawn y mae cwsmer yn ei gael wrth gyfathrebu â’ch busnes a’i ddefnyddio.

 

Os bydd defnyddiwr yn cael profiad gwych wrth ryngweithio â’ch busnes, bydd yn fwy tebygol o drosi, bod yn gwsmer ffyddlon a bod yn eiriolwr ar gyfer eich busnes

 

Er bod gwasanaeth cwsmeriaid yn rhan allweddol o brofiad cwsmeriaid, maent yn gwahaniaethu oherwydd bod gwasanaeth yn cyfeirio at y rhyngweithiad uniongyrchol y mae cwsmer yn ei gael gyda’r busnes neu weithiwr - p’un ai dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy negeseuon e-bost. Fodd bynnag, mae profiad cwsmeriaid yn ystyried y llu o bwyntiau cyffwrdd neu ffyrdd y gall defnyddiwr ryngweithio â’ch busnes - gan gynnwys eich gwefan, offer sgwrsio ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.  

 

Sut i gynnig profiad cwsmeriaid gwych:

 

Deall eich cwsmeriaid

 

Fel man cychwyn, mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod ac yn deall pwy yw eich cwsmeriaid. Bydd dealltwriaeth fanwl o’ch cwsmeriaid yn eich helpu i ddylunio eich gweithgareddau, pwyntiau cyffwrdd a gwasanaeth cwsmeriaid mewn ffordd fydd yn fwyaf addas i’w anghenion. Gallwch hefyd sicrhau eich bod chi’n cyflwyno eich cynnyrch neu wasanaeth yn y ffordd fwyaf priodol ar gyfer eich cwsmeriaid.

 

Ystyried taith y cwsmer

 

O’ch cynnig ar-lein ac ymddygiad eich tîm i ansawdd eich cynhyrchion a’ch holl weithgareddau cyfathrebu, mae profiad cwsmeriaid yn ystyried pob agwedd ar eich busnes. Mae’n bwysig eich bod chi’n amlinellu’r holl bwyntiau cyffwrdd y bydd defnyddiwr yn eu cael â’ch busnes a pa mor dda y byddant yn bwydo i mewn i’w gilydd. Gall system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid eich helpu i reoli taith y cwsmer yn effeithiol.   

 

Cysylltu â’ch cwsmeriaid ym mhob pwynt

 

Mae pwynt cyswllt yn gyfle i gysylltu! P’un ai yn y siop, ar-lein neu dros y ffôn; mae unrhyw gyfle sydd gan gwsmeriaid i gyfathrebu â’ch busnes yn gyfle i chi ddatblygu perthynas â nhw. Mae cwsmer sy’n cymryd rhan mewn perthynas emosiynol â’ch busnes yn fwy tebygol o fod yn edmygwr eich brand. Dylech ei gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid gymryd rhan mewn cyfathrebiadau dwyffordd â chi, fel eu bod nhw’n teimlo eich bod chi’n gwrando ac yn poeni amdanynt.

 

Casglu adborth cwsmeriaid - a gweithredu arno

 

Pan fyddwch yn dechrau ymgysylltu â’ch cwsmeriaid, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n casglu adborth ar eu taith a’u profiad fel cwsmer eich busnes. Gallech gasglu adborth trwy holiadur naid neu e-bost syml, sy’n annog cwsmeriaid i gymryd rhan trwy gynnig gostyngiadau. Trwy ddeall pa mor dda mae eich busnes yn ymddwyn ar draws pob pwynt cyffwrdd o safbwynt cwsmeriaid, byddwch yn gallu ffurfio profiad cwsmeriaid wrth ddatblygu. 

 

Gwnewch yn siŵr bod eich tîm yn eich cefnogi

 

Mae’n orfodol bod eich tîm cyfan yn gefnogol o’ch strategaeth profiad cwsmeriaid. Os ydych wedi datblygu tôn benodol wrth siarad â chwsmeriaid neu bersonoliaeth ar gyfer y brand, mae’n bwysig bod eich tîm yn ymwybodol ohoni ac yn cynnal cyfathrebiadau cyson.  Gallai un profiad gwael gydag un aelod o’r tîm, ni waeth faint o brofiadau da y maen nhw wedi’u cael, arwain at ddatgysylltu neu golli cwsmer.   

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen