Cyngor gorau i roi hwb i’ch Safle Peiriannau Chwilio

Mae Optimeiddio Peiriannau Chwilio yn elfen allweddol o strategaeth marchnata digidol unrhyw fusnes. Os ydych chi wedi buddsoddi mewn gwefan fusnes, mae’n bwysig nad ydych yn gadael iddi eistedd ar y rhyngrwyd yn casglu llwch. Dylech ddilyn yr arferion gorau er mwyn helpu i yrru traffig sydd â diddordeb at eich gwefan a helpu chwilotwyr, fel Google, i raddio eich busnes mor uchel â phosibl ar y tudalennau canlyniadau. 

Yn yr un ffordd ag y byddech yn cymryd camau i ddenu cwsmeriaid i’ch siop er mwyn gwerthu rhywbeth iddynt, mae angen i chi weithredu er mwyn denu cwsmeriaid at eich gwefan ar ‘stryd fawr ddigidol’ llawn cystadleuwyr.  

Gall gwneud nifer fechan o newidiadau i’r ffordd rydych yn optimeiddio’ch gwefan eich helpu i well amlygrwydd ar-lein eich brand a denu mwy o ymwelwyr er mwyn datblygu eich busnes.  

Dyma chwe darn o gyngor i’ch cynorthwyo chi i roi hwb i’ch safle peiriannau chwilio nawr:

Defnyddiwch eiriau allweddol strategol

Os nad yw eich geiriau allweddol yn gywir, nid oes gobaith gan eich gweithgareddau optimeiddio. Mae’n bwysig eich bod yn cychwyn eich ymgyrch Optimeiddio Peiriannau Chwilio gyda dealltwriaeth dda o’r geiriau allweddol sy’n mynd i leoli eich busnes chi o flaen eich cynulleidfa darged. Dechreuwch ymchwilio i eiriau allweddol er mwyn ystyried y termau penodol. Mae eich cynulleidfa’n debygol o deipio mewn i chwilotwr, yn ogystal â’r ymadroddion neu’r termau sy’n ymwneud â’ch busnes a’ch gwasanaethau. Meddyliwch fel defnyddiwr - beth fyddech chi’n chwilio amdano er mwyn dod o hyd i fusnes fel eich un chi?

Rhannwch gynnwys perthnasol

Ffordd ardderchog o roi hwb i’ch safle peiriannau chwilio, datblygu eich gwefan a chadw cwsmeriaid yw rhannu cynnwys perthnasol ac atyniadol. Sefydlwch flog i gyhoeddi erthyglau ysgogol, y newyddion diweddaraf neu ddarnau beirniadol. Nid yn unig y bydd hynny’n atal eich gwefan rhag marweiddio, ond gallwch hefyd helpu i ddatblygu perthnasedd ac awdurdod eich gwefan ar-lein. Yn ogystal, bydd cynnwys o ansawdd uchel yn darparu cyfle ardderchog arall i ddefnyddio geiriau ac ymadroddion allweddol i helpu chwilotwyr i ddeall eich busnes ac i’ch graddio’n briodol.

Peidiwch ag anghofio optimeiddio technegol

Er mwyn graddio gwefan eich busnes, yn aml bydd chwilotwyr yn defnyddio meddalwedd sy’n ymlusgo trwy eich gwefan er mwyn darllen y testun a’r cod. Bydd gwefan sydd wedi’i hoptimeiddio’n dechnegol yn helpu’r ymlusgwr i ddarllen a deall yr holl gynnwys. Dylai eich optimeiddio technegol ystyried eich strwythur URL, tagiau eich teitl a phenawdau a disgrifiadau meta, ymhlith pethau eraill.

Ceisiwch gyflwyno cynnwys unigryw

Nid cynnwys eich blog yn unig ddylai fod yn unigryw ac yn berthnasol. Mae’n bwysig cofio bod llwyddiant eich optimeiddio hefyd yn dibynnu ar gael amrywiaeth o gynnwys unigryw ar bob tudalen. Os byddwch yn ailadrodd gormod o’ch cynnwys – er enghraifft, testun hawlfraint neu fanylion cyswllt ar bob tudalen – bydd chwilotwyr yn cosbi eich gwefan am gynnwys dyblyg. Peidiwch â theneuo cynnwys eich gwefan trwy ailadrodd.

Anogwch adolygiadau a thystebau

Sicrhewch eich bod yn annog adborth oddi wrth eich cwsmeriaid. Nid yn unig bydd hynny’n eich galluogi chi i wneud gwelliannau hanfodol i’ch busnes ond mae’n cael effaith gadarnhaol, yn enwedig mewn perthynas â safleoedd chwilio lleol. Bydd adolygiadau ar-lein yn helpu i greu signalau i chwilotwyr am berthnasedd a phoblogrwydd eich gwefan. Po fwyaf o adolygiadau dilys y gallwch eu cynnwys ar eich gwefan, y gorau y bydd eich gwelededd. Yn ogystal, mae adolygiadau yn gweithredu fel ‘tysteb ar lafar’ ddigidol sy’n gallu helpu i yrru traffig at eich busnes ar draul cystadleuwyr.

Sicrhewch fod eich gwefan wedi ei hoptimeiddio ar gyfer technoleg symudol

Os nad yw eich gwefan wedi’i hoptimeiddio ar gyfer technoleg symudol, rydych chi eisoes yn methu allan ar gyfleoedd i sicrhau gwell safle peiriannau chwilio. Wrth i ddefnydd o ddyfeisiau symudol barhau i dyfu, mae’n bwysicach nag erioed bod gan eich busnes wefan sy’n hygyrch i ddefnyddwyr dyfeisiau symudol. Nid yn unig yw hynny’n hanfodol i sicrhau gwell safleoedd, ond bydd hefyd yn sicrhau gwell gwasanaeth a phrofiad i gwsmeriaid dyfeisiau symudol.

A allai eich busnes ddefnyddio technoleg i leihau costau a gwella twf?

Ymunwch â Cyflymu Busnesau Cymru mewn gweithdy rhad ac am ddim yn eich ardal chi!