1. Crynodeb

Gyda Band Eang Cyflym Iawn yn dod yn fwyfwy hygyrch, mae tyfu eich busnes dramor yn dod yn haws o lawer i fusnesau bach. Mae mwy o ddefnyddwyr nag erioed yn ymchwilio i gynhyrchion a gwasanaethau ar-lein ac yn eu prynu ar-lein, a thrwy glicio botwm yn unig, gallwch brynu’n rhyngwladol.

 

Mae gwerthu dramor yn swnio’n heriol, ond gall fod yn haws nag a feddyliwch.

 

Nid rhestr sydyn fydd y canllaw hwn o bwy i werthu iddynt a ble i werthu, gan fod pob diwydiant a busnes yn wahanol. Fodd bynnag, bydd yn dadansoddi’r prif ystyriaethau sydd ynghlwm â gwerthu dramor, gan roi cynghorion da ar sut i ehangu eich busnes yn llwyddiannus.

2. Pa fanteision allwn i eu disgwyl?

  • Rhwydweithio’n fyd-eang: Mae ehangu eich busnes yn cynnig cyfle i gysylltu â mwy o gwsmeriaid a phartneriaid busnes
     
  • Twf busnes: Mae cyrraedd darpar gwsmeriaid yn cynyddu’n sylweddol pan fyddwch chi’n masnachu dramor, ac mae technoleg ar-lein yn helpu i hwyluso hyn
     
  • Hyder yn y busnes: Mae busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn mabwysiadu’r cwmwl i gefnogi seilwaith gweithredu yn barod ar gyfer newidiadau anhysbys yn y farchnad
     
  • Risg wedi’i lliniaru: Wrth i’r dirwedd economaidd ddatblygu, bydd technoleg yn cefnogi ystwythder busnes i fodloni’r galw, gan gael cyn lleied o effaith â phosibl ar gost
     
  • Busnes gwell: Mae cystadleuaeth fyd-eang yn ysgogi arloesedd, yn cynyddu perfformiad, ac yn lledaenu risg gweithredu mewn un farchnad
     
  • Enw da i’r brand: Mae cwsmeriaid yn gyffredinol yn ystyried brandiau rhyngwladol fel rhai mwy credadwy, a allai roi hwb i’ch sylfaen cwsmeriaid

3. Enghraifft go iawn

Mae cwmni peiriannu manwl o Ogledd Cymru yn dathlu ehangu ar draws marchnadoedd llewyrchus a chynnydd o 20% mewn refeniw dros y 12 mis diwethaf.

 

“Yn ein diwydiant ni, mae’n rhaid i ni fod un cam ar y blaen, felly roeddem yn teimlo y dylem gysoni ein gweithrediadau busnes gyda’n henw da am ddarparu cydrannau o ansawdd uchel,” dywed Josh Harris, Rheolwr TG ar gyfer Tarvin Precision yn Sir y Fflint.  

 

Tarvin Precision employee on computer

 

Gan fod nifer fawr o gleientiaid Tarvin Precision yn gleientiaid byd-eang, mae uwchraddio i gysylltiad Band Eang Cyflym Iawn er mwyn cynyddu cyflymderau lawrlwytho i dros 80Mbps wedi gwneud eu cyfathrebiadau yn fwy dibynadwy o lawer. Trodd hyn yn arbediad cost o 50% ar gyfer eu cyllideb telathrebu flynyddol, a fydd yn cynyddu i 75% pan fydd cost ariannu’r buddsoddiad wedi’i thalu ymhen rhyw 12 mis. 

 

Mae’r galluoedd hyn wedi gyrru arbedion effeithlonrwydd mewn meysydd eraill o’r busnes, gan gynnwys ymdrin â galwadau sy’n dod i mewn, marchnata â rheoli data cleientiaid o ddydd i ddydd, data y gellir bellach ei anfon a’i dderbyn yn hawdd, ni waeth pa mor fawr yw’r ffeiliau data. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig i nifer o gyfrifon cleientiaid allweddol, sydd wedi cael sicrwydd hefyd gan y cysylltiadau diogel i staff fynd at ei weinydd o bell.

4. Y cyfle

Gan fod mwy o fusnesau a defnyddwyr cartref yn cael mynediad i Fand Eang Cyflym Iawn, mae mwy a mwy o bobl yn ymchwilio ar-lein, yn dewis ac yn prynu ar-lein. Yn wir, fe wnaeth rhyw ddwy ran o dair o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn yr EU siopa ar-lein yn 2016 (Eurostat). Felly mae’n werth ystyried p’un a ydych eisiau cynnal eich gwefan ar lwyfan e-fasnach sy’n cefnogi cynnwys amlieithog a thaliadau mewn arian cyfred gwahanol.

 

Neu os nad oes gwefan gennych, gallech weld a yw’n ymarferol gwerthu drwy’r gwefannau marchnad sy’n gweithredu’n rhyngwladol, fel eBay neu Amazon. Mae’n rhaid cyfaddawdu; rhaid i chi gyflwyno eich cynigion i brynwyr o fewn y fframwaith a ddyfeisiwyd ganddyn nhw. Ond bydd y gwasanaethau hyn eisoes wedi rhoi trefn ar faterion pwysig fel iaith a thaliadau, ac mae llawer o fanwerthwyr e-fasnach eithaf mawr yn gweithredu’n rhannol neu’n gyfan gwbl oddi mewn iddynt.

5. Dewiswch eich marchnad

I’r rhan fwyaf o fusnesau, mae’r potensial i werthu dramor yn gyfle go iawn. Os yw eich busnes yn barod i ehangu, mae’r rhesymau dros ystyried gwerthiannau tramor yn glir, ac mae llawer o’r egwyddorion sylfaenol union yr un fath ag ar gyfer busnes lleol. Mae arnoch angen cynnyrch neu wasanaeth y mae cwsmeriaid yn dymuno ei gael, a gallwch ei ddarparu am bris sy’n ddeniadol iddyn nhw ac sy’n broffidiol i chi.

 

Yn y manylion y mae’r her. Mae llawer ohonynt yn codi oherwydd nad un farchnad dramor sydd i’w chael, ceir dwsinau o wledydd sy’n ddigon mawr i gynnig cyfleoedd toreithiog, ac eto mae gan bob un ohonynt ei gofynion ei hun. Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol eich bod yn dewis eich marchnadoedd yn ddoeth. Prin iawn y bydd hyd yn oed y busnesau rhyngwladol mwyaf yn dechrau wrth geisio gwasanaethau’r byd cyfan.

6. Gwnewch eich gwaith ymchwil

Mae dewis ble i hyrwyddo a gwerthu dramor yn dibynnu ar lawer o ffactorau a dylid edrych ar bob busnes yn unigol. Fel canllaw, dylech nodi gwledydd lle:

 

  • Ceir galw amlwg am eich cynnyrch neu wasanaeth ac mae gennych rywbeth i’w gynnig nad yw cyflenwyr lleol presennol yn ei gynnig, er enghraifft nodweddion unigryw, neu brisiau cystadleuol.
     
  • Gallwch ymdrin ag addasiadau i’ch cynnyrch, gweithrediadau a chymorth i gwsmeriaid yn gost-effeithiol, a ph’un a fydd angen i chi osod cyflenwadau pŵer newydd.
     
  • Mae cyfran y farchnad y gallwch obeithio ei chael yn realistig yn cyfiawnhau cost sefydlu gweithrediad yn y wlad honno, a chostau parhaus ei reoli.

A dylech ystyried:
 

  • Sut bydd cwsmeriaid yn cael gafael ar ddefnyddiau traul a rhannau a ph’un a oes angen partner lleol arnoch ar gyfer rhoi cymorth i gwsmeriaid.
     
  • A fyddai’n economaidd ymarferol, neu’n bosibl hyd yn oed, ei ddarparu o’r DU ac a allwch chi gynnig cymorth cyn gwerthu neu ar ôl gwerthu yn yr iaith leol?
     
  • A ydych chi’n gallu cydymffurfio â gofynion cyfreithiol y wlad (e.e. cyfreithiau diogelwch y prynwr)
     
  • A oes unrhyw gyfyngiadau ar fewnforio neu allforio a threthi/tollau? Gall cyfreithwyr lleol a thramor sy’n arbenigo mewn masnach ryngwladol, cymdeithasau masnach a chorff y llywodraeth Masnach a Buddsoddi y DU fod yn ffynonellau gwybodaeth defnyddiol.

7. Cwestiynau i’w hateb

Mae’n bwysig  bod yn ymwybodol o’r ffaith nad yw pob prynwr yr un mor fodlon prynu o dramor. Lle’r ydym ni yn y DU yn tueddu i fod yn hapus yn siopa ar draws ffiniau, nid yw hyn yn wir i bawb ac mae’n werth nodi nad yw gwlad sy’n fawr a chefnog o reidrwydd yn golygu ei bod yn farchnad dda. Felly gwnewch eich ymchwil, a gwnewch hynny eto.

 

Pan fyddwch wedi dewis y gwledydd neu’r rhanbarth yr ydych yn eu targedu, mae’n werth gofyn y cwestiynau hyn:

 

  • A allwch chi gystadlu yn erbyn cyflenwyr lleol, o ran pris, dosbarthu a gwasanaeth cwsmeriaid? A oes lle i fod yn hyblyg gyda phrisiau?
     
  • A fydd gwerthu dramor yn eich gwneud yn llwyddiannus? Gall niferoedd mawr o archebion bach iawn, o wlad bell, fod yn ddim mwy na chur pen i’w cyflawni yn hytrach na chroesawu busnes newydd.
     
  • A allwch chi gynnig gwasanaeth personol ar-lein? Yn y byd ar-lein, mae cymorth ar ôl gwerthu, a darparu rhyw lefel o bersonoli, yn bwysig.
     
  • A ydych chi’n mynd i anfon y cynnyrch yn uniongyrchol o’r DU, neu gadw neu hyd yn oed weithgynhyrchu cynnyrch yn lleol mewn marchnadoedd allweddol o amgylch y byd?
     
  • A yw’r gallu gennych i weithgynhyrchu cynnyrch yn lleol fel eich bod yn torri costau cludiant ac yn cyflymu gwasanaeth i gwsmeriaid?
     
  • A ydych chi wedi ystyried yr agweddau cyfreithiol yn ogystal â’r agweddau ymarferol? Er enghraifft, gall fod angen labeli penodol ar ddeunydd pacio at ddibenion tollau.

8. Lleoleiddiwch yr hyn rydych yn ei gynnig

Pan fyddwch wedi penderfynu beth i’w werthu, ble i’w werthu a sut i’w werthu, bydd angen i chi ddatblygu strategaeth fanwl i gyflawni eich nod.

 

Dyma bwyntiau allweddol i’w cofio:

 

Diwylliant
 

Mae diwylliannau’n amrywio ar draws gwledydd a bydd angen adlewyrchu hyn yn yr hyn a gynigiwch. Nid yw cyfieithu’ch gwefan yn y DU yn ddigon. Er enghraifft, mae gan liwiau penodol gysylltiadau cadarnhaol neu negyddol gwahanol ledled y byd. Mae’r UDA (ar ei ben ei hun ymhlith y gwledydd mawr) yn defnyddio mesuriadau imperialaidd yn hytrach na metrig. Ac ati...

 

Enwau cynhyrchion
 

Efallai y gallech ystyried newid enwau cynhyrchion i gyd-fynd â gwahanol farchnadoedd. A fydd cyfres o lythrennau a digidau sy’n swnio’n dechnegol yn creu argraff ar brynwyr gwlad ynteu enw bachog, cofiadwy? A fydd y Saesneg yn neilltuo eich cynnyrch, neu’n troi cwsmeriaid oddi wrtho? Os nad yw enw cynnyrch yn eu hiaith leol, a ydyw’n hawdd iddynt ei ynganu?

 

Sicrhewch ei fod yn hawdd dod o hyd i chi
 

Mynnwch wybod a yw parthau rhyngwladol cyffredinol yn cael eu defnyddio (e.e.  www.mycompany.com/fr ar gyfer Ffrainc), neu barthau cenedlaethol gwahanol (e.e. www.mycompany.fr). Mae dewisiadau rhyngwladol o ran peiriannau chwilio yn amrywio hefyd, fel y mae’r termau a ddefnyddir. Ar gyfer gwerthiannau B2B, gallai presenoldeb mewn cyhoeddiadau masnachu lleol, ac ar wefannau cymdeithasau diwydiant a chyfryngau arbenigol, fod cyn bwysiced â chwiliad.

 

Mae rhai arbenigwyr yn awgrymu bod prynwyr yn hoffi’r teimlad lleol o barthau gwlad-benodol, ond y gallai un safle fod yn well ar gyfer gwella eich peiriant chwilio (SEO). Fel dewis arall, gallech gofrestru’r parthau lleol a’u defnyddio wrth farchnata, ond ailgyfeirio ymwelwyr yn awtomatig i un parth rhyngwladol. Mae’n syniad da cofrestru’r parthau sy’n berthnasol i enw eich busnes a phrif frandiau mewn gwledydd mawr beth bynnag, hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu eu defnyddio, er mwyn atal pobl eraill rhag cymryd mantais.

 

Mynnwch fod yn lleol
 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwedd leol i’ch busnes. Nid yn unig ar eich gwefan ond i’ch system negeseuon ffôn symudol, presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, a chynnwys a grëir gan ddefnyddwyr hefyd. A chofiwch gyd-fynd â phroffil technoleg pob gwlad. Nid oes fawr o bwrpas anfon dolenni i fideo ffôn symudol os nad oes gan fawr neb ffonau clyfar er enghraifft, neu fod gwasanaethau gwahanol gyfryngau cymdeithasol yn boblogaidd mewn gwahanol wledydd.

 

Gwnewch fywyd yn hawdd
 

Os nad ydych chi’n lleoleiddio ac yn disgwyl y bydd cwsmeriaid rhyngwladol yn dod i’ch gwefan y DU chi, gallwch wneud bywyd yn haws iddynt o hyd. Er enghraifft:

 

  • Darparu cyfrwng i drawsnewid arian
     
  • Osgoi cyfeiriadau aneglur at ddiwylliant bop y bydd Prydeiniwr yn unig yn eu deall
     
  • Mae ysgrifennu mewn Saesneg clir yn ei gwneud yn haws i bobl ddeall eich cynnig, ac yn ei gwneud yn haws cyfieithu’n awtomataidd hefyd.

9. Pwyntiau gweithredu a chynghorion a argymhellir

  • Mynnwch wybod eich cystadleuaeth: Cofiwch, busnesau lleol yw eich prif gystadleuwyr fwy na thebyg, nid cwmnïau Prydeinig eraill sy’n gwerthu i’r farchnad dramor.
     
  • Rhaid i chi ddeall gofynion penodol: Bydd rhai awdurdodaethau yn mynnu bod gennych bartner busnes lleol.
     
  • Rhaid i chi ddeall dewisiadau technoleg: Mae poblogrwydd cymharol cyfrifiaduron bwrdd gwaith gliniaduron, llechi, a ffonau clyfar yn amrywio’n helaeth. Mae rhai gwledydd yn defnyddio ffonau llawer mwy, tra bod rhai eraill yn dal i ddibynnu’n helaeth ar gyfrifiaduron personol.
     
  • Dewis iaith: Cofiwch y siaredir mwy nag un iaith yn helaeth mewn rhai gwledydd. Mae Canadiaid yn disgwyl gweld copi yn Ffrangeg yn ogystal ag yn Saesneg, er enghraifft.
     
  • Byddwch yn ofalus: Byddwch yn ofalus gyda hiwmor a chynnwys ‘mentrus’ fel hanner-noethni neu gyfeiriadau gwleidyddol. Nid ydynt yn cyfieithu’n dda, a gallent sarhau.
     
  • Prisio: Pennwch ac arddangoswch brisiau mewn modd sy’n gystadleuol, deniadol a dealladwy i’ch cwsmeriaid rhyngwladol, yn hytrach na’u trawsnewid o’ch prisiau Prydeinig yn unig.
     
  • Arian cyfred: Os yw eich safle’n ymdrin â nifer o wledydd â gwahanol arian cyfred, bydd prisiau doleri’r Unol Daleithiau neu’r ewro yn fwy dealladwy na sterling.
     
  • Yn olaf: Byddwch yn ofalus rhag gwneud camgymeriadau esgeulus. Gwiriwch nad yw enwau eich cynhyrchion, er enghraifft, yn swnio fel rhywbeth anfwriadol mewn iaith estron, neu ei fod eisoes yn enw neu’n wneuthuriad cynnyrch lleol.
     

10. Gwybodaeth ychwanegol