1. Crynodeb

Mae rhedeg busnes yn gallu cymryd cryn dipyn o'ch amser, heb ystyried teulu, plant, bywyd cymdeithasol, hobïau a phopeth arall mewn bywyd hefyd.

 

Os ydych chi’n hapus yn cadw pethau i fynd fel ag y maent neu os oes gennych uchelgais benodol i dyfu'r busnes, gall technoleg ar-lein ac ychydig allu digidol eich helpu i reoli'ch busnes a bodloni'ch anghenion personol gan ddefnyddio llawer yn llai o amser ac arian, a chan achosi llai o straen.

 

Bydd y canllaw hwn yn rhoi'r hyder i chi archwilio sut y gall y Cwmwl a thechnolegau ar-lein helpu i reoli costau gweithredol, gan gynyddu gwerthiant trwy ddefnyddio amrediad o sianelau er mwyn annog twf. Cewch gyflwyniad i'r prif elfennau y dylech eu hystyried er mwyn parhau i fod yn gystadleuol mewn byd digidol sy'n newid.

 

Mae canllawiau manwl ar gael i fusnesau bach a chanolig sy'n dymuno meithrin dealltwriaeth fanylach o Fand Eang Cyflym Iawn a'r technolegau ar-lein penodol y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon.

 

2. Pa fanteision y gallwn i eu disgwyl?

  • Costau dan reolaeth: Mae gweithgarwch storio data a meddalwedd y Cwmwl yn defnyddio model talu-wrth-ddefnyddio y mae modd cynyddu ei faint ar unwaith er mwyn bodloni eich anghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
     
  • Ymateb mwy sydyn: Gan bod nifer o gymwysiadau SaaS yn integreiddio'n gymharol hawdd, gallwch ymateb i anghenion y farchnad a gwneud newidiadau'n gyflym ac mewn ffordd gost-effeithiol.
     
  • Cydweithio iachach: Pan fydd systemau'n cydweithio ar draws adrannau ac isadrannau, bydd cyfle i ddadansoddi a gweithredu ar sail data cryfach am y farchnad.
     
  • Gwerthiant uwch: Mae strategaeth gydlynus sy'n rhedeg ar draws pob sianel farchnata yn ei gwneud yn hawdd i gwsmeriaid eich argymell chi, gan annog twf cyflymach.
     
  • Mwy o deyrngarwch gan gwsmeriaid: Gallwch wella perfformiad cadw cwsmeriaid gan ddefnyddio Rheolaeth Perthnasoedd Cwsmeriaid (CRM) a chyfryngau cymdeithasol er mwyn meithrin perthnasoedd.
     
  • Gwell gwasanaeth i gwsmeriaid: Gallwch ddefnyddio adroddiadau a gwaith dadansoddi CRM hefyd er mwyn cynllunio ymgyrchoedd marchnata a darparu gwasanaethau a chymorth cwsmeriaid estynedig.
     
  • Mwy o gynhyrchiant: Mae cymwysiadau sy'n seiliedig ar y Cwmwl yn caniatáu i staff nad ydynt ar y safle i ddiweddaru gwybodaeth yn y fan a'r lle, yn hytrach na gorfod dychwelyd i'r swyddfa.
     
  • Dewisiadau mwy synhwyrol: Mae troi cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb yn gyfarfodydd rhith yn eich caniatáu i leihau'r costau gymaint ag y bo modd, defnyddio llai o danwydd ac adennill amser a gaiff ei golli wrth deithio.

3. Enghraifft go iawn

Mae cwmni o Abertawe sy'n arbenigo ym maes dinistrio a gwaredu dogfennau cyfrinachol wedi cynyddu ei drosiant dros 28%. Aeth Matthews Confidential Shredding ati i ailwampio ei wefan, gan weithredu strategaeth newydd ar gyfer marchnata ar-lein, a chyflwyno system gwmwl ar gyfer ei holl wybodaeth reoli a'i wybodaeth am gwsmeriaid.

 

Matthews Confidential Shredding team

 

Roedd y newidiadau wedi gwella effeithlonrwydd prosesau mewnol yn fwy nag un rhan o dair, gan alluogi MCS i sicrhau contractau newydd, a oedd yn cynnwys sicrhau ei gleient cyntaf yng ngogledd Cymru, er mwyn ehangu ei ôl troed daearyddol.

 

Mae cyflwyno system gwmwl er mwyn storio a throi at wybodaeth reoli wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i'r busnes,” esboniodd y cyfarwyddwr gwerthu a marchnata, Nick Hardwidge.

 

“Mae'r gallu i droi at archebion a chofnodion cwsmeriaid, rhestrau offer a diweddaru'r dyddiadur gwaith dyddiol ar Yriant Google canolog yn golygu bod y tîm yn cydweithio'n fwy ac yn gweithio mewn ffordd fwy effeithlon. Rydym yn fusnes teuluol sy'n cynnig gwasanaeth cost-effeithiol a phersonol iawn i'n cwsmeriaid, ond mae'r dechnoleg newydd wedi ein galluogi i wella'n mantais gystadleuol a chystadlu gyda'r cwmnïau mwy yn y farchnad.”

4. Beth yw'r Cwmwl?

Gan ein bod yn gyfarwydd â lawrlwytho meddalwedd a storio data ar ein cyfrifiaduron neu'n rhwydweithiau ein hunain, mae symud i'r Cwmwl yn gallu teimlo'n gam brawychus.

 

Ond nid yw mor anniriaethol ag y credwch ei fod. Yn y bôn, rydych chi'n rhentu lle ar weinydd gan stordai enfawr er mwyn storio'ch data ac er mwyn troi at feddalwedd trwy'r rhyngrwyd gan gwmnïau sy'n rhentu lle hefyd.

 

Mae ychydig yn debyg i'r gwahaniaeth rhwng parcio'ch car ar eich tramwyfa lle y gallwch ei weld, a'i barcio mewn maes parcio aml-lawr diogel, lle na allwch ei weld ond rydych yn gwybod ei fod yno, ac ar yr amod eich bod yn parhau i dalu'r taliadau, gallwch fynd i'w gasglu.

 

Mae'r Cwmwl yn offeryn gwych i fusnesau bach a busnesau sy'n tyfu, gan bod ei fodel talu-wrth-ddefnyddio hyblyg yn golygu y gallwch chi ehangu a lleihau wrth i'ch anghenion busnes newid. Gan bod y Cwmwl yn blatfform cyffredin a ddefnyddir ar gyfer technoleg ar-lein, mae'n bwysig cydnabod ei rôl ar gyfer byd busnes modern.

 

5. Strategaethau twf llwyddiannus

Fel busnes deallus, dylech ymchwilio i’r farchnad, gwahaniaethu eich hun wrth eich cystadleuwyr, a chyfleu’r broblem yr ydych chi’n ei datrys ar gyfer eich cwsmeriaid mewn ffordd glir a syml. Yna, diffiniwch anghenion eich cynulleidfaoedd targed a’r sianelau y mae’n well ganddynt i bobl gysylltu â nhw trwyddynt, er mwyn i chi allu datblygu cynllun marchnata i hyrwyddo’ch busnes a sicrhau twf. Dylai hyn gynnwys cynhyrchion a gwasanaethau sy’n bodoli eisoes, yn ogystal ag unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau newydd ar y gorwel.

 

Neilltuwch amser i lunio negeseuon marchnata sy’n berthnasol i’ch cwsmeriaid ac sy’n gyson ar draws yr holl sianelau. Ac ystyriwch y daith y byddant yn mynd arni o’r tro cyntaf y byddant yn clywed am eich brand i’r adeg pan fyddant yn prynu. Er enghraifft:

 

  • Pa wefannau cyfryngau cymdeithasol y mae’ch cwsmeriaid yn eu defnyddio; gofynnwch iddynt ac ystyriwch Youtube, Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat, Linkedin a mwy
     
  • A yw hi’n hawdd dod o hyd i chi ar y chwilotwyr mwyaf poblogaidd; erbyn hyn, nhw yw’r ffynhonnell wybodaeth y bydd pobl yn ymddiried fwyaf ynddi
     
  • Pa wefannau neu fforymau y bydd eich cwsmeriaid yn ymweld â nhw; a oes modd i chi hysbysebu neu rannu cynnwys yno? (e.e.  efallai y byddai o fudd i fwthyn gwyliau yn Sir Benfro gysylltu â busnesau lleol eraill nad ydynt yn cystadlu â nhw neu gyda bwrdd twristiaeth Cymru)
     
  • A ydych chi’n gweithio’n lleol mewn cymuned sy’n darllen y papur newydd lleol o hyd; os oes gennych chi stori newyddion amlwg, gallech gael cyhoeddusrwydd am ddim
     
  • A yw’ch cwsmeriaid yn cytuno cael cylchlythyrau (a rhoi eu data i chi) yn gyfnewid am gynigion arbennig?
     
  • Mae’r strategaethau marchnata gorau yn creu brand y mae pobl yn cysylltu ag ef ac yn ei gwneud yn hawdd i’w cwsmeriaid gael y wybodaeth y mae ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, fel bod modd iddynt ddewis prynu a phenderfynu a ydynt yn dymuno rhannu adolygiad da

6. Rheoli twf gweithredol

Beth bynnag fo eu maint, gall unrhyw gwmni ddefnyddio Band Eang Cyflym Iawn er mwyn grymuso eu busnes gyda thechnoleg ar-lein. Ac efallai y bydd hyn yn haws i gwmnïau llai o faint ac sy’n fwy hyblyg ac yn cychwyn o’r gwaelod. Trwy ddatblygu map proses o’r hyn yr ydych yn dymuno ei gyflawni nawr ac yn y dyfodol, a dewis rhai cymwysiadau sy’n seiliedig ar y cwmwl cyn i chi brynu, gallwch gadw costau cyfalaf yn is a mireinio’ch prosesau wrth i chi dyfu.

 

Mae’n werth nodi bod y rhan fwyaf o gyflenwyr yn cynnig datrysiadau Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) sy’n seiliedig ar y cwmwl (talu wrth ddefnyddio), sy’n lleihau’r costau uchel o redeg busnes. Dylech gychwyn gyda phecynnau oddi ar y silff, sy’n cynnig gwerth am arian rhagorol os mai swyddogaethau busnes safonol a syml y mae gofyn i chi eu cael megis prosesau swyddfa, rheoli stoc, cyfrifon neu gyflogres. Os nad yw’ch gofynion yn rhai safonol, mae’n werth mapio’ch manyleb cyn i chi fireinio hwn yn Gais Am Ddyfynbris gan ddarpar gyflenwyr.

 

Peidiwch ag anghofio sicrhau bod hyn yn cydweddu â’ch holl ddyfeisiau a chaledwedd neu beiriannau eraill yr ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd neu’n bwriadu eu defnyddio yn y dyfodol. Yn ogystal, dylech ystyried a fyddai prydlesu eitemau drytach o fantais neu a yw hi’n well prynu a dileu’r costau yn gyflym yn erbyn treth.  Gan bod lwfansau Treth Gorfforaeth yn newid gydag amser, fe’ch cynghorir i ymgynghori â’ch cyfrifydd bob amser.

 

7. Cyngor a phwyntiau gweithredu a argymhellir

 

Cael cyrchfan

 

Mae Mynegai Sgiliau Digidol (2017) Banc Lloyds yn dangos nad oes gwefan gan 55% o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru eto. Er hyn, gall gwefan a ddefnyddir yn dda eich cysylltu â mwy o ddarpar gwsmeriaid nag unrhyw ddull hyrwyddo arall. Yn hytrach nag oedi cyn mynd ati i ddatblygu gwefan, ystyriwch ddewisiadau fforddiadwy megis defnyddio dylunydd llawrydd sy’n cynnig pecynnau gwe-letya, neu ddatblygu’ch gwefan eich hun gan ddefnyddio templedi syml gan Wordpress neu gyflenwyr eraill.

 

Bod yn gymdeithasol

 

Mae ymchwil gan Fynegai y We Fyd-eang yn 2017 yn dangos bod defnyddwyr y rhyngrwyd bron bob amser yn rhwydweithwyr cymdeithasol, hyd yn oed yng ngrŵp oedran 55-64 (94%). Mae anfon negeseuon, newyddion ac adloniant (gan gynnwys fideo) yn rhesymau mawr dros ymweld â rhwydweithiau cymdeithasol lluosog am tua dwy awr a 15 munud bob dydd ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae gan yr elfen gymdeithasol rôl pwysig mewn teithiau prynu, a dyma’r rheswm pam bod cymaint o fusnesau bach a chanolig yn creu tudalen fusnes ar Facebook oherwydd ei botensial masnachol.

 

Mae bron i 2/3 o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn prynu cynhyrchion ar-lein ac yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol at ddibenion ymchwilio i gynnyrch (gweler y graff isod gan GWI). Felly gwnewch eich gwaith ymchwil ac ystyriwch pa rwydweithiau y mae’ch cwsmeriaid chi yn eu defnyddio.

 

Arbed arian

 

Manteisiwch ar y feddalwedd sydd ar gael i ddylunio pamffledi neu lawlyfrau ar-lein a ddarparir i gwsmeriaid fel deunydd .pdf i’w lawrlwytho.  Gall sicrhau bod modd troi at y rhain trwy eich gwefan fod yn ffordd wych o leihau costau argraffu. I’r un perwyl, mae anfon e-gylchlythyrau gan ddefnyddio cynnyrch fel MailChimp yn syml, yn effeithiol ac am ddim os bydd angen swm cymedrol arnoch.

 

Gwneud dewisiadau deallus

 

Mae cymwysiadau symudol yn llywio’r newid tuag at Brotocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP), sy’n galluogi defnyddwyr i weithio gyda dyfeisiau ac eithrio’r ffôn traddodiadol ar y ddesg yn y swyddfa a chysylltu trwy’r rhyngrwyd. Cofiwch, hyd yn oed os oes gennych chi linell tir draddodiadol, gallwch fanteisio ar alwadau fideo gyda chwsmeriaid a chysylltiadau busnes trwy ddefnyddio pecyn fel Skype. Bydd hyn yn caniatáu i chi rannu negeseuon gwib a gwneud galwadau llais a fideo ar draws y byd yn rhad ac am ddim.

 

Bod yn gynhyrchiol

 

Mae meddalwedd cynhyrchiant swyddfa yn caniatáu i ddefnyddwyr lluosog weithio o’r un ddogfen ar yr un pryd, ac o unrhyw le. Fe’u cynlluniwyd i weithio ar draws amrediad o ddyfeisiau a systemau gweithredu, ac mae nifer ohonynt yn cynnwys ‘apiau’ penodol sydd ar gael i’w lawrlwytho. Dyma rai i chi eu hystyried; Google apps, Microsoft 365, Skype, Lync, GoToMeting, ProjectPlace, Replicon, SharePoint, Dropbox, ac Exchange.

 

Pwysigrwydd llif

 

Efallai y byddwch yn penderfynu eich bod yn dymuno marchnata i gwsmeriaid trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol, cofnodi eu gwybodaeth ar system CRM a gwneud trefniant cyfathrebu awtomataidd er mwyn annog arweiniadau trwy eu penderfyniadau prynu. Dechreuwch trwy fapio llif cyffredinol gwybodaeth cwsmeriaid, gan roi hwn mewn fframwaith cyn ymchwilio i ba becynnau meddalwedd sy’n debygol o fod yn ddefnyddiol.

 

8. Gwybodaeth ychwanegol