Gweminarau cystadlu ar-lein
Mae’n bryd bod ar flaen y gad. Gan fod y cyfyngiadau symud yn cyfyngu ar yr hen ffyrdd o wneud busnes, mae’ch cystadleuwyr yn sicr wedi troi eu golygon tuag at fasnachu ar-lein erbyn hyn.
Bydd ein gweminarau Cystadlu ar-lein yn dangos i chi sut mae denu cwsmeriaid newydd a sicrhau eu bod yn dod yn ôl atoch yn y byd prysur newydd hwn o werthu ar-lein.
Peidiwch ag anghofio trefnu eich sesiwn 1:1 gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol pan fyddwch chi yn y gweithdy!
Dywedodd 97% o’r rhai fu ar ein cyrsiau eu bod yn fuddiol i’w busnes
- “Mae cael rhagor o gyngor yn amhrisiadwy”
Sunnybank Holiday Accommodation
- “Roedd yn fuddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth”
Davies Warlow Chartered Accountants
- “Roedd yn fanwl iawn, a byddai o gymorth mawr i unrhyw fusnes”
Counselling Choices
Mae ein gwasanaeth llawn yn cynnwys
- Gweithdai busnes am ddim: cyfle i ddysgu ffyrdd ymarferol o fanteisio i’r eithaf ar adnoddau ar-lein a thechnolegau ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr
- Cymorth un i un wedi’i deilwra: cyfle am sesiwn un i un gyda Chynghorydd Busnes Digidol a chynllun gweithredu wedi’i deilwra
- Adolygu gwefan: cyfle am adolygiad am ddim o’ch gwefan i ddod o hyd i feysydd i’w gwella er mwyn ennill cwsmeriaid newydd
- Chwilio am bwnc digidol gwahanol? Tarwch olwg ar ein gweithdai am ddim eraill
- Oes angen cyngor ymarferol arnoch?Ewch i'n Cronfa Wybodaeth.
- Unrhyw gwestiynau?Cysylltwch â’n tîm ni heddiw.
Telerau ac Amodau
Gallwch ddod o hyd i sut mae Busnes Cymru yn delio â’ch gwybodaeth, yma. Os ydych yn archebu eich lle mewn digwyddiad gan Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru, efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi er mwyn cynnig gwasanaeth personol neu wasanaeth lleol, er mwyn rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth, er mwyn gofyn eich barn ac i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau.
Mae gan wefannau rydyn ni’n cysylltu â nhw Delerau ac Amodau sy’n debygol o fod yn wahanol i’n rhai ni. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.
“Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn gyfrwng i’n helpu ni i dyfu ein busnes...”
Darllenwch sut mae Magnolia yn llwyddo gyda’r cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi’n barod i ymuno â nhw? Cofrestrwch gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cymorth digidol am ddim!