Gweminarau hyrwyddo eich busnes

Y byd ar-lein yw’r stryd fawr newydd erbyn hyn ac mae eich cwsmeriaid yn treulio mwy o amser yn sgrolio drwy ffrydiau cymdeithasol a gallwn ni eich helpu i ddenu eu sylw.

Bydd ein cyfres o weminarau Hyrwyddo’ch Busnes am ddim yn dangos i chi sut mae cyfryngau cymdeithasol yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid a dod o hyd i rai newydd sy’n gallu cadw'r arian i lifo.

Byddwn yn dangos i chi sut mae dal ati i ymgysylltu a chael atgyfeiriadau a sut mae darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb o bell.


Marchnata E-bost Effeithiol  

Marchnata drwy e-bost yw un o’r offer marchnata digidol rhataf a mwyaf effeithiol sydd ar gael. Byddwn yn dangos i chi sut mae datblygu strategaeth farchnata e-bost lwyddiannus a chreu ymgyrchoedd e-bost sy’n cyflawni. Mae’r meysydd sy’n cael sylw yn y weminar hon, Marchnata E-bost Effeithiol, sy’n rhad ac am ddim, yn cynnwys: 

  • Sut mae creu ymgyrchoedd e-bost personol sy’n sefyll allan   

  • Sut i ddatblygu strategaeth farchnata effeithiol 

  • Sut mae creu rhestr e-bost a chydymffurfio’n unol â GDPR 

Gwelwch dyddiadau a chofrestrwch eich diddordeb


Cyfryngau Cymdeithasol – Lefel Sylfaenol

Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth newydd i chi? Os oes angen help arnoch i gyrraedd cwsmeriaid, gallwn ddangos i chi beth yw hanfodion codi eich proffil a hyrwyddo eich busnes ar-lein. Mae meysydd o fewn y cyflwyniad i’r cyfryngau cymdeithasol hwn yn cynnwys:

  • Cynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
  • Sut mae defnyddio Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn ar gyfer busnesau
  • Trefnu cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio Hootsuite, Buffer a mwy

Gwelwch dyddiadau a chofrestrwch eich diddordeb


Cyfryngau Cymdeithasol – Lefel Uwch

Ydych chi eisiau gwella cyfryngau cymdeithasol eich busnes? Dysgwch sut mae gwerthu drwy lunio strategaeth cyfryngau cymdeithasol gref sy’n eich helpu i sefyll allan. Mae’r meysydd sy’n cael sylw yn y cwrs cyfryngau cymdeithasol hwn yn cynnwys:

  • Sut mae llunio strategaeth cyfryngau cymdeithasol
  • Ymgysylltu mwy ar-lein
  • Mesur llwyddiant drwy ddefnyddio metrigau

Gwelwch dyddiadau a chofrestrwch eich diddordeb


Darparu Cyrsiau Ar-lein a Gwasanaethau Rhithwir

Fyddech chi’n gallu darparu eich gwasanaeth wyneb yn wyneb o bell? Oes gennych chi syniad gwych am gwrs ar-lein? Gallwn ddangos ffyrdd hawdd o ddarparu eich gwasanaethau ar-lein. Mae’r meysydd sy’n cael sylw yn y weminar cyrsiau ar-lein hon yn cynnwys:

  • Sut mae hyrwyddo eich cyrsiau/gwasanaethau ar-lein newydd
  • Platfformau ar-lein ar gyfer rheoli cyrsiau ar-alw
  • Defnyddio systemau i dderbyn archebion a thaliadau

Gwelwch dyddiadau a chofrestrwch eich diddordeb


BC Digwyddiadau

12 Ebr 2023
Y Cyfryngau Cymdeithasol i Ddechreuwyr - CCIF (Ar-lein)
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn dangos ffyrdd hwylus...
13 Ebr 2023
Marchnata E-bost Effeithiol - CCIF (Ar-Lein)
Er gwaethaf dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol,...
18 Ebr 2023
Gwefannau - CCIF (Ar-Lein)
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn cynnwys technegau...
19 Ebr 2023
Cyflwyniad i Optimeiddio Peiriannau Chwilio [SEO] -CCIF (Ar-Lein)
Mae'r cwrs ar-lein hwn yn esbonio sut i sicrhau...
Fwy o Ddigwyddiadau