1. Cyflwyniad

Arbenigwr digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau, Catrin Williams, sy’n darparu canllaw defnyddiol ar symud eich gwasanaethau a'ch cyrsiau ar-lein.


Mae bywyd yn sicr wedi newid i ni i gyd dros y 12 mis diwethaf, yn broffesiynol ac yn bersonol. Yr holl bethau bach hynny a gymerwyd yn ganiataol - mynd i'r siopau, bwyta allan a chymdeithasu wyneb yn wyneb. I'r rheini ohonoch chi ym myd busnes mae wedi golygu straen ychwanegol yn sgil colli incwm gwerthfawr a chwsmeriaid hefyd, o bosibl, os ydynt wedi rhoi’r gorau i wario neu wedi mynd i rywle arall.

Beth allwch chi ei wneud? Wel, yn dibynnu ar yr hyn mae eich busnes yn ei gynnig, mae addasu eich gwasanaeth i helpu i gynhyrchu arian, gwneud y mwyaf o adnoddau ac adeiladu gwydnwch yn opsiwn ond ble mae dechrau ar hyn i gyd? Efallai’ch bod yn gweld eraill yn llwyddo, yn arallgyfeirio'n gyflym i gynhyrchion neu farchnadoedd newydd ac rydych chi'n teimlo eich bod yn sefyll yn eich unfan heb wybod beth i'w wneud, beth i'w gynnig, sut i'w wneud, neu os yw hyd yn oed yn bosibl - ac mae hyder yn chwarae rhan fawr yn hyn hefyd!

Gadewch i arbenigwyr digidol Cyflymu Cymru i Fusnesau helpu i fagu eich hyder – cysylltwch â ni heddiw

2. Ddoe a heddiw

Efallai eich bod yn arfer cynnal dosbarthiadau ffitrwydd neu ioga prysur, gweithdai blodau neu gacennau, neu sesiynau celf a chrefft, a bod y cyfyngiadau symud wedi rhoi terfyn ar eich holl weithgareddau wyneb yn wyneb.

Mae cynllunio wedi bod mor anodd i fusnesau. Un funud mae’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio a'r nesaf daw cyfnod clo lleol arall i chi'ch hun neu i'ch cwsmeriaid sy'n byw y tu allan i'r ardal, ac mae hyn i gyd wedi rhoi cur pen i lawer o fusnesau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae llawer o fusnesau wedi gallu datblygu eu sylfaen cwsmeriaid ar-lein bresennol ac ychwanegu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Ond i eraill mae wedi bod yn anoddach – efallai nad oes ganddynt systemau a seilwaith ar waith na digon o hyder gyda’r byd digidol, offer TG cyfyngedig, tolc mawr yn eu hincwm ond gobaith, serch hynny, y byddai eu busnes yn gallu agor ei ddrysau eto rywbryd.

Felly bron i 12 mis yn ddiweddarach, sut allwch chi ddiogelu eich busnes a'ch dyfodol?

Mae eich cwsmeriaid yn fan cychwyn da: gallwch holi a chael rhai syniadau am eich syniad posibl o gynnal gweithgareddau ar-lein. Maent wedi eich cefnogi chi o'r blaen a gobeithio y byddan nhw’n awyddus i'ch cefnogi nawr. Gofynnwch iddyn nhw beth yw eu barn am eich syniadau, a fydden nhw'n hoffi gweld eich gwasanaeth ar-lein? Mae cwsmeriaid yn awyddus iawn i gael rhywfaint o weithgarwch ac ymgysylltiad â chi eich hun ac eraill, yn enwedig eich cwsmeriaid rheolaidd. Gofynnwch beth fyddai’n achosi iddynt betruso e.e. gallu technegol, mynediad i'r rhyngrwyd ac offer cyfrifiadurol neu ffôn clyfar.

Ym myd newydd Zoom, Microsoft Teams, Google Classroom, Facetime ac ati, mae gan wahanol bobl lefelau amrywiol o wybodaeth, medr a hyder wrth ddefnyddio'r llwyfannau hyn. "Karen, ti ar miwt!" yw’r geiriau sydd wedi’u hanfarwoli ym myd rhithwir y flwyddyn ddiwethaf, wedi’r cyfan.

Efallai y bydd rhai cwsmeriaid eisoes wedi arfer â chael mynediad i'ch gwasanaeth neu arlwy ar-lein, ond i eraill gall fod yn ffordd gwbl newydd o wneud pethau. Er enghraifft, efallai fod rhai cwsmeriaid yn gwylio fideos dawns ar YouTube yn rheolaidd ond heb ystyried defnyddio dosbarth dawns ar-lein o'r blaen. Neu'r addurnwyr cacennau brwd sydd ar Facebook a Pinterest byth a beunydd yn edrych am ysbrydoliaeth, ond sydd heb ystyried ymuno â'ch gweithdy ar-lein misol.

Efallai eu bod yn meddwl:

  • Sut fydd hwn yn gweithio?
  • Alla’ i ofyn cwestiynau i'r tiwtor?
  • Dydw i ddim yn dda iawn ar y cyfrifiadur ac ati.

...felly meddyliwch am y cwestiynau, yr amheuon a'r rhwystrau posibl hynny sydd gan bobl – rhowch eich hun yn eu hesgidiau nhw. Byddwch chi’n gyfarwydd â chroestoriad o'ch cwsmeriaid a'u cefndiroedd felly defnyddiwch hynny fel man cychwyn ac mae'n debyg y bydd llawer mwy o gwestiynau unwaith yr ewch chi allan a dechrau cysylltu â chwsmeriaid i gael adborth.

Bydd rhai cwsmeriaid yn hoffi'r arddull dysgu sy’n gofyn rhyngweithio mewn grŵp ond efallai y byddai'n well gan eraill gael mwy o hyfforddiant un-i-un felly cofiwch ystyried hynny wrth gynllunio.

Mae adborth cwsmeriaid yn wych a gobeithio y bydd yn atgyfnerthu eich syniad mai gweithgareddau ar-lein yw'r ffordd ymlaen – am y tro, ac ar gyfer y dyfodol, i redeg ochr yn ochr â'ch dosbarthiadau corfforol a'ch gweithdai pan allwch chi agor eich drysau led y pen unwaith eto. Efallai y gallwch chi ddenu cwsmeriaid nad ydynt yn lleol i chi a fydd am barhau â'r dosbarthiadau ar-lein, gan helpu i ddiogelu eich busnes nawr ac ar gyfer y dyfodol.

3. Llwyfannau ar-lein

Ystyriwch eich llwyfan o ddewis – ble mae dechrau arni? Mae llu o wahanol lwyfannau ar gael, yn rhad ac am ddim a rhai sy’n codi tâl. Dyma rai o'r rhai mwyaf poblogaidd:

Dysgwch fwy am ein gweminar Darparu Cyrsiau Ar-lein a Gwasanaethau Rhithwir am ddim

4. Offer ac amgylchedd

Wel y newyddion da yw nad oes angen i chi wario ffortiwn: cyn belled â bod gennych liniadur neu gyfrifiadur dibynadwy, dylai hynny fod yn ddigon i chi allu bwrw ati.

Mae camerâu sy’n dod gyda’r galedwedd fel arfer yn ddigonol ond gallwch brynu gwe-gamera ar gyfer cyfleuster golwg agosach neu olwg o’r ochr. Mae cylchoedd golau’n boblogaidd iawn ar gyfer cynyddu faint o olau sydd arnoch, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Efallai y byddwch hefyd am glipio meicroffon arnoch yn dibynnu ar ansawdd sain eich offer cyfrifiadurol.

A oes angen cefndir neu ofod desg/bwrdd pwrpasol arnoch ar gyfer eich gweithgaredd? Cynlluniwch eich lle yn unol â’r gweithgaredd.

A fydd gennych lonydd i gyflawni eich gweithgaredd? Unwaith eto, rhywbeth i'w ystyried yn yr oes sydd ohoni gydag addysg gartref, partneriaid ac eraill sydd hefyd yn gweithio gartref, ac ymddangosiadau annisgwyl ar y sgrin gan anifeiliaid anwes!

Gallwch ystyried sefydlu lle pwrpasol yn eich safle busnes os oes gennych un, lle bydd gennych bopeth wrth law gan gynnwys cynhyrchion efallai y byddwch am eu dangos (neu werthu drwy gysylltiad).

5. Meddwl am eich rhestr o bethau i'w gwneud

Cynllunio gwersi a chynnwys, sawl sesiwn yr wythnos/mis? Ystyriwch gynhyrchu canllaw ‘Sut i…’ ar gael mynediad i'ch llwyfan (neu ganllaw ‘beth i'w wneud os yw pethau'n mynd o chwith’!) Beth arall ddylai eich llwyfan ei wneud? e.e. rhannu lluniau, cyfleuster i ofyn cwestiynau y tu allan i'r sesiwn, ac ati?

A fyddwch chi’n cofnodi eich sesiynau cyfan neu'r elfen gyfarwyddo yn unig? Mae hwn yn rhywbeth i feddwl amdano ar gyfer pobl na allant efallai fynychu pob sesiwn. Mae hefyd yn dda cael hyn i bobl ei wylio'n ôl ar ôl y sesiwn i’w hatgoffa neu os ydyn nhw'n ansicr am dechneg benodol.

Unwaith y bydd y cynnwys hwn wedi'i gadw, gallech ystyried defnyddio llwyfan dysgu arall fel Udemy lle gallwch werthu eich gweithdai i gynulleidfa ehangach am amryw brisiau.

Sut y byddwch chi’n cymryd taliadau? A fydd ffi ymlaen llaw ar gyfer nifer penodol o ddosbarthiadau (tymor) neu dâl wrth i chi archebu? Mae hwn yn faes pwysig i'w ystyried yn dibynnu ar eich cynnig.

Profwch eich gweithgaredd cyn ei lansio i'r byd a’r betws!

6. Beth allai weithio ar-lein?

Allech chi ddarparu eich gwasanaeth wyneb yn wyneb o bell? Oes gennych chi syniad gwych ar gyfer cwrs ar-lein? Dyma rai o'r gwasanaethau y gellid eu rhedeg ar-lein:

  • Ffitrwydd, dawns, ioga a gweithgareddau eraill sy'n seiliedig ar iechyd
  • Gweithdai a dosbarthiadau celf a chrefft
  • Addurno cacennau
  • Dylunio â blodau
  • Dosbarthiadau meistr ar goluro
  • Blasu gwin
  • Dosbarthiadau iaith
  • A llawer mwy!

7. Cynyddu eich incwm ymhellach

Felly nid yn unig y bydd gennych rywfaint o incwm gan eich cwsmeriaid sy'n mynychu eich gweithgaredd ar-lein, cewch gyfle hefyd i werthu drwy gysylltiad a gwneud rhywfaint o arian ychwanegol! Er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu ffabrigau neu ategolion gwnïo/crefft gallech hyrwyddo'r rhain drwy eich dosbarth ar-lein a chael eitemau wedi'u pecynnu ymlaen llaw yn barod i'w harchebu cyn i'r dosbarth ddechrau.

Neu gallech gynnig cwrs lefel mynediad, gan arwain at y lefel nesaf a fydd yn meithrin sgiliau a gwybodaeth ond hefyd yn annog cwsmeriaid i archebu eto.

8. Sut i ennyn diddordeb pobl

Felly sut mae cyflwyno'r cyfle gwych hwn? Ystyriwch pwy yw eich cynulleidfa darged. Gallai hyn fod yn gwsmeriaid presennol, cyn gwsmeriaid, eich dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, eich cronfa ddata marchnata drwy e-bost - mae'r rhestr yn faith!

Hefyd, meddyliwch am ddefnyddio hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a grwpiau Facebook sy'n canolbwyntio ar ddiddordeb arbennig e.e. ffitrwydd, cacennau, crefftwyr, ac ati.

Dysgwch fwy am ein gweminarau Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol am ddim

A pheidiwch ag anghofio eich ffrindiau a'ch teulu ffyddlon yn y lle cyntaf. Weithiau, y rhai sydd agosaf atoch chi sy’n gallu helpu i roi’r gair ar led i'w cysylltiadau, eu cydweithwyr a'u cymdogion. Weithiau does dim dull gwell na rhannu’r si ar lafar!

9. Cael cymorth arbenigol

Yn olaf, siaradwch â chynghorydd digidol fel fi neu un o'm cydweithwyr. Drwy gofrestru ar ein rhaglen gymorth am ddim gallwch gael mynediad at weminarau a chyngor un-i-un am ddim.

Fe welwch fwy o ganllawiau, awgrymiadau ac erthyglau busnes yn ein Cronfa Wybodaeth, yn ogystal â'n cyfeiriadur Meddalwedd Hanfodol am ddim a diduedd.

Cofrestrwch eich busnes gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau a dechreuwch eich taith ddigidol heddiw!