Ar ôl blwyddyn arall yn llawn amrywiaeth, mae busnesau’n chwilio am ragor o ffyrdd o gyfathrebu â chwsmeriaid ar-lein a chynyddu gwerthiant yn 2022.  

 

Mae technoleg wedi chwarae rhan hollbwysig o ran helpu busnesau i addasu i'r oes ddigidol a chynyddu eu presenoldeb ar-lein yn ystod y pandemig. Dywed hyd at 41% o berchnogion busnesau bach na fyddai eu busnes wedi goroesi heb offer digidol, yn ôl y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes.  

Serch hynny, mae 39% o fusnesau bach yn teimlo eu bod nhw’n cael eu llethu gan faint o offer digidol sydd ar gael ac mae 32% eisiau gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol ond nad ydynt yn siŵr sut i ddechrau na ble i fynd i gael cyngor.   

Mae'n bosibl bod angen help llaw ar eich busnes ar-lein, i dargedu’r gynulleidfa iawn, neu droi’r cwsmeriaid posibl yn gwsmeriaid ffyddlon. Y naill ffordd neu’r llall, mae tîm Cyflymu Cymru i Fusnesau yn barod i helpu, gyda gweminarau am ddim a chyngor un-i-un wedi ei deilwra. 

Fe wnaethom gefnogi 1,097 o fusnesau yn 2021 i’w helpu i werthu nwyddau, arbed amser, manteisio i’r eithaf ar adnoddau a meithrin hyder digidol. 

Cofrestrwch ar gyfer gweminarau am ddim 

Carpentry business Hazlewood stood in their workshop

 

Mae Hazelwood Carpentry yn un o nifer o fusnesau sy’n elwa ar y rhaglen. Mae’r cwmni’n rhagweld twf o 20% o un flwyddyn i’r llall ers mabwysiadu systemau digidol i’r busnes.  

Ysbrydolodd y cymorth ni i gyflwyno meddalwedd rheoli contractau newydd sydd wedi cynyddu cynhyrchiant 20% ac wedi diogelu’r busnes at y dyfodol rhag gofynion cyfnewidiol y diwydiant. 

“Fe wnaethom hefyd lansio gwefan newydd sy’n hwylus i gwsmeriaid ac sy’n adlewyrchu ein dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y byd digidol. 

“Rydym wedi symleiddio map y wefan, wedi lleihau nifer y tudalennau ac wedi bod yn llawer mwy detholus o ran y cynnwys sy’n cael ei arddangos.”  

Darllen y stori'n llawn: Busnes gwaith coed yn awchu i ehangu ar ôl cychwyn ar ‘siwrnai ddigidol’

Drwy fanteisio ar ein cymorth un-i-un, arhosodd yr asiantaeth marchnata digidol InSynch ar flaen y gad yn ystod y pandemig drwy gynnal cyfarfodydd ar-lein i dros 900 mewn dim ond pum mis drwy Google Meet.  

“Gan nad oes angen teithio, mae’n hawdd i mi fod 50% yn fwy effeithlon nag o’r blaen. Mae nifer y cyfarfodydd cleientiaid y gallwn eu cael wedi cynyddu’n sylweddol, felly rydym yn gwasanaethu ein cleientiaid yn well. 

“Roedd yn gyfle gwych i gael adborth diduedd o’r tu allan i’r busnes. Parodd hynny i ni gymryd cam yn ôl a chanolbwyntio ar beth oedd yn gweithio a sut gallem gymhwyso hynny i rannau eraill o’r busnes.” 

Darllen y stori'n llawn: Newidiodd y pandemig ein model busnes digidol am y gorau

 

 

Mae mynd yn Ddigidol yn sicr wedi talu ar ei ganfed i Abigail Hannah Makeup ar ôl dechrau’r flwyddyn newydd gyda rhagolygon disglair o ran gwerthiant a chadw cwsmeriaid. 

“Fe wnes i sylwi ar ragor o ymholiadau a chwsmeriaid newydd tua mis ar ôl rhoi’r newidiadau a awgrymwyd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau ar waith. 

“Roedd gen i wefan sylfaenol am ddim, ond dim ond am fy mod i’n gwybod bod angen rhywbeth arna i. Erbyn hyn mae gen i wefan sy’n edrych yn fwy proffesiynol, ond yn bwysicach na hynny mae pobl yn dod o hyd iddi drwy beiriannau chwilio. 

“Ar ben hynny, rwyf wedi gosod system archebu, sy’n caniatáu i bobl archebu ar-lein yn lle fy mod i’n gorfod rheoli hyn â llaw, gan orfod cadw golwg ar drefnu dyddiadau ac amseroedd.” 

Darllen y stori'n llawn: Am harddwch! Ffyniant busnes coluro yn gwireddu breuddwyd

At ei gilydd, mae 3,615 o fusnesau a ddaeth i’n gweminarau yn 2021 wedi gwneud newidiadau cadarnhaol gyda thechnoleg ddigidol.  Ac fe allwn ni eich helpu chi i wneud hynny hefyd.  


Dechreuwch eich taith ddigidol heddiw gyda’n cymorth wedi ei deilwra. Cysylltwch â ni