Manteision Cyflymu Busnesau Cymru

Mae band eang cyflym iawn yn galluogi technolegau newydd y gall eich busnes eu harneisio i helpu i arbed arian, lleihau costau a chynyddu elw. Mae pob diwydiant yn wahanol a bydd gan bob busnes nodau ac amcanion unigryw maen nhw’n ymdrechu i’w cyflawni. Dyma rai o'r manteisio a allai ddod yn sgil band eang cyflym iawn:

Cynyddu cynhyrchiant

Increase productivity

Gall cyflwyno gweithio hyblyg alluogi staff i fod yn fwy sionc, gan ostwng absenoliaeth a chynyddu morâl. Canllaw: Gweithio Hyblyg
 

Cynyddu effeithlonrwydd

Increase efficiency

Mae band eang cyflymach yn rhoi llwyfan mwy dibynadwy a sefydlog i chi, fel y gall defnyddwyr lluosog rannu'r un cysylltiad gwasanaeth heb arafu. Canllaw: Dewis ISP
 

Dal gafael mewn cwsmeriaid a’u ffyddlondeb

Increase retention

Mae dadansoddiad manwl yn eich galluogi i gyfathrebu gyda'ch cwsmeriaid ar yr adeg pan maen nhw’n fwyaf tebygol o brynu. Canllaw: Sut i ddatblygu eich gallu i Reoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM)
 

Cadw eich bys ar y pwls

Stay up to date

Sicrhewch eich bod yn cael y feddalwedd busnes ddiweddaraf a gorau drwy'r cwmwl, ynghyd â galluoedd fel cadw copïau wrth gefn o ddata ar amrantiad er mwyn cael gwared ar boen meddwl diogelwch ac uwchraddio. Canllaw: Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS)
 

Diogelu eich asedau

Protect your assets

Diogelwch ddata eich cwsmeriaid, eich cynnyrch a’ch masnach yn hyderus gan ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl. Canllaw: Arweiniad i Ddiogelu Busnes a Data

Arbed arian

Save money

Lleihewch gostau TG drwy ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl; lleihewch gostau teithio drwy ddefnyddio fideo-gynadledda manylder uwch; lleihewch gostau ffôn drwy ddefnyddio VOIP, a lleihewch orbenion drwy gyflwyno gweithio hyblyg. Canllaw: Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP)
 

Chwalu ffiniau

Remove boundaries

Trafodwch fusnes gydag unrhyw un, yn unrhyw le, unrhyw bryd. Mae rhwydweithiau preifat rhithwir a rhaglenni eraill yn golygu bod gweithio gartref ac wrth fynd yn cael ei integreiddio ac yn gyson ar draws yr holl ddyfeisiau. Canllaw: Arweiniad i Greu Strategaeth Waith Symudol
 

Cynyddu elw

Increase profits

Mae llai o dreuliau a rhagor o ymgysylltu â chwsmeriaid yn arwain at ragor o elw. Canllaw: Cyfrifiadura Cwmwl
 

Gwasanaethau gwell i gwsmeriaid

Enhanced customer services

Mae fideo-gynadledda a chyfryngau cymdeithasol yn ffyrdd cost-effeithiol o ymgysylltu â'ch cwsmeriaid a’ch cyflenwyr.
Canllaw: Rhowch hwb i’ch busnes gyda’r cyfryngau cymdeithasol
 

Helpu’r amgylchedd

Help the environment

Mae llai o amser yn cael ei dreulio yn teithio i'r swyddfa ac ar gyfer cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb yn golygu llai o ôl troed carbon a defnyddio llai o danwydd. Mae newid i weinyddion rhithwir a gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl yn golygu llai o angen am weinyddion sy’n defnyddio llawer o ynni ym mhob swyddfa, tra bod rhwydweithiau preifat rhithwir yn galluogi i gyfrifiaduron busnes gael eu cynnal o bell, gan arbed ynni, arbed arian a helpu i ddiogelu'r amgylchedd.


Camau nesaf:

Creu eich cynllun gweithredu ar arfer ar gyfer eich busnes

Offeryn Blaenoriaethau

Chwarae ein gêm Blaenoriaeth Superfast Broadband Busnes i gael gwybod beth yw eich blaenoriaethau busnes yn cael eu. Byddwch hefyd yn derbyn Cynllun Gweithredu blaenoriaeth pwrpasol i helpu eich busnes i symud ymlaen.

Angen eich perswadio?

Gwelwch beth all yr effaith fod ar y linell waelod

Cyfrifiannell arbedion

Cliciwch ar y ddolen isod i fynd at y gyfrifiannell a gweld beth allech chi ei arbed bob blwyddyn yn ariannol ac yn amgylcheddol.


Rhagor o wybodaeth:

Dewch i weld sut mae busnesau eraill yng Nghymru wedi gwella eu dulliau trafod busnes. Cymerwch olwg ar ein storïau llwyddiant band eang cyflym iawn.

I weld sut gall eich busnes elwa ar Fand Eang Cyflym Iawn a’r dechnoleg newydd a ddaw i’w ganlyn, cliciwch yma i gysylltu â ni neu ffoniwch 03000 6 03000 heddiw.