1. Crynodeb

Mae band eang cyflym iawn wedi ei gwneud hi’n haws i BBaChau yng Nghymru fanteisio ar y cyfleoedd sy’n cynyddu’n gyflym yn sgil technoleg ar-lein. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu at, neu hyd yn oed ddisodli dulliau marchnata traddodiadol, gyda ffyrdd newydd, rhad, i ennill cwsmeriaid a chyfathrebu â nhw.

 

Does dim ots p’un a ydych chi’n fusnes bach neu fawr, mae marchnata ar-lein yn agor nifer o ddrysau i fusnes newydd, a gall greu buddion gweithredol ac arbed costau hefyd.

 

Ond ble mae dechrau arni?

 

Gall meddwl am eich strategaeth marchnata ar-lein am y tro cyntaf fod yn frawychus, ond nid oes rhaid iddo fod. Mae newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr, a gydag ychydig o wybodaeth am dechnoleg ddigidol, gallwch fedi’r buddion.

 

Mae’r canllaw hwn yn amlygu rhai o elfennau allweddol marchnata ar-lein, yn ogystal ag arfer gorau, er mwyn i chi allu tyfu eich busnes â hyder.  

2. Pa fuddion alla’ i eu disgwyl?

  • Marchnata gwell: Gall marchnata trwy negeseuon e-bost a chyfryngau cymdeithasol annog pobl i fynd i’ch gwefan i gynyddu ymholiadau a gwella  safle chwilio, er mwyn i bobl ddod o hyd i chi.
     

  • Mwy o gyfleoedd: Po fwyaf yw eich presenoldeb ar-lein, po fwyaf o gyfleoedd fydd gennych chi i adeiladu brand llwyddiannus sy’n denu cwsmeriaid.
     

  • Cadw cynyddol: Mae’r cyfryngau cymdeithasol a rhaglenni rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn caniatáu i chi greu cysylltiad gwell â’ch cwsmeriaid, ac annog teyrngarwcg dros yr hirdymor.
     

  • Effeithlonrwydd gwell: Mae offer ar-lein yn caniatáu i chi ymgysylltu â chwsmeriaid mewn amser real, felly, maen nhw’n hapusach ac rydych chi’n elwa ar brosesau busnes cyflymach.
     

  • Enillion rheoledig ar fuddsoddiad: Manteisiwch ar offer dadansoddi data a monitro, i helpu olrhain enillion ar fuddsoddiad gweithgareddau marchnata.
     

  • Dealltwriaeth fuddiol: Mae cyfathrebu amser real yn ein gwneud hi’n haws ennill adborth gan gwsmeriaid yn gyflym, a bodloni eu disgwyliadau’n well.
     

  • Rheoli argyfwng yn effeithiol: Mewn argyfwng, fel adalw cynnyrch neu gyhoeddusrwydd gwael, mae offer ar-lein yn caniatáu i chi ymateb yn gyflym.
     

  • Cymorth cwsmeriaid cynhyrchiol: Mae gwasanaeth amserol, o ansawdd da sy’n gyfleus i’r cwsmer, yn gwella cysylltiadau cwsmeriaid.
     

  • Gwerth am arian: Gallwch ddefnyddio offer ar-lein ar gyfer nifer o ddibenion gwahanol, gan gynnwys hysbysebu, cymorth cwsmeriaid, yn ogystal â recriwtio.

3. Enghraifft go iawn

Mae busnes gwneud cacennau yng ngogledd Cymru yn ffynnu ar ôl datblygu strategaeth marchnata digidol. Mae Judith Bond Cakes, yn Llandudno, yn cynhyrchu cacennau pwrpasol ar gyfer dathliadau, digwyddiadau corfforaethol a phriodasau. Ers mynychu digwyddiad Cyflymu Cymru i Fusnesau, mae sefydlydd y busnes, Judith Bond, wedi cynyddu gwerthiant gan 30%.

 

Woman decorating a cake

 

Mynychodd Judith ddosbarth meistr technoleg ddigidol rhad ac am ddim, a lluniodd gynllun marchnata digidol i ganolbwyntio ar gyfryngau cymdeithasol. Ers darganfod y cynhwysyn llwyddiannus, mae’r cyn rheolwr swyddfa bellach yn bwriadu cynyddu ei phroffil ymhellach, trwy hyrwyddo ei blog cacennau a ffotograffiaeth, yn ogystal â bod yn rhagweithiol gyda’r gymuned ar-lein o fusnesau bach yng Nghymru.

 

Dywedodd Judith: “Mae’r hwb mewn gwerthiant yn bendant wedi cael ei ddylanwadu gan fy ymgyrch marchnata newydd. Roedd y dosbarth meistr yn ardderchog ac yn ymdrin â nifer o offer ar-lein gwahanol i hyrwyddo’r busnes.”

 

Esboniodd ei bod hi nawr yn defnyddio, “sianeli cyfryngau cymdeithasol gwahanol, gan gynnwys Instagram, i hyrwyddo fy nghynhyrchion ac ymgysylltu â chwsmeriaid”. Mae ar ei ffordd i fodloni ei dyhead i fod yn flogiwr adnabyddus yng ngogledd Cymru.

4. Beth yw marchnata ar-lein?

Mae marchnata ar-lein yn union beth y mae’n ei ddisgrifio; sef offeryn y mae busnesau’n ei ddefnyddio i ddefnyddio grym y rhyngrwyd i hybu gwerthiant a thwf busnes. Ac i fod yn llwyddiannus, mae angen i’ch brand ar-lein gynnwys cyfuniad pwerus o elfennau sy’n caniatáu i bobl gysylltu â chi. Enw eich busnes a’ch hanes, a’r buddion y mae eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau’n eu cynnig i’ch cwsmeriaid, yw’r rhain.

 

Nid yw marchnata ar-lein llwyddiannus yn digwydd dros nos. Mae angen ymagwedd hirdymor, gyson, sy’n darparu gwybodaeth allweddol yn raddol i’ch cynulleidfa darged, sydd â’r nod o hybu gwerthiant yn y pen draw. Fodd bynnag, peidiwch â gwneud y camgymeriad mai gwerthu’n unig yw diben marchnata ar-lein. Yn gyffredinol, nid yw marchnata ar-lein yn gweithio’n dda trwy’r dull “gwerthu’n ddygn”; mae’n ymwneud ag ennyn perthynas, fel eich bod chi’n sefydlu cysylliad ac yn meithrin perthnasoedd â’ch cwsmeriaid.

 

Gall fod yn anodd cael cydbwysedd rhwng gwerthu ac ennyn perthynas. Ond, os cewch chi’r cydbwysedd yn iawn, byddwch chi’n siŵr o weld twf mewn gwerthiant, teyrngarwch cwsmeriaid, a mantais gystadleuol well. 

5. Datblygu eich brand ar-lein

Meddyliwch am eich brand ar-lein fel ffordd i gyfleu beth sydd gan eich busnes i’w gynnig, eich rhinweddau a’ch gwerthoedd i’ch cwsmeriaid. Gallwch chi wneud hyn trwy elfennau gweledol, fel logo’r busnes, pecynnu, a’ch gwefan, yn ogystal â chynnwys sy’n werthfawr a deniadol. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn allweddol i ffurfio canfyddiadau cwsmeriaid presennol a phosibl eich busnes, eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau.

 

Dylai eich brand adlewyrchu gwerthoedd craidd eich busnes, a rhaid iddo fod yn berthnasol ac yn briodol i’ch cyulleidfa darged. Mae’n werth nodi, wrth lunio strategaeth frand, dylech ystyried eich cwsmeriaid, eich cystadleuwyr, eich presenoldeb ar-lein, a’r adnoddau a’r sgiliau sydd gennych i gynorthwyo’r strategaeth.

6. Cyfryngau cymdeithasol mewn busnes

Mae 1.65 biliwn o gyfrifon cymdeithasol gweithredol ledled y byd, ac ychwanegir 1 miliwn o ddefnyddwyr cymdeithasol gweithredol newydd bob dydd (We Are Social). Mae’n ffordd wych i ymestyn eich cyrhaeddiad, ac yn llawer mwy effeithiol na rhai o’r dulliau traddodiadol. Hefyd, mae’n rhad ac am ddim! (..i raddau). Ond gall deall sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd sy’n hybu twf gwerthiant, fod yn her. Nid yw’n ymwneud ag anfon negeseuon a gobeithio y bydd rhywun yn gwrando. Mae’n ymwneud â dechrau sgwrs.

 

Mae nifer o ffyrdd gwahanol i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn busnes, a chan dibynnu ar natur y cynnych a’r gwasanaeth rydych chi’n eu cynnig, bydd yr ymagwedd yn wahanol. Ond os cganolbwyntiwch chi ar ryngweithio yn hytrach na cheisio ennill metrigau balchder, fel llawer o ddilynwyr nad ydynt yn ymgysylltu, cewch lawer mwy o lwyddiant.

 

Dyma rai o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd:

  • Facebook: gallwch rannu gwybodaeth am gynhyrchion/gwasanaethau a chynnwys perthnasol arall, ymgysylltu â chwsmeriaid, ac annog a rhannu adolygiadau.
  • Twitter: gallwch ei ddefnyddio fel offeryn ymgysylltu trwy hoffi, gwneud sylwadau, a rhannu cynnwys. Gallwch ddefnyddio Twitter fel swyddogaeth chwilio hefyd, gan ddefnyddio hashnodau.
  • Instagram: gallwch rannu delweddau a chynnwys fideos â chwsmeriaid.
  • LinkedIn: cyfeirir ato’n aml fel ‘Facebook i weithwyr proffesiynol’. Gallwch rannu gwybodaeth broffesiynol, fel CV, profiad gwaith, a chynnwys cysylltiedig. 

7. Pam dylwn i gael gwefan?

Os ydych chi’n gwerthu i ddefnyddwyr yn unig, efallai nad yw cael gwefan yn bwysig, oherwydd bod llawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Ond os ydych chi’n ymwneud â busnesau eraill, dylech ystyried a allech chi wella eich presenoldeb a’ch enw da ar-lein gyda hunaniaeth broffesiynol yr olwg.

 

Er na fydd gwefan newydd yn eich lansio chi i frig y safleoedd chwilio nac yn cynhyrchu incwm enfawr dros nos, byddwch yn amyneddgar. I fod yn llwyddiannus, mae angen i chi gynllunio beth rydych chi eisiau ei gyflawni, pennu eich cynulleidfa darged, ble maen nhw, beth maen nhw eisiau, a beth yw eu cymhellion a allai eu gwneud nhw’n gwsmeriaid.

 

Mae defnyddio’r rhyngrwyd a’r rhyngrwyd symudol yn cynyddu bob blwyddyn, a gall busnesau fanteisio ar hyn. Trwy ddefnyddio eich gwefan fel man sgwrsio, gyda nodweddion siopa ar-lein neu hyd yn oed nodwedd cysylltu, a hybu’r traffig trwy gynigion arbennig a gweithgarwch marchnata cyfryngau cymdeithasol neu e-bost, gallwch ddechrau adeiladu eich brand a hybu twf.

8. Strategaethau llwyddiannus ar gyfer twf

O ran marchnata ar-lein effeithiol, mae pedair strategaeth allweddol i’w hystyried:

1. Mynediad: gwnewch eich busnes yn hygyrch i gwsmeriaid a darpar gwsmeriaid ym mhob man.
 

2. Ymgysylltu: amlygwch eich busnes fel y prif ffynhonnell ar gyfer cyngor a chynnwys ystyrlon, o ansawdd da.
 

3. Cysylltu: cymerwch ran mewn sgyrsiau â’ch cwsmeriaid.
 

4. Cydweithio: anogwch eich cwsmeriaid i ymgysylltu â chi, gyda’r nod o gyfrannu’n weithredol at eich elw isaf.

 

Nod pob un ohonynt yw cadw ffocws eich cwsmeriaid, oherwydd os caiff ei wneud yn dda, byddwch chi’n cadw cwsmeriaid, ac yn ennill rhai newydd.

9. Pwyntiau gweithredu ac awgrymiadau argymelledig

  • Llunio nodau CAMPUS: gwnewch yn siŵr fod gan eich strategaeth marchnata ar-lein nodau sy’n gyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol.
     

  • Ymchwilio i’ch cystadleuwyr: mae’n bwysig gwybod beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud ar-lein, er mwyn i chi allu diffinio’r ffordd orau i gystadlu.
     

  • Pwysleisio ar y buddion: rhowch i gwsmeriaid rhywbeth y maen nhw ei eisiau, na chânt yn unrhyw le arall. Meddyliwch am feithrin ymdeimlad o gysylltiad personol ar draws pob cyfrwng ar-lein.
     

  • Olrhain cynnydd: ni allwch chi ddeall yr effaith a gaiff eich gweithgareddau marchnata ar-lein ar eich busnes heb fonitro eich cynnydd.
     

  • Defnyddio offer amserlennu: gwnewch bethau’n haws i chi’ch hun a defnyddiwch yr offer hyn i gyflwyno cynnwys digidol. Byddwch chi’n arbed oriau, egni ac adnoddau yn ddyddiol.
     

  • Canolbwyntio ar ymgysylltu nid gwerthu: dylai marchnata ar-lein ganolbwyntio ar ymgysylltu â’ch cynulleidfa.

10. Gwybodaeth ychwanegol

Defnyddiwch gyfeiriadur meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau i archwilio’r meddalwedd a allai eich helpu i redeg eich busnes.