Sesiynau 'sut i'

Os oes angen help arnoch chi i ddefnyddio dulliau digidol, rydym ni yma i chi. Mae ein gweminarau 'Sut i' 30 munud o hyd yn archwiliad sydyn i hanfodion rhedeg busnes ar-lein.

P’un a ydych chi'n newydd i fyd technoleg neu eisoes ar-lein, byddwn yn dangos i chi sut y gall y byd digidol ei gwneud hi’n haws rheoli eich busnes chi.

Sut i ddewis system talu ar-lein

Os ydych chi’n symud eich busnes ar-lein, dewch i ddysgu pa system dalu sy’n gweithio orau i chi.

Sut i aros mewn cysylltiad â chwsmeriaid

Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio fideogynadledda a dulliau eraill er mwyn cysylltu â chwsmeriaid.

Sut i ddefnyddio offer ar-lein i redeg eich busnes

O gynllunio eich diwrnod a rheoli tasgau i osod terfynau amser, gallwch ddysgu am yr offer a fydd yn eich helpu i gadw trefn ar bopeth.

Sut i helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i chi ar-lein

Gallwch ddysgu sut i ymddangos yn y lleoedd iawn am ddim, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol, Google My Business ac mwy.

Sut i ddiogelu’ch busnes - seiberddiogelwch

Byddwn yn siarad am y camau syml gallwch chi eu cymryd i helpu i ddiogelu eich busnes rhag seiberdroseddwyr sy’n gweithredu yn ystod y pandemig byd-eang.

Sut i ddechrau gyda cyn-archebion ar-lein

Darganfyddwch sut i greu gwasanaeth cyn-archebu i'ch cwsmeriaid, fel y gallwch ailagor yn ddiogel.


Dywedodd 97% o’r rhai fu ar ein cyrsiau eu bod yn fuddiol i’w busnes

  • “Mae cael rhagor o gyngor yn amhrisiadwy”
    Sunnybank Holiday Accommodation

     
  • “Roedd yn fuddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth”
    Davies Warlow Chartered Accountants

     
  • “Roedd yn fanwl iawn, a byddai o gymorth mawr i unrhyw fusnes”
    Counselling Choices

Mae ein gwasanaeth llawn yn cynnwys

  • Gweithdai busnes am ddim: cyfle i ddysgu ffyrdd ymarferol o fanteisio i’r eithaf ar adnoddau ar-lein a thechnolegau ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr
  • Cymorth un i un wedi’i deilwra: cyfle am sesiwn un i un gyda Chynghorydd Busnes Digidol a chynllun gweithredu wedi’i deilwra
  • Adolygu gwefan: cyfle am adolygiad am ddim o’ch gwefan i ddod o hyd i feysydd i’w gwella er mwyn ennill cwsmeriaid newydd


Telerau ac Amodau

Gallwch ddod o hyd i sut mae Busnes Cymru yn delio â’ch gwybodaeth, yma. Os ydych yn archebu eich lle mewn digwyddiad gan Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru, efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi er mwyn cynnig gwasanaeth personol neu wasanaeth lleol, er mwyn rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth, er mwyn gofyn eich barn ac i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau.

Mae gan wefannau rydyn ni’n cysylltu â nhw Delerau ac Amodau sy’n debygol o fod yn wahanol i’n rhai ni. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

BC Digwyddiadau

There are currently no events available.

Fwy o Ddigwyddiadau

“Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi bod yn gyfrwng i’n helpu ni i dyfu ein busnes...”

Darllenwch sut mae Magnolia yn llwyddo gyda’r cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi’n barod i ymuno â nhw? Cofrestrwch gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cymorth digidol am ddim!