Argymhellion ar gyfer datblygu eich presenoldeb ar ffonau symudol

Yn ddiweddar, mae datblygu presenoldeb eich busnes ar-lein yn golygu llawer mwy na chreu gwefan syml sy’n cynnwys ychydig o luniau a manylion cyswllt eich cwmni. Mae bod yn gystadleuydd yn y maes digidol yn golygu creu fersiwn ar-lein o’ch busnes. Gall hyn gynnwys gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, fideos ac, yn fwy diweddar, presenoldeb ar ffonau symudol.

O ganlyniad i’r twf mewn technoleg ddigidol, mae’r byd ar-lein o’n cwmpas o hyd. Mae mwy a mwy o gwsmeriaid yn troi at eu ffonau symudol i ddefnyddio’r we er mwyn chwilio, pori a phrynu gan eu hoff frandiau. 

Gall datblygu eich presenoldeb ar ffonau symudol fod yn ffordd wych o ymestyn eich busnes. Gallwch wneud eich busnes yn haws mynd ato, adeiladu eich brand digidol, tyfu eich cynulleidfa ar-lein, gwella eich safle ar y peiriannau chwilio a darparu ffordd haws o werthu a marchnata eich cynnyrch neu wasanaethau.  

P’un a ydych yn frand un-person bach neu’n fusnes mawr, mae presenoldeb eich busnes ar ffonau symudol yn bwysig. Os nad ydych wedi cymryd y camau tuag at fod yn symudol eto, darllenwch ein chwe awgrym i’ch helpu i ddechrau arni yn awr:  

Optimeiddio eich gwefan

Y peth pwysicaf sydd angen i chi ei wneud yw sicrhau bod eich gwefan yn addas i’w defnyddio ar ffôn symudol. Dyma ran holl bwysig o’ch strategaeth ar-lein, ac mae’n ffordd sylfaenol o fynd at y byd symudol. Mae gwefan sydd wedi ei hoptimeiddio ar gyfer ffonau symudol wedi cael ei ddylunio i roi’r profiad gorau o’r wefan i’r defnyddiwr os yw’n mynd ato ar ffôn clyfar, llechen neu unrhyw ddyfais symudol. Mae dyluniad ymatebol yn golygu y bydd y wefan yn newid ei faint yn hawdd, ac yn addasu’r dyluniad er mwyn iddo weithio ar sgrin o bob maint. Y peth pwysicaf yw bod gwefan yn hawdd ei defnyddio, yn hawdd i’w darllen, yn syml i’w llywio a bod ganddi amseroedd llwytho da, ar ffôn symudol neu ar fwrdd gwaith.  

Datblygu ap symudol

Pan fyddwch yn hyderus bod eich gwefan yn addas i’w defnyddio ar ffôn symudol, gallwch ystyried datblygu eich ap symudol eich hun. Trwy lawrlwytho eich ap yn syth i’w dyfeisiau symudol, gall eich cynulleidfa gysylltu â’ch brand ar unrhyw adeg a gallwch gyfathrebu’n uniongyrchol trwy hysbysiadau a negeseuon awtomatig. Mae ap symudol yn ffordd wych o gynyddu gwerthiant, adeiladu eich brand a datblygu cymuned ffyddlon o gwsmeriaid. Darllenwch ein blog i weld sut i ddatblygu eich ap symudol eich hun yma.

Hyrwyddo eich ap trwy farchnata

Os ydych yn penderfynu datblygu eich ap eich hun, mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar eich gweithgareddau marchnata digidol er mwyn codi ymwybyddiaeth. Gallwch hyrwyddo eich ap trwy hysbysiadau e-bost penodedig, galwadau rheolaidd i weithredu yn eich marchnata e-bost, botymau lawrlwytho amlwg ar eich gwefan, diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu gynigion arbennig i gwsmeriaid sydd gennych yn barod sy’n lawrlwytho’r ap. Manteisiwch ar eich sylfaen gwsmeriaid bresennol er mwyn cynyddu lawrlwythiadau i ddechrau, a sicrhewch eich bod yn datgan gwerth eich ap yn amlwg fel rhan o bresenoldeb ar-lein eich brand i gwsmeriaid newydd.

Rhoi ysgogiad i ymwelwyr ar ffonau symudol i lawrlwytho’r ap

Os oes gennych nifer gynyddol o ymwelwyr ar ffonau symudol, manteisiwch ar hyn er mwyn hyrwyddo eich ap symudol. Os yw’r cwsmeriaid hyn yn ymweld â’ch safle ar ddyfais symudol yn barod, dylech bwysleisio gwerth lawrlwytho a defnyddio’r ap yn ei le. Dangoswch sut gallant arbed amser, pa mor hawdd yw’r ap i’w ddefnyddio a’r manteision ychwanegol. Gallwch gynnig ysgogiad dechreuol fel gostyngiadau arbennig, dosbarthu am ddim neu ddiweddariad am ddim.  

Hysbysebu ar ffonau symudol

Gallwch dyfu eich presenoldeb symudol trwy hysbysebu i gynulleidfa symudol. O ganlyniad i natur bersonol dyfeisiau symudol, gall targedu hysbysebion penodol i segmentau penodol o’r defnyddwyr, a chynnig pwyntiau cyffwrdd amrywiol fel llais, negeseuon testun a negeseuon ar yr ap fod yn fwy effeithiol na hysbysebion traddodiadol ar gyfer eich busnes.  

Taliadau ffôn symudol

Ydych chi wedi ystyried cynnig taliadau ffôn symudol fel dewis i gwsmeriaid? Yn hytrach na defnyddio arian parod, cerdyn neu siec, gall cwsmeriaid ddefnyddio eu ffonau symudol er mwyn talu am wasanaeth neu gynnyrch. Dyma ffordd wych o ddatblygu eich gwasanaeth i gwsmeriaid, gan bod modd i chi wneud y broses brynu yn haws i’r cwsmeriaid sydd eisiau talu trwy eu ffonau symudol, a dileu rhwystredigaeth i rai heb arian parod neu gerdyn.  

Ydych chi’n gwybod pa offer technoleg ddigidol all eich helpu i arbed amser ac arian?

Ymunwch â Chyflymu Cymru i Fusnesau mewn gweithdy neu ddosbarth meistr rhad ac am ddim yn eich ardal chi. Cofrestrwch nawr!