Awgrymau Da i fod yn Fusnes Cysylltiedig
Mae bod yn fusnes cysylltiedig yn hollbwysig yn yr oes ddigidol. Dyma 10 awgrym i’ch arwain chi!
-
Pwy yw eich cwsmeriaid?
Pwy ydynt? Beth yw eu diddordebau? Cymrwch olwg ar rai o’r defnyddwyr sy’n dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook. -
Cysylltwch â’ch cwsmeriaid
Defnyddiwch y llwyfannau ac apiau a ddefnyddir ganddynt. A yw’ch cwsmeriaid ar Vine? Crëwch gyfrif a meddwl am syniadau fideo creadigol gyda’ch staff i ymgysylltu â’r defnyddwyr hynny. -
Cadwch bethau’n gyson
Gwnewch eich neges brand yn gyson ar draws pob llwyfan. Sicrhewch fod unrhyw staff sy’n diweddaru’ch safleoedd yn ymwybodol o’r naws yr hoffech ei chyfleu. -
Gwefan dda
Gwefan yw eich sylfaeni. Sicrhewch ei bod yn ymatebol ar bob dyfais i wella profiad y cwsmer. -
Ewch ar-lein i reoli prosiectau
Mae systemau sy’n gallu caniatáu gwell cydweithredu a rheoli yn arbennig. Mae Byrddau Cysyniadau yn caniatáu i chi gydweithio gydag eraill mewn amser real ar un ‘bwrdd gwyn’. -
Ewch yn symudol
Defnyddiwch gymylau i helpu’ch staff i gysylltu yma ac acw. Gall Dropbox ddal ffeiliau mawr i’w hagor unrhyw le. -
Monitrwch a rheolwch sut mae pethau’n mynd
Cadwch lygad ar ddadansoddeg a defnyddio’r wybodaeth hon yn ddoeth. Rhowch gynnig ar Google Analytics i astudio ystadegau’ch gwefan. -
Gwybod sut mae’ch cyflogeion yn dod ymlaen
Sefydlwch grŵp Facebook i’ch staff rannu syniadau prosiect, newyddion digwyddiadau a jociau. -
Cadwch lygad ar y farchnad
Beth sy’n newydd? Allwch chi ei ddefnyddio? Sefydlwch gyfrif Feedly i gael diweddariadau o flogiau technoleg. -
Byddwch yn effro
Peidiwch â bod yn hunanfodlon. Arloeswch. Arbrofi gyda syniadau newydd yw sut i ddysgu beth sy’n gweithio orau i chi.