Awgrymau Da i Greu Strategaeth Farchnata Ddigidol

A yw eich strategaeth marchnata digidol cystal ag y gall fod? Dyma 10 awgrym allweddol! 

Adnabod eich cynulleidfa

Pwy ydynt? Sut maent yn debygol o ddod o hyd i chi? Cymrwch olwg ar rai o’r defnyddwyr sy’n dilyn eich cyfrifon Twitter a Facebook.

Gwnewch yn siŵr fod y sylfaeni yn gadarn

Does dim gwerth adeiladu os nad yw’r sylfaeni yn gryf. Archwiliwch eich gwefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol i weld o ble ydych chi’n cychwyn.

Chwiliwch am y gystadleuaeth

Pwy ydynt? Ble maent? Dilynwch #hashnodau lleol neu sector perthnasol ar Twitter yn defnyddio Tweetdeck.

Penderfynwch ar y canlyniadau yr ydych eu heisiau

Beth ydyn ni eisiau? Sut ydyn ni’n ei gael? Crëwch darged ar gyfer ‘hoffi’ ar y Dudalen Facebook neu ddilynwyr Twitter a chwilio am ddulliau arloesol i hybu’ch gwelededd.

Dechreuwch fagu cysylltiadau

Ymgysylltwch â’ch dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol. Atebwch i negeseuon trydar yn gyhoeddus a rhannu postiadau all ysgogi trafodaeth.

Rhannwch newyddion â’ch cwsmeriaid

Gwnewch yn siŵr eu bod yn cofio’ch bod yno. Crëwch e-gylchlythyr gyda chynigion arbennig neu dalebau.

Cadwch bethau’n gyson

Rhowch gyfarwyddyd i staff sy’n diweddaru’ch safleoedd. Dylai’ch tôn fod yn gyson ar draws pob un.

Daliwch ati i fonitro

Defnyddiwch ddadansoddeg i ddysgu am gynulleidfaoedd penodol: pwy ydynt? Sut maent wedi dod o hyd i chi? Mae Google Analytics yn offeryn da i astudio ystadegau gwefan.

Addaswch eich nodau i farchnad newidiol

Cadwch lygad ar dechnoleg newydd a sut allwch chi addasu. Sefydlwch gyfrif Feedly i gael diweddariadau o flogiau technoleg neu farchnata digidol.

Byddwch yn effro

Peidiwch â bod yn hunanfodlon: arloeswch. Arbrofi gyda syniadau newydd yw sut i ddysgu beth sy’n gweithio orau i chi.