Awgrymau Da i Wneud y Gorau o Fand Eang Cyflym/Cyflym Iawn

Dilynwch y 10 awgrym hyn i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch band eang. 

Byddwch yn barod

Hyd yn oed cyn gosod Band Eang Cyflym Iawn, gallwch gynllunio ar gyfer eich defnydd ohono.

Nid technoleg yn unig yw hyn

Y gwir wahaniaeth yw beth all ddigwydd yn eich busnes.

Rhaid i chi wneud rhywbeth i alluogi Band Eang Cyflym Iawn

Ni fydd eich gwasanaeth Band Eang presennol yn newid. Bydd angen i chi uwchraddio i becyn Band Eang Cyflym Iawn.

Dewiswch yn ofalus

Cymharwch y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y nifer o ddarparwyr gwasanaeth all eich cysylltu i Fand Eang Cyflym iawn a chreu rhestr o gyflenwyr posibl.

Ymchwiliwch i’r cwmwl

Dysgwch pa wasanaethau all uwchraddio eich gallu neu arbed arian i chi ar draws cyswllt newydd, dibynadwy.

Gwiriwch eich gosodiad cyfrifiadurol presennol

Er y gallai’ch offer gysylltu i Fand Eang Cyflym Iawn, efallai y bydd angen ei uwchraddio i wneud y defnydd gorau o’r llif data atodol. Unwaith y bydd cyflymder llinell yn dechrau bod yn ffactor gyfyngol, gall cyflymderau prosesu fod yn gyfyngydd.

Ystyriwch symud eich ffonau i VOIP

Mae systemau Llais dros IP yn defnyddio’ch cyswllt Band Eang Cyflym Iawn a gall weithredu’n fwy effeithiol, costio llai ac ychwanegu nodweddion.

Sefydlwch bolisi gweithio hyblyg

Gall gweithio hyblyg wella cynhyrchiant mewn rhai mathau o fusnesau, gan gynyddu eich potensial ar gyfer amrywiaeth a chreu lle i ehangu yn eich swyddfeydd. Gwnewch yn siŵr bod eich gweithwyr yn deall yr amodau ar gyfer gweithio hyblyg a chadwch lygad ar gynhyrchiant i sicrhau’ch bod yn cyflawni’r manteision.

Cadwch lygad ar y manteision

Mesurwch eich cynhyrchiant cyn gosod i sicrhau y gallwch fesur a deall effeithiau’r cysylltedd newydd.

Daliwch ati i fonitro’r farchnad

Wrth i’ch anghenion newid a’r dechnoleg ddal i wella, sicrhewch eich bod yn gwybod a ydych angen newid cyflenwyr neu dechnoleg a gwneud hynny mewn proses a reolir.