Awgrymiadau ar gyfer gwella eich technegau cynhyrchu arweiniad gyda thechnoleg ddigidol

Mae tyfu eich sylfaen gwsmeriaid yn elfen hollbwysig o redeg busnes, ond gall llenwi eich piblinell ag arweiniad sy’n cymryd diddordeb ac yn barod i drosi fod yn anodd.  

Gall defnyddio technoleg ddigidol roi’r offer a’r mewnwelediad sydd eu hangen arnoch er mwyn cystadlu mewn marchnadoedd prysur ac ymgysylltu ag arweiniad posibl mewn ffordd effeithiol.

Dyma ein chwe awgrym er mwyn gwella eich technegau cynhyrchu arweiniad:   

Defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol

Nid yw defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn un o’r ffyrdd mwyaf blaengar o ddenu cwsmeriaid posibl, ond, yn sicr, mae’n opsiwn effeithiol. P’un a ydych yn defnyddio Twitter, Facebook, LinkedIn, YouTube neu un o’r llwyfannau amrywiol eraill sydd ar gael, y peth pwysig yw denu cymunedau a chynulleidfaoedd penodol a fydd yn barod i dderbyn eich negeseuon. Gallwch rannu cynnwys defnyddiol, monitro sgyrsiau sy’n digwydd yn eich diwydiant, cysylltu â dylanwadwyr allweddol a datblygu eich presenoldeb ar-lein. Dechreuwch ddatblygu perthnasoedd sy’n seiliedig ar werth cyn dechrau ar y negeseuon gwerthu. 

Defnyddio system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid er mwyn amlygu’r nodweddion allweddol

Defnyddiwch y data sydd gennych eisoes am eich cwsmeriaid presennol er mwyn amlygu nodweddion allweddol eich cwsmeriaid gwerth isel ac uchel. Bydd deall y nodweddion hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar gynhyrchu arweiniad gan y cwsmeriaid a fydd fwyaf gwerthfawr i’ch cwmni, yn hytrach na rhai fydd yn ddrytach i’w denu na’u gwerth.

Defnyddio marchnata e-bost awtomatig er mwyn sefydlu arfer gorau

Nid yn unig y bydd systemau marchnata awtomatig yn werthfawr ar gyfer arbed amser ac ymdrech i chi wrth reoli eich ymgyrchoedd, ond, hefyd, gallant eich helpu i bennu arfer gorau fel sut a phryd rydych yn anfon eich cyfathrebiadau. Gallwch roi amseroedd anfon, llinellau pwnc, negeseuon allweddol a dyddiau gwahanol ar brawf. Gallwch bennu pryd mae eich negeseuon marchnata yn fwyaf effeithiol a llunio eich strategaeth marchnata e-bost o gwmpas y wybodaeth hon.

Gwella cyfathrebu tîm er mwyn meithrin arweiniad

Oes problemau’n codi wrth geisio cynhyrchu arweiniad neu sut rydych yn eu trosglwyddo o fod yn arweiniad i gwsmer? Gall system gyfathrebu fel IP troslais neu sgwrsio byw alluogi cyfathrebu mwy effeithiol rhwng y timau gwerthu a marchnata. Gall dulliau cyfathrebu penodol, uniongyrchol a meini prawf marchnata penodol ar gyfer eu gofynion gwerth, brys ac anghenion helpu’r tîm i ymdrin ag arweiniad mewn ffordd fwy effeithiol trwy gydol y broses.

Defnyddio awtomatiaeth marchnata er mwyn cynhyrchu arweiniad

Gall awtomatiaeth marchnata eich helpu i ddod o hyd i gwsmeriaid posibl yn seiliedig ar eu gweithgarwch â’ch brand. Gallwch lunio a thargedu eich gweithgarwch marchnata yn ôl hynny er mwyn darparu negeseuon wedi’u targedu trwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol nes y bydd yr arweiniad yn barod i drosi.  

Defnyddio Optimeiddio Peiriannau Chwilio er mwyn codi ymwybyddiaeth

Gall ychydig o newidiadau i’r ffordd rydych yn optimeiddio eich gwefan ar gyfer peiriannau chwilio eich helpu i gyfeirio mwy o draffig â diddordeb i’ch gwefan, a gwella eich safle yn nhudalennau canlyniadau’r peiriannau chwilio. Darllenwch ein hargymhellion ar sut i wella amlygrwydd eich brand ar-lein, a sut i ddenu rhagor o gwsmeriaid posibl y gallwch eu dilyn trwy eich gwefan.

Sut gallwch ddenu mwy o gwsmeriaid sy’n ymgysylltu â’ch brand?  

Ymunwch â Chyflymu Cymru i Fusnesau mewn dosbarth meistr marchnata digidol ac ar-lein er mwyn datblygu cynllun gweithredu wedi’i dargedu. Cofrestrwch nawr!