Awgrymiadau da ar gyfer creu cynnwys newydd ar gyfer eich gwefan
Cael ysbrydoliaeth
Bwrwch olwg ar fusnesau neu flogiau eraill o fewn eich sector a sylwch ar beth maen nhw’n ei wneud yn dda. Mae’n bwysig cofio bod cynnwys gwreiddiol yn allweddol, felly cymerwch ysbrydoliaeth, dim byd arall!
Gofynnwch i’ch cynulleidfa
Pwy well i dderbyn cyngor oddi wrthynt na’r bobl sy’n darllen eich cynnwys? Gofynnwch i’ch cwsmeriaid beth yr hoffent ei weld gennych – gallai eu hymatebion roi rhestr i chi o gynnwys newydd i weithio arno.
Creu astudiaethau achos
Helpwch eich darpar gwsmeriaid i ddeall beth rydych yn ei wneud yn dda oddi wrth y bobl sy’n gwybod orau – eich cwsmeriaid!
Trefnwch y cynnwys i gyd-fynd â digwyddiadau neu ddyddiadau sydd ar ddod
Cadwch lygad ar unrhyw ddigwyddiadau’r diwydiant sydd ar ddod, dyddiadau pwysig neu ddigwyddiadau calendr, fel y Pasg neu’r Nadolig. A oes ffordd i chi gysylltu eich arbenigedd neu roi sylw ar y rhain?
Ystyriwch dueddiadau presennol
Sicrhewch eich bod chi’n cadw’n gyfredol o ran newyddion, hashnodau cyfryngau cymdeithasol neu leisiau a blogiau amlwg yn eich diwydiant. Dewch o hyd i ffordd i’ch busnes gymryd rhan yn y pynciau a’r tueddiadau allweddol hyn.
Ailgylchu
Rhowch fywyd newydd i ‘hen’ gynnwys trwy roi ailbwrpas iddo. Er enghraifft, gallech ddefnyddio hen flog neu ddarn ymchwil a throi’r cynnwys yn ffeithlun hawdd i’w ddarllen.
Gofynnwch i gydweithwyr gyfrannu
Gofynnwch i’r tîm gymryd rhan trwy rannu syniadau neu bynciau ar gyfer cynnwys. Gallai hybu trafodaeth helpu i amlygu rhai syniadau creadigol neu bynciau poblogaidd.
Ydych chi wedi ystyried negeseuon blog gwadd?
A oes gennych chi gysylltiadau a all fod â diddordeb mewn ysgrifennu neges wadd ar gyfer eich blog? Gall hyn gynnig llais ffres ar gyfer eich cynnwys.
Byddwch yn ddadansoddol
Adolygwch y negeseuon sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Allech chi greu rhywbeth newydd mewn arddull debyg neu roi elfen newydd i’r pwnc?
Byddwch yn barod
Yn anffodus, ni allwch osgoi rhwystrau meddyliol - fodd bynnag, gallwch fod yn barod! Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhestru eich holl syniadau pan fyddwch yn teimlo’n ysbrydoledig a gallai’r rhain fod yn adnodd defnyddiol yn y dyfodol.