Deg Awgrym Ardderchog i Roi Hwb i’ch Gwefan e-Fasnach

Mae e-Fasnach yn darparu cyfleoedd proffidiol ar gyfer tyfu eich busnes, gan fod disgwyl i werthiannau ar-lein yn y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, yr Almaen a Tsieina gynyddu £320 biliwn erbyn 2018. Bydd hyn yn achosi i’r farchnad ar-lein ehangu i £645 biliwn yn ôl ymchwil gan OC&C Strategy Consultants, PayPal a Google.

Gan fod defnyddwyr yn treulio mwy o amser ar-lein nag erioed o’r blaen, mae’n hanfodol fod busnesau sydd am ffynnu yn yr oes ddigidol yn croesawu tueddiadau, trawsnewidiadau a chyfleoedd gwerthu newydd yn y sector e-Fasnach.

Serch hynny, ymhell o fod mor syml â galluogi pobl i brynu ar-lein, mae llwyddo ym maes e-Fasnach yn gofyn am ystyried y profiad a'r ffordd o weithredu. Os ydych chi am i’ch gwefan e-Fasnach godi i’r brig ymysg y gystadleuaeth, rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid a chynyddu gwerthiannau, mae’n bryd rhoi’r 10 awgrym ardderchog hyn ar waith!

A yw eich safle e-Fasnach yn gyfeillgar i'r defnyddiwr?

Boed chi’n defnyddio eich gwefan eich hun neu’n gwerthu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau drwy lwyfan arbenigol, agwedd bwysicaf gwefan e-Fasnach lwyddiannus yw ei defnyddioldeb. Fe ddylai’r cwsmer allu llywio drwyddi’n ddidrafferth, gyda phob dolen, botwm a dewis talu yn gweithio heb broblem. Fe allai unrhyw broblemau sy’n oedi neu’n gwylltio’r cwsmer achosi iddo glicio i ffwrdd neu roi'r gorau i brynu.

Mae’n rhaid cael safle symudol!

Fe ddylai eich safle e-Fasnach fod yn addas i ffonau symudol o leiaf. Mae mwy a mwy o ddefnyddwyr yn ymchwilio i gynnyrch a gwasanaethau ar-lein cyn prynu, felly mae’n hollbwysig fod eich gwefan yn gweithio’n iawn ar ba ddyfais bynnag mae’r defnyddiwr yn ei dewis.

Cadw’r defnyddiwr mewn cof

Y cwsmer sydd bwysicaf o ran cynllun, strwythur a dyluniad eich gwefan e-Fasnach. Fe ddylai eich gwefan drwyddi draw fod wedi’i llunio o amgylch anghenion y cwsmer. Dechreuwch drwy ystyried yr hyn y gallech ei wella i sicrhau bod y broses o brynu yn syml, yn hawdd ac yn ddymunol i’r cwsmer.

Mae lluniau o ansawdd uchel a chynnwys difyr yn hollbwysig

Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn helpu i hyrwyddo eich cynnyrch a’ch gwasanaethau. Dydy delweddau anatyniadol neu rai o ansawdd isel a chynnwys diflas wedi’i frysio ddim yn mynd i ennyn edmygedd cwsmer posib. Fe ddylai eich ffotograffau fod yn glir, yn onest ac yn ddiddorol, a'r cynnwys yn ddifyr ac yn llawn gwybodaeth. 

Gwneud eich amseroedd a ffioedd cludo yn amlwg

Mae cuddio ffioedd yn debygol o gadw cwsmeriaid draw. Gwnewch yn siŵr bod yr holl gostau yn cael eu hesbonio ymlaen llaw, a rhowch cymaint o wybodaeth â phosib i’r cwsmer am ei archeb, yr amseroedd cludo disgwyliedig, y dewisiadau cludo ac unrhyw beth arall sydd ar gael yn ychwanegol.

Rhoi sylw i ddiogelwch

Yn yr oes ddigidol, mae diogelu data yn hollbwysig, yn enwedig yng nghyswllt gwybodaeth cwsmeriaid. Rhowch sicrwydd i’ch cwsmeriaid fod diogelu eu gwybodaeth ar-lein yn bwysig i chi drwy wneud bathodynnau diogelwch neu negeseuon perthnasol yn amlwg ar eich gwefan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eglur o ran sut rydych chi’n defnyddio ac yn storio data. 

Casglu a defnyddio adborth gan gwsmeriaid

Bydd adborth gan gwsmeriaid yn gyfle delfrydol i chi wneud gwelliannau wedi’u targedu i’ch gwefan e-Fasnach. Drwy ddeall yr hyn mae eich cwsmeriaid ei angen a’i eisiau, gallwch chi wneud gwelliannau i fodloni eu disgwyliadau. Mae cwsmeriaid yn fwy tebygol o fod yn ffyddlon i’ch brand os ydyn nhw’n eich gweld chi’n datblygu ac yn ehangu’r busnes ar sail eu barn.

Symleiddio taith y prynwr

Fe ddylai’r daith o ymchwilio i eitem a’i hychwanegu at y fasged, hyd at roi’r manylion talu i mewn a gorffen prynu, fod yn syml a chynnwys cyn lleied o ailgyfeirio â phosib. Mae modd i gwsmeriaid ddiflasu a throi eu sylw os oes angen iddyn nhw lywio drwy nifer diangen o dudalennau a rhoi gormod o fanylion personol cyn gallu clicio ‘prynu’. Ceisiwch alluogi cwsmeriaid i brynu mor gyflym â phosib. Gallech chi roi cynnig ar broses prynu ‘un-clic’, neu adael i gwsmeriaid brynu heb fewngofnodi.

Atgoffa pobl am fasgedi wedi’u gadael

Dydy’r daith ddim yn dod i ben yn y fasged. Atgoffwch eich cwsmeriaid posib am yr eitemau maen nhw wedi’u rhoi yn y fasged, a’u hannog i ddychwelyd a gorffen y daith. Darllenwch flog Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael awgrymiadau ar gyfer lleihau nifer y basgedi sy’n cael eu gadael.

Rhoi adolygiadau ar eich safle

Rhowch gymorth i gwsmeriaid pan fyddan nhw’n prynu drwy gynnwys argymhellion ac adolygiadau gan gwsmeriaid ar eich gwefan. Bydd adolygiadau a sêr yn ychwanegu rhyw gyffyrddiad o ddilysrwydd y mae cwsmeriaid yn cadw llygad amdano yn y byd digidol. Bydd adolygiadau go iawn yn helpu cwsmeriaid i ddychmygu bod yn berchen ar y cynnyrch neu ddefnyddio'r gwasanaeth ei hunain, ac yn adnodd ‘ar air’ pwysig a fydd yn helpu i’w hannog i brynu.

I gael cyngor ymarferol arbenigol i helpu eich busnes i ddenu cwsmeriaid newydd a chyflymu twf busnes, dewch i un o ddigwyddiadau am ddim Cyflymu Cymru i FusnesauCofrestrwch am ddim!