Pum Awgrym i Greu Ffeithluniau Gwych

Mae ffeithlun yn gynrychiolaeth weledol ddarluniadol o wybodaeth helaeth neu gymhleth. Yn hawdd eu deall ac yn weledol ddiddorol, mae ffeithluniau yn ffordd greadigol i rannu gwybodaeth a chanfyddiadau ymchwil diddorol gyda'ch cynulleidfa.

Gan fod 90% o wybodaeth a drosglwyddir i'r ymennydd yn weledol (Zabisco) a bod yr ymennydd yn prosesu’r gweledol 60,000X yn gynt na thestun (3M Corporation), gall creu ffeithluniau eich helpu i gynyddu ymgysylltiad defnyddwyr. Yn ôl Anson Alex, mae ffeithluniau o ansawdd uchel 30 gwaith yn fwy tebygol o gael eu darllen nag erthyglau testun, ac mae cyhoeddwyr sy'n defnyddio ffeithluniau yn tyfu traffig ar gyfartaledd o 12% yn fwy na'r rhai nad ydynt yn eu defnyddio.

Os ydych yn barod i gynnwys ffeithluniau yn rhan o'ch strategaeth farchnata cynnwys, yna mae gennym 5 awgrym i'ch helpu i greu ffeithluniau cymhellgar!

  1. Cadwch eich ffocws
    Dylai’r ffeithlun gynnwys thema eglur a data wedi’i ffocysu. P'un ai ydych yn defnyddio eich canfyddiadau ymchwil eich hun neu’n cywain amrywiaeth o wybodaeth allanol, mae'n hanfodol bod eich ffeithlun yn syth i’r pwynt ac yn canolbwyntio ar bwnc arbennig neu gallai fynd yn aneglur a di-drefn.
     

  2. Gwnewch e’n ddiddorol!
    Gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth a ddefnyddir yn eich ffeithlun yn berthnasol, yn ddefnyddiadwy ac yn bennaf oll, yn ddiddorol. Does dim ots pa mor slic a deniadol yw’ch ffeithlun, os yw'r data'n ddiflas neu ddifflach, yna ni all y dyluniad gorau yn y byd ei achub. Dylai data eich ffeithlun fod mor ddeniadol fel ei fod yn gyrru'r darllenydd i rannu'r wybodaeth gyda’i rwydwaith, cyfeirio ato mewn blog neu gynnig sylwadau.
     

  3. Adroddwch stori
    Mae ffeithluniau yn fwy na rhannu pytiau o wybodaeth, gallwch hefyd adrodd stori. Unwaith byddwch wedi datblygu eich thema graidd, dylech ystyried dilyniant yr wybodaeth a'r math o ddata fydd yn debygol o fod o ddiddordeb i’ch cynulleidfa. Er enghraifft, os yw’ch ffeithlun yn cychwyn gyda gwybodaeth am sut mae busnesau’n croesawu technoleg ddigidol, gallai’r cam nesaf siarad am agweddau gweithwyr at dechnoleg ddigidol neu sut mae cwsmeriaid yn ymateb i fusnesau sy’n defnyddio technoleg.
     

  4. Peidiwch ag anghofio am y dyluniad
    I gyd fynd â data eglur, wedi’i ffocysu, dylech hefyd ddatblygu dyluniad clir, syml a chwaethus ar gyfer eich ffeithlun. Fodd bynnag, nid oes rhaid i syml olygu diflas! Dylai'r dyluniad fod yn unffurf ac yn hawdd-i'w-ddarllen ond yn weledol ddeniadol. Mae'n bwysig cadw mewn cof bod ffeithlun yn ddarn gweledol o gynnwys, ond mae angen i’r darllenydd fedru ei ddeall hefyd. Bydd hyn yn dibynnu ar gael taith glir, llif syml a chynllun taclus.
     

  5. Hawdd i'w rannu
    Gwnewch yn siŵr fod y gynulleidfa yn gallu rhannu’r ffeithlun yn hawdd. Gellid datblygu hyn drwy gynnwys camau eglur yn annog darllenwyr i rannu gyda'u rhwydwaith, neu fotymau cymdeithasol sy'n helpu eich cynulleidfa i rannu'r cynnwys ar eu llwyfannau cymdeithasol neu drwy eu cyfeiriad e-bost yn hawdd. Mae natur weledol ffeithlun a’r cynnwys diddorol yn golygu gellir ei rannu ymysg ffrindiau, cydweithwyr a chleientiaid, felly manteisiwch ar hyn.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am rannu cynnwys o ansawdd uchel gyda’ch cynulleidfa?
Ymunwch â Dosbarth Meistr Cyfryngau Cymdeithasol Cyflymu Cymru i Fusnesau a gynhelir ledled Cymru. Cofrestrwch nawr!