Rhestr wirio ar gyfer rhwydweithio cymdeithasol a busnes ar-lein

Pa un ai’ch bod yn chwilio am un neu ragor o rwydweithiau ar-lein i ymuno â nhw, neu’n ystyried cychwyn eich rhwydwaith eich hun, mae nifer o ffactorau i’w hystyried. Mae cynllunio’n eithriadol o bwysig i sicrhau eich bod yn ymuno â’r rhwydwaith /rhwydweithiau cywir a fydd yn cyflawni’r buddion busnes yr ydych yn eu dymuno.

Pwyntiau cyffredinol wrth ymuno â rhwydwaith:

  • Datblygwch eich proffil defnyddiwr eich hun. Mae rhwydweithiau’n gwbl seiliedig ar gysylltiadau. Po fwyaf o bobl a busnesau sy’n gwybod amdanoch chi, yr agosaf fydd y cysylltiad. Serch hynny, byddwch yn ofalus wrth amlygu gwybodaeth amdanoch chi a’ch busnes. Gwiriwch bob amser fod eich data’n cael ei gadw’n ddiogel.
  • Cydymffurfiwch â rheolau’r rhwydwaith. Mae gan bob rhwydwaith ei reol ei hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r safonau sy’n bodoli.
  • Cynnal cysylltiadau. Gall fod yn anodd cynnal nifer fawr o gysylltiadau wrth i chi ymuno â rhagor o rwydweithiau. Ceisiwch adnabod y cysylltiadau allweddol y dymunwch barhau cysylltiad â nhw. Bydd hyn yn eich galluogi i gyllidebu’ch amser a’ch adnoddau’n well.
  • Ewch ati i greu cynnwys newydd, gwreiddiol a difyr. Nid oes neb yn dymuno darllen gwybodaeth ddiflas ar y rhwydwaith yr ydych yn rhan ohono. Ceisiwch ysgrifennu cynnwys perthnasol a difyr bob tro y byddwch yn cyfrannu i’r rhwydwaith.
  • Dewiswch eich rhwydweithiau’n ofalus cyn hysbysebu arnynt. Yn amlwg mae’r rhwydweithiau ar-lein a ddatblygwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn lleoliadau gwych ar gyfer hysbysebu’ch busnes. Mae hysbysebion baner yn ymddangos nawr ar wefannau rhwydweithiau. Dylid ystyried yn ofalus pa fath o hysbysebu a roddir ar y rhwydweithiau hyn a pha negeseuon a roddir ynddynt. Ymchwiliwch broffil aelodau’r rhwydwaith i roi cymorth i chi ddylunio neges hysbysebu ddifyr y byddant yn ymateb yn gadarnhaol iddi.

Rhestr wirio wrth ymuno â rhwydwaith busnes:

  • Dewiswch y rhwydwaith cywir ar gyfer eich nodau busnes. Gofynnwch i chi’ch hun am ba reswm yr ydych yn ymuno â rhwydwaith ar-lein. Beth hoffech chi ei gyflawni?
  • Peidiwch â hysbysebu mewn dull ymwthiol. Eich prif ysgogiad dros ymuno â rhwydwaith ar-lein allai fod i werthu nwyddau a chynnyrch eich busnes. Ceisiwch osgoi dulliau lled ymosodol o werthu gan nad ydynt yn llwyddiannus fel arfer.
  • Ymrwymwch ddigon o adnoddau. Wrth ymuno ag un neu ragor o rwydweithiau ar-lein sy’n cefnogi’ch sector, meddyliwch faint o amser ac adnoddau sydd gennych ar gael. Bydd angen i chi a’ch busnes gynnal cysylltiadau’r rhwydweithiau hyn, a all gymryd mwy o amser ac adnoddau na’r disgwyl.
  • Ceisiwch wella brand eich busnes. Gall ymuno â rhwydwaith gael effaith eithriadol o gadarnhaol ar frand eich busnes. Bellach mae meithrin eich cysylltiadau gwaith agos drwy rwydweithiau yn elfen hanfodol o ymarfer brandio modern.
  • Ceisiwch gynnwys rhwydweithiau ar-lein fel rhan o’ch pecyn marchnata. Gall marchnata fod wrth wraidd rhwydweithiau ar-lein, ond peidiwch ag anghofio mathau eraill o hyrwyddo y mae’ch busnes yn eu defnyddio. Mae’n hawdd iawn rhoi cyfran ormodol o’ch adnoddau i rwydweithiau ar-lein. Peidiwch ag anghofio dulliau eraill o hysbysebu a hyrwyddo, gan fod y rhain yn effeithiol hefyd.