1. Crynodeb
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n dewis Band Eang Cyflym Iawn i gael gwasanaeth rhyngrwyd cyflym a dibynadwy. Yn y gorffennol roedd hyn yn broblem dim ond os oedd gennych fusnes ar-lein neu’n dibynnu’n drwm ar y rhyngrwyd ar gyfer gwneud ymchwil. Ond mae’r rhyngrwyd bellach yn rhan annatod o’r ffordd y rhedwn ein busnes, hyd yn oed os nad ydym bob amser yn ymwybodol o hynny. Mae llawer ohonom yn defnyddio’r rhyngrwyd i:
-
marchnata a gwerthu drwy’r cyfryngau cymdeithasol
-
gwneud galwadau ffôn neu alwadau cynadledda’n rhatach
-
trosglwyddo ffeiliau electronig mawr neu rannu fideos
-
arbed ar storio data, ac ar gostau cyfalaf a rhedeg, drwy feddalwedd talu-wrth-fynd
P’un ai’n gwmni mawr neu fach, gall unrhyw un elwa o fanteision defnyddio Band Eang Cyflym Iawn i bweru eu busnes gyda thechnoleg ar-lein. Mae’r canllaw hwn yn egluro’r math o fanteision sydd ar gael a sut i ddewis y darparwr gwasanaeth gorau ar gyfer eich anghenion.
2. Pa fanteision y gallaf eu disgwyl?
-
Maint eich elw: Gallai llai o gostau talu allan, cyfathrebu cyflymach a chyswllt gwell gyda chwsmeriaid greu mwy o elw i’ch cwmni.
-
Cynhyrchedd eich staff: Mae rhaglenni Cwmwl yn gadael i staff oddi-ar-y-safle ddiweddaru gwybodaeth mewn amser real yn lle gorfod dod yn ôl i mewn i'r swyddfa.
-
Arbed costau: Gallwch leihau eich costau cyfalaf drwy ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadura Cwmwl a chyfnewid gweinyddion am storio yn y Cwmwl ac ychwanegu neu dynnu allan fel bo angen.
- Effeithlon: Mae band eang cyflymach yn rhoi llwyfan mwy dibynadwy a sefydlog fel bod nifer o ddefnyddwyr yn gallu rhannu’r un cysylltiad gwasanaeth heb arafu.
-
Cwsmeriaid mwy triw: Gallwch gadw mwy o gwsmeriaid a defnyddio’r Cwmwl ar gyfer Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i wella eich cysylltiadau.
-
Gwasanaeth cwsmeriaid: Gallwch hefyd ddefnyddio adroddiadau a dadansoddiadau CRM i gynllunio ymgyrchoedd marchnata a chynnig gwasanaethau a chymorth gwell i gwsmeriaid.
-
Diogelu eich asedau: Dewiswch becynnau Cwmwl sy’n datrys bygs meddalwedd yn awtomatig i leihau unrhyw broblemau diogelwch ac arbed amser o uwchraddio gorfodol.
-
Storio wrthgefn: Gallwch leihau’r risg o golli data ar eich cwsmeriaid, cynhyrchion a data masnachol drwy storio data wrth gefn yn awtomatig yn y Cwmwl.
-
Cyfrifoldeb amgylcheddol: Gallwch gyfnewid cyfarfodydd wyneb yn wyneb am rith-gyfarfodydd er mwyn defnyddio llai o danwydd ac ennill amser teithio di-fudd yn ôl.
-
Costau ynni: Mae dewis rhith-weinyddion a gwasanaethau cyfrifiadura Cwmwl yn golygu bod llai o angen gweinyddion sy’n llyncu ynni ym mhob swyddfa.
3. Enghraifft go iawn
Mae cwmni peirianneg sifil, adeiladu a gwaith daear o’r Drenewydd wedi gosod ei hun ar lwybr twf drwy fuddsoddi’n helaeth mewn seilwaith a systemau TG digidol newydd. Mae gweithredu’r dechnoleg newydd wedi galluogi EvaBuild i ddarogan twf o 20% o un flwyddyn i'r llall am y tair blynedd nesaf.
“Ers cyflwyno’r dechnoleg TG rydym wedi gallu cynyddu ein cynhyrchedd o 50% gan ddileu’n llwyr yr oedi a arferai ddigwydd tra byddai ein timau’n aros am wybodaeth o ymweliadau safle, archwiliadau ac arolygon a wnaed ar draws y DU,” yn ôl rheolwr y prosiect Rhys Jeremiah.
-
Mae’r busnes yn defnyddio meddalwedd Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) gyda modelau 3D deallus i weithio’n gydweithredol â dylunwyr adeiladau a chontractwyr eraill ar brosiectau cymhleth.
-
Mae wedi cyflwyno meddalwedd Office 365 ar draws y busnes fel bod gan staff fynediad o bell ac yn gallu rhannu dogfennau os ydynt yn gweithio i ffwrdd o’r swyddfa.
-
Mae Gweinydd Storio Data Rhwydwaith (NAS) y cwmni wedi creu capasiti ychwanegol i storio data yn y Cwmwl. Mae'n rhoi mynediad i staff allweddol at feddalwedd pwysig-i-fusnes lle bynnag y maent yn y wlad.
4. Lle a phryd y gallaf gael Band Eang Cyflym Iawn?
Ar hyn o bryd mae Cyflymu Cymru’n gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn derbyn cyflymder mor gyflym â phosib lle bynnag y maen nhw.
I gael gwybod a allwch dderbyn Band Eang Cyflym Iawn, neu pryd y bydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i:
http://gov.wales/topics/science-and-technology/digital/infrastructure/superfast-broadband/?lang=cy
Hefyd, os ydych eisiau gwirio pa mor gyflym yw eich band eang presennol, gallwch ddefnyddio’r offeryn ar-lein canlynol yn ddi-dâl:
http://www.broadbandspeedchecker.co.uk/
5. Sut y dylwn i ddewis Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP)?
Eich ISP yw’r cwmni sy’n darparu’r ddolen sy’n eich cysylltu i’r rhyngrwyd. Er bod darparwyr yn y bôn yn darparu’r un gwasanaeth, medrant fod yn dra gwahanol o ran eu cyflymder, pa mor ddibynadwy ydynt, eu gwasanaeth gwe-letya ac ansawdd eu gwasanaeth cymorth i gwsmeriaid.
Mae beth yn union sydd ei angen arnoch gan ISP yn dibynnu ar sut y bydd eich busnes yn bwriadu defnyddio’r rhyngrwyd. Dylech gymharu prisiau, cytundebau lefel gwasanaeth, a chyrhaeddiad. Yna dylech werthuso beth yw anghenion eich busnes, yn awr ac yn y dyfodol. Os yw’r rhain yn debygol o fod yn wahanol iawn, cofiwch ddarllen y telerau ar gloi cwsmeriaid i gontract. Argymhellwn eich bod yn gwneud ymchwil ar-lein a thrwy ddarllen adolygiadau gan gwsmeriaid. Gorau oll, holwch fusnesau eraill y gwyddoch amdanynt ac y gallwch ymddiried ynddynt am eu profiadau o'u darparwr ISP.
6. Pam fod lled band yn bwysig?
Mae lled band yn golygu faint o wybodaeth y gall cysylltiad i’r rhyngrwyd ymdopi â fo ar unrhyw adeg, a pho uchaf yw’r band lled, po gyflymaf y bydd ffeiliau’n cael eu hanfon a’u derbyn a pho gyflymaf y bydd tudalennau gwe’n llwytho. Caiff ei fesur mewn megabitiau yr eiliad, wedi’i dalfyrru'n aml i Mbps.
Bydd pwysigrwydd band lled i chi’n dibynnu ar sut y bwriadwch ddefnyddio’r rhyngrwyd. Os mai anfon e-byst a darllen tudalennau gwe a wnewch yn bennaf, bydd unrhyw ISP yn gallu darparu digon o fand lled i wneud hynny. Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio fideos ar-lein yn aml neu’n anfon a derbyn ffeiliau mawr, gallai fod yn broblem fawr.
Mae mwyfwy o weithgareddau busnes o hyd yn symud at amgylchedd ar-lein amlgyfrwng; er enghraifft, mae fideo-gynadledda ar y we'n disodli cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae’n werth nodi bod pob busnes bron yn cynhyrchu mwy o ddata digidol bob blwyddyn. Mae’r ffactorau hyn yn golygu ei bod yn anochel bron y bydd eich gofynion lled band yn cynyddu.
7. Beth y dylwn ei ystyried?
-
Cofiwch dros amser y bydd defnydd eich busnes o'r rhyngrwyd, a’ch gofynion lled band, yn cynyddu. Dylech sicrhau bod unrhyw gytundeb gydag ISP yn gallu cwrdd ag anghenion eich busnes yn awr AC yn y dyfodol.
-
Cymrwch ffigurau perfformiad gyda phinsiad o halen. Cofiwch fod y ffigurau sy’n cael eu brolio gan ISP fel arfer yn senarios achos gorau, felly peidiwch bod ag ofn gofyn pa led band y mae cwsmeriaid yn ei dderbyn ar gyfartaledd.
-
Peidiwch â dewis ISP ar sail pris yn unig. Dylech ystyried beth allai eich busnes ei golli pe bai ISP rhad, o ansawdd isel, yn eich gadael heb gysylltiad i’r we am 24 awr.
-
Gwyliwch allan am drothwyon defnydd. Mae gan rai darparwyr ISP drothwyon ar faint o ddata y gallwch ei lanlwytho neu lawrlwytho mewn cyfnod neilltuol, felly cofiwch sicrhau eu bod yn sylweddol uwch na’ch lefelau defnydd disgwyliedig os ydych am ddefnyddio ISP o’r fath.
-
Peidiwch â chael eich dallu gan ffigurau amser mynd. Gallai amser mynd o 99% swnio’n wych ond mae’n golygu mwy na thri diwrnod o amser di-fynd mewn blwyddyn.
-
Canolbwyntiwch ar eich anghenion presennol ac i ddod. Peidiwch â gadael i bethau amherthnasol dynnu eich sylw.
8. Beth yw’r manteision sydyn gyda Band Eang Cyflym Iawn?
Rhedeg eich busnes: Y dyddiau hyn nid oes mwyach angen prynu a gosod meddalwedd sy’n llyncu cof ar gyfrifiaduron swyddfa. Mae’r rhan fwyaf o gyflenwyr yn cynnig atebion Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) drwy’r Cwmwl fel bod cwmnïau’n gallu talu-wrth-fynd a lleihau’r gost uchel o redeg busnes. Gallwch hefyd gynyddu neu leihau nifer y trwyddedau sydd eu hangen arnoch, felly dylech ddewis beth bynnag sy’n addas i’ch anghenion a’ch poced. Oherwydd mai pecynnau Cwmwl yw’r rhain, gall gweithwyr enwebedig eu defnyddio o rywle sy’n golygu bod staff oddi-ar-y-safle’n gallu cwblhau’r gwaith papur, ar gyfer gwerthiant er enghraifft, tra bo’r haearn yn boeth.
Costau cyfathrebu: Mae cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy’n rhoi'r opsiwn i fusnesau o wneud galwadau ffôn rhatach a threfnu a mynychu fideo-gynadledda. Mae Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP) yn cynnig arbedion aruthrol ar filiau ffôn blynyddol, gan leihau costau teithio a llety ynghyd ag amser teithio di-fudd. Cyn belled â bod gennych fynediad at ddyfais gyda chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy, gallwch ddefnyddio VoIP. Mae rhai busnesau’n rhoi VoIP ar eu ffonau desg, cyfrifiadur pen-desg, gliniadur a ffonau symudol i leihau eu costio ffôn.
Storio data’n ddiogel: Mae band eang cyflym iawn yn rhoi mynediad dibynadwy at atebion storio drwy’r Cwmwl fel bod llai o angen prynu, a chynnal a chadw, gweinyddion drud ac ychwanegu opsiynau diogelwch a dyfeisiau dyblyg. Oherwydd y rheolau GDPR newydd, bydd angen i chi ofyn i’ch ISP lle maen nhw’n storio ‘data lle gellir adnabod yr unigolyn’, gan gynnwys storio wrth gefn, ac un opsiwn diogel yw dewis un sy’n storio data o fewn yr UE. Mae llawer o gwmnïau’n dewis ateb Cwmwl neu hybrid oherwydd rydych ond yn prynu’r gofod storio sydd ei angen arnoch a gallwch gynyddu capasiti’n hawdd a chyflym.
Diogelwch wrth gefn: Mae bob amser yn werth cofio mai mwya’n byd y dibynnwn ar gyfathrebu digidol, mwya’n byd yw ein risg o seiber-ymosodiad. Mae camau ataliol nid yn unig yn lleihau’r risg o golledion data ac ariannol, mae’n gwarchod eich cwsmeriaid ac amddiffyn eich enw da. Mae llawer o atebion data wrth gefn awtomatig cymharol rad ar gael i gynnig tawelwch meddwl, os bydd seiber-ymosodiad yn digwydd neu system yn methu, bod eich data busnes hanfodol yn ddiogel ac y gallwch ei adalw’n hawdd.
9. Argymhellion gweithredu ac awgrymiadau
Byddwch yn barod: nid y dechnoleg ei hun sy’n bwysig.
Y gwir wahaniaeth yw sut y gall technoleg wella’r ffordd y rhedwch eich busnes. Hyd yn oed cyn derbyn Band Eang Cyflym Iawn, dylech fod yn cynllunio ar gyfer sut i wneud y mwyaf ohono. I ddeall sut i wneud y mwyaf o Fand Eang Cyflym Iawn a thechnolegau Cwmwl ar gyfer eich busnes, ewch i’n gwefan yn:
https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy
-
Gwnewch ymchwil i’r Cwmwl: Er mwyn darganfod a chymharu gwasanaethau a allai uwchraddio eich gallu neu arbed arian i chi ar draws eich cysylltiad newydd dibynadwy.
-
Ewch ati’n syth i drefnu Band Eang Cyflym Iawn: Bydd eich gwasanaeth band eang presennol yn aros yn ei le tan y byddwch yn uwchraddio i becyn Band Eang Cyflym Iawn.
-
Gwiriwch gapasiti presennol eich system gyfrifiadurol: Er y gallai eich cyfarpar cyfrifiadurol gysylltu i Fand Eang Cyflym Iawn, gallai fod angen ei uwchraddio i wneud y defnydd gorau o’r llif data ychwanegol.
-
Meddyliwch am symud eich ffonau i VoIP: Beth am werthuso eich costau cyfathrebu a’r arbedion y gallech eu gwneud.
-
Gweithredu polisi gweithio hyblyg: Gall gweithio hyblyg wella cynhyrchedd rhai mathau o fusnesau yn ogystal â chynyddu eich potensial ar gyfer amrywiaeth a rhyddhau mwy o le yn eich swyddfeydd i ehangu.
-
Monitro’r manteision: Ewch ati i fesur eich cynhyrchedd cyn gosod i sicrhau y gallwch fesur a deall effeithiau eich cysylltedd newydd.
-
Parhau i fonitro’r farchnad a’ch busnes: Wrth i’ch anghenion newid ac wrth i dechnoleg barhau i wella, dylech sicrhau eich bod yn gwybod a allech elwa o newid cyflenwyr neu dechnoleg.
10. Cyflymu Cymru i Fusnesau
Defnyddiwch gyfeirlyfr meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau i weld pa feddalwedd a allai eich helpu i redeg eich busnes.
Cofrestrwch i fynychu gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau cwbl ddi-dâl.
Yn y gweithdy, gwnewch apwyntiad i weld Cynghorydd Busnes fydd yn eich helpu i greu cynllun gweithredu digidol i dyfu eich busnes.