Awgrymiadau Defnyddiol i ddatblygu Strategaeth Farchnata Digidol lwyddiannus

Mae datblygu eich strategaeth farchnata digidol yn hanfodol i sicrhau bod yr holl weithgarwch y byddwch yn ymgymryd ag ef yn cael ei dargedu, yn canolbwyntio ar y brand, yn hybu ymgysylltu ac yn cyfrannu at neges a chynllun cyffredinol. Trwy ddeall beth rydych yn ei wneud a sut rydych yn bwriadu ei wneud, bydd eich strategaeth farchnata digidol yn rhoi ffocws clir i chi, cewch fwy’n ôl am eich buddsoddiad a gallwch wella sut yr ydych yn mesur eich gweithgarwch.

Darllenwch ein 7 awgrym defnyddiol i ddatblygu strategaeth farchnata digidol lwyddiannus yn awr:

Asesu eich sefyllfa ar hyn o bryd

Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau, mae’n bwysig gwerthuso perfformiad presennol eich busnes a’i weithgarwch marchnata digidol fel y gallwch ddechrau ffurfio cynllun i symud y busnes ymlaen. Ystyriwch ffactorau fel:

  • Beth yw eich nodau tymor byr a thymor hir?

  • Sut ydych chi’n perfformio yn erbyn eich amcanion busnes ar hyn o bryd?

  • Pa becynnau cymorth ydych chi’n eu defnyddio eisoes? Pa becynnau hoffech chi eu defnyddio?

  • Ym mha ffordd mae eich cynulleidfa’n ymgysylltu â’ch busnes?

  • Pa mor alluog fyddwch chi i ymgymryd â gweithgarwch newydd yn fewnol neu staff newydd?

  • Beth yw’r canfyddiad cyfredol o’ch brand?

Sut hoffech chi weld y busnes yn tyfu?

Meddyliwch am eich nodau ar gyfer twf am y 6 i 12 mis nesaf. Beth yn union hoffech chi ei gyflawni? A hoffech chi werthu mwy, hyrwyddo negeseuon newydd, arbed arian, troi at dechnolegau newydd, manteisio ar blatfformau ar-lein newydd neu ymestyn ymwybyddiaeth o’r brand? Beth bynnag yw eich nodau, gwnewch yn siŵr eu bod yn rhai realistig ac yn rhai y gallwch eu mesur gan y bydd hynny’n sail i graidd eich strategaeth farchnata digidol.

Cynlluniwch y gweithgareddau y byddwch yn ymgymryd â hwy

Wrth feddwl am y galluogrwydd sydd gennych chi, y platfformau yr hoffech eu defnyddio a'ch negeseuon neu’ch cymhellion, ystyriwch sut a ble byddwch yn dechrau rhannu eich gweithgarwch marchnata digidol. Cynlluniwch ffyrdd i dargedu a sicrhau lle i’ch brand, y platfformau y byddwch yn eu defnyddio, y negeseuon y byddwch yn eu rhannu, sut fydd y gwahanol elfennau’n bwydo i mewn i’w gilydd a’r math o gynnwys y bydd angen i chi ei greu. Cofiwch y dylai eich holl weithgarwch ganolbwyntio ar y cwsmeriaid yr ydych yn ceisio’u denu.

Ystyriwch amrywiaeth eang o elfennau digidol

Er ei bod yn braf bob amser cadw ar y pethau hynny sy’n gweithio, mae digonedd o gyfleoedd i fusnesau o bob maint i wneud yn siŵr na fyddwch yn gorfod parhau i ddefnyddio’r un hen blatfformau os nad ydych yn teimlo eich bod yn elwa arnynt. Gwnewch rywfaint o ymchwil i adolygu’r gwahanol becynnau cymorth neu gyfryngau a allai helpu mwy o ymgysylltu â’ch brand. Gweithgarwch marchnata digidol craidd y gallech eu hystyried yw: cyfryngau cymdeithasol, marchnata fideo, marchnata e-bost, optimeiddio chwilotwyr, marchnata cynnwys a hysbysebu. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ond mae’n fan cychwyn da. Cofiwch, nid yn unig y bydd gan bob cyfrwng y byddwch yn ei ddefnyddio ei rôl unigol ei hun i’w chwarae ond bydd ganddynt rôl gyda’i gilydd hefyd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried sut y bydd pob gweithgarwch yn cyfrannu at strategaeth ehangach.

Creu amserlen i lansio a rheoli eich strategaeth

Ar ôl i chi ddatblygu strategaeth gyda’r cyfryngau rydych am eu defnyddio, y negeseuon rydych am eu rhannu a’r prif amcanion i gyflawni, dylech ystyried pwy fydd yn gyfrifol am reoli’r gwahanol elfennau i sicrhau bod gennych reolaeth lwyr dros eich strategaeth.

Cynlluniwch sut y byddwch yn creu, yn lansio ac yn rheoli gwahanol elfennau eich strategaeth. Dylech gael prif amcanion neu negeseuon, wedi’u rhannu fesul prif gyfrwng a gweithgarwch.  Gwnewch yn siŵr bod pob elfen yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cyfrannu at y strategaeth ehangach. Ystyriwch pryd fyddai’r amser gorau i lansio eich strategaeth ac i roi elfennau o’ch strategaeth ar waith mewn ffordd systematig.

Mesur llwyddiant eich gweithgarwch  

Meddyliwch am yr hyn y gallwch ei asesu a sut y byddwch yn ei werthuso i ddeall a yw wedi bod yn llwyddiannus, y math o ymgysylltu sydd wedi deillio ohono a sut y gallwch wneud gwelliannau yn y dyfodol. Sut fyddwch chi’n ymateb i unrhyw ddata neu wybodaeth ddadansoddol y byddwch yn ei chasglu? Datblygwch broses werthuso ac adolygu yn eich strategaeth i sicrhau bod y gwaith rydych yn ei wneud o fudd gwirioneddol i’r busnes.  

Addasu wrth ddysgu

Nid yw strategaeth farchnata digidol yn ddogfen statig. Er y bydd yn rhoi syniadau, negeseuon a chanllawiau clir i chi, mae’n bwysig ymateb i ganlyniadau’r data a’r wybodaeth ddadansoddol rydych yn eu casglu. Byddwch yn hyblyg ac yn agored i gyfleoedd newydd ac yn barod i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol.

Dal i chwilio am gymorth i ddatblygu strategaeth farchnata digidol gryfach?

Ymunwch â Chyflymu Cymru i Fusnesau mewn gweithdy Llwyddo gyda Marchnata Digidol i gael cyngor ymarferol i’w roi ar waith yn eich busnes i godi ymwybyddiaeth, i ddenu cwsmeriaid newydd ac i gynyddu elw fel canlyniad.

Cofrestrwch yn awr!