2019: Blwyddyn Darganfod

Yn ystod Blwyddyn Darganfod 2019 gwnaethomwahodd ymwelwyr i weld yr hyn sy'n ein gwneud yn unigryw: y pethau na fyddwch yn eu gweld unrhyw le arall yn y byd. Yn ystod 2019 gwnaethom ganolbwyntio ar y canlynol:

  • edrych ar y tair thema graidd a gafodd eu defnyddio cyn 2019 - Blwyddyn Antur, Blwyddyn Chwedlau a Blwyddyn y Môr - gan ganolbwyntio ar ein cryfderau craidd: antur, diwylliant a'r dirwedd
  • dod â’r themâu ynghyd; i greu safbwyntiau amrywiol o Gymru lle y mae'r cryfderau hyn i'w gweld gyda'i gilydd; a lle, mewn mannau fel Gogledd Cymru gyda'i weithgareddau antur o'r radd flaenaf, diwylliant treftadaeth y byd a'i dirwedd naturiol anhygoel, y daw'r rhain i gyd ynghyd i greu darlun unigryw o'r wlad i'r byd.

Roedd creu profiadau unigryw a chofiadwy ym mhob un o'r meysydd hyn, ynghyd â bwyd a diod a lletygarwch gwych, wrth wraidd yr hyn y gwnaethom geisio ei gyflawni.