Coronafeirws (COVID-19)
Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fusnesau twristiaeth ledled Cymru. Rydym yn anelu at roi’r newyddion diweddaraf ichi ynghylch y materion perthnasol wrth i’r sefyllfa o’n cwmpas ddatblygu.
Gwybodaeth Defnyddiol COVID-19
Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael. Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.
Cwestiynau Cyffredin:
Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson. Edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Yn ystod y cyfnod digynsail ac eithriadol o anodd hwn rydym yn cyhoeddi bwletinau rheolaidd a diweddariadau i'r diwydiant.
Canllawiau:
- Canllawiau i helpu leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd - mae hyn yn cynnwys manylion sy'n ymwneud ag ymwelwyr â llety a busnesau eraill.
- Canllawiau i Fusnesau twristiaeth a lletygarwch – ar gael i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch weithredu’n ddiogel yn ystod pandemig coronafirws (COVID-19). Gwyliwch y fideo hon i'ch helpu gyfarwyddo ar canllawiau.
- Mae canllawiau wedi'u cynhyrchu a'u diweddaru mewn ymgynghoriad â'r sector Lletygarwch ar gyfer Tafarndai, Bariau, Caffis a Bwytai sy'n ailagor y tu mewn a'r tu allan, y gellir eu gweld ar wefan UK Hospitality (Saesneg yn unig).
- Ceir crynodeb o becynnau cymorth COVID-19 sydd ar gael i sefydliadau a busnesau yng Nghymru, sy’n cynnwys cyllid, canllawiau cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer y gweithle ar wefan Busnes Cymru.
- Canllawiau i awdurdodau lleol, safleoedd cymeradwy a mannau addoli ar briodasau a phartneriaethau sifil
- Asesiadau risg ar gyfer lleoliadau a digwyddiadau priodas.
Adnoddau a Phecynnau Cymorth y gellir eu lawrlwytho ar gyfer eich busnes:
- Adnoddau cyffredinol Cadw Cymru'n Ddiogel gan gynnwys posteri i'w lawrlwytho.
- Pecyn ac adnoddau Profi Olrhain Diogelu gan gynnwys Cadw cofnodion.
- Pecynnau Darganfod Cymru'n Ddiogel gan gynnwys canllaw i’r diwydiant a phethau i’w lawrlwytho fel posteri i’ch helpu i rannu negeseuon Addo. Hefyd casgliad o luniau sydd wedi’u dewis yn ofalus i dynnu sylw at fannau agored a’r angen i gadw pellter.
- Os mai dyma’r tro cyntaf ichi ddefnyddio’r safle, bydd angen munud o’ch amser i gofrestru.
- Yn ogystal â’r uchod, mae’n cynnwys llyfrgell anferth o luniau a gwybodaeth am ddim.
- Defnyddiwch #Addo #DiogeluCymru ar y cyd â ymgyrch y DU #EscapeTheEveryday (Saesneg yn unig) (Mae Croeso Cymru yn gweithio ar yr ymgyrch domestig yma yn yr hydref mewn partneriaeth â VisitEngland).
“Addo. Gwnewch addewid dros Gymru.”
Ein prif neges wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddechrau agor eto yw: ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’ Dyma frawddeg syml y gellir ei haddasu ar gyfer eich busnes neu eich ardal leol, er mwyn annog pobl i fod yn gyfrifol tra yn ymweld â Chymru.
Fel rhan o’r neges rydym yn gofyn i bawb sy’n teithio o amgylch Cymru i addo i wneud y pethau bychain fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid yma www.croeso.cymru/addo.
Rannu eich addewidion gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #addo #DiogeluCymru ar y cyd â ymgyrch y DU #EscapeTheEveryday (Mae Croeso Cymru yn gweithio ar yr ymgyrch domestig yma yn yr hydref mewn partneriaeth â VisitEngland).
Hoffem roi sicrwydd ichi bod Croeso Cymru yn monitro effaith y Coronafeirws (COVID-19) yn barhaus ar y sector twristiaeth ac yn cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymeryd mesurau priodol i ymateb i’r sefyllfa sy’n datblygu.
Y cyngor i fusnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru yw:
- mynd i wefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 ar gyfer canllawiau penodol i fusnesau. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
- edrych ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a’ch ymwelwyr.
- cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr
- dilynnwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol