Croeso i Gymru
Bydd cyfnod gweithredu Partneriaeth ar gyfer twf: strategaeth ar gyfer twristiaeth 2013 – 2020 yn dod i ben eleni.
Mae’r adolygiad o strategaeth 2013-2020 ar gyfer twristiaeth, sy’n nodi’r gwahanol lefelau o lwyddiant, ar gael nawr.
Gan edrych ar ddyfodol twristiaeth, dechreuon ni sgwrs i drafod twristiaeth yng Nghymru.
Dechreuom gyda'r "10 cwestiwn – Dewch inni lunio’r dyfodol" i ddarparu cwestiynau yn nodi rhai o heriau'r dyfodol i Gymru, i ddechrau'r sgwrs. Roedd ffilm fer yn dangos syniadau rhai o randdeiliaid y sector ar gael hefyd.
Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025
Mae manylion ynghylch yr ymatebion i’r gwaith ymgysylltu a ffynonellau eraill o ddata ar gael isod. Cafodd y rhain, ynghyd ag eraill, eu defnyddio er mwyn llywio cyfeiriad Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025.
- Asesiad effaith integredig
- Dogfen crynodeb o dystiolaeth
- Ymchwil Wavehill: dadansoddiad o’r ymatebion i 10 Cwestiwn