Datganiad Preifatrwydd - Sicrhau Ansawdd Croeso Cymru

10/01/2023

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data at ddiben cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK-GDPR).  Mae prosesu’ch cais yn rhan o’n gorchwyl cyhoeddus i weinyddu’r gwasanaeth, a bydd yn rhan o’n contract.

Diben y Prosesu
Er mwyn prosesu’ch cais a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich busnes a’ch statws achrediad i bartneriaid mewnol (adrannau eraill Llywodraeth Cymru) ac allanol (Partneriaid Data, Awdurdodau Lleol, Asiantau Rheoli Canolfannau Croeso), mae Llywodraeth Cymru yn gofyn ichi roi gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth fusnes yn unol â’r ffurflen gais.  Mae angen prosesu’r data hyn er mwyn i Lywodraeth Cymru wneud y tasgau a ganlyn.

Mae angen manylion cyswllt arnom er mwyn i Groeso Cymru allu cysylltu â chi i wneud trefniadau ar gyfer yr ymweliad sicrhau ansawdd; anfon derbynebau, adroddiadau achrediad a thystysgrifau ac am resymau gweithredol.

Anfonir manylion cyswllt hefyd at Stiwardiaid Data Croeso Cymru (Twristiaeth Canolbarth Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru, ‘New Vision Group’) er mwyn iddynt allu cysylltu â chi at ddiben rhoi’ch manylion ar wefan ddefnyddwyr Croeso Cymru – www.croesocymru.com

Derbynwyr y Data
Caiff gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru am eich busnes ei rhannu â’r cyrff a ganlyn am y rhesymau a nodir uchod:

  • Adrannau eraill Llywodraeth Cymru
  • Stiwardiaid Data (Twristiaeth Canolbarth Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru, ‘New Vision Group’) – mae’r sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau i Groeso Cymru o dan gontract.
  • Sefydliadau Twristiaeth Cenedlaethol
  • Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithas Twristiaeth Anturiaeth Cymru (WATO)

Cadw Data
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw gwybodaeth bersonol at ddibenion graddio am 7 mlynedd.   

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth
Mae hawl gennych:

  • weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch; 
  • gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny; 
  • gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu arno (mewn amgylchiadau penodol);
  • i’ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau); 
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Rhagor o wybodaeth
Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sy’n cael ei chadw neu’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech ddefnyddio’ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, SY23 3UR
E-bost:    quality.tourism@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
E-bost:    DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
Manylion Cyswllt:
Ail Lawr, Churchill House, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400 neu 0303 123 1113
E-bost:     cymru@ico.org.uk
Gwefan:   https://ico.org.uk/about-the-ico/other-languages/welsh/