Dathlu 10 mlwyddiant
Llwybr Arfordir Cymru
03 Mawrth 2022
Ar 3 Mawrth 2022, cynhaliodd Croeso Cymru, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru, sesiwn ar-lein i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid y diwydiant am y gweithgarwch sydd ar y gweill ar gyfer eleni, i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu Llwybr Arfordir Cymru.
Rhannodd ein siaradwyr gwadd newyddion am raglen o weithgarwch cynaliadwy a fydd yn:
- codi ymwybyddiaeth am fuddiannau Llwybr Arfordir Cymru
- cynyddu’r defnydd ohono
- ysbrydoli ymwelwyr i’w fwynhau a’i werthfawrogi
Roeddent hefyd yn rhannu eu cynlluniau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol drwy gydol 2022. Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael gwybod sut y gall eich busnes gymryd rhan yn y dathliadau pen-blwydd. Mae'r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys:
- Pecyn Busnes - Pecyn cymorth sydd wedi'i gynllunio i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu busnes drwy ddefnyddio atyniad Llwybr Arfordir Cymru.
- Pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd - Trosolwg o Lwybr Arfordir Cymru a beth sy’n digwydd yn ystod dathlu degfed ben-blwydd y Llwybr.
- Cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i gynllunio ymweliad: Teithiau Cerdded; App Darganfod Llwybr Arfordir Cymru; Map Rhyngweithiol Llwybr Arfordir; Codau QR Mannau Hanesyddol mewn mannau o ddiddordeb.
Gallwch hefyd lawrlwytho logos pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed i'w defnyddio i farchnata eich busnes, ceir rhain ar wefan croeso Cymru Assets.
Mae gwybodaeth o'r sesiwn ar gael isod:
- Cofnod o’r digwyddiad diwydiant ar-lein - Dathlu 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru
- Cyflwyniad 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru (cyflwyniad allanol) (PDF)
- Llwybr Arfordir Cymru
- Cyngor ynghylch Diogelwch Llwybr Arfordir Cymru
- Pecyn Busnes
- Pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd
- Cynllunio'ch Ymweliad
- Codau QR - Mannau hanesyddol
- Defnyddiwch yr ap Refill i ganfod dŵr yfed ar eich taith
- Asedau : Llwybr Arfordir Cymru | Croeso Cymru (rhaid cofrestri)
- Erthygl National Geographic (Saesneg yn unig)