Dathlu 10 mlwyddiant

Llwybr Arfordir Cymru

03 Mawrth 2022

Wales Coast Path 10th Anniversary logo

Ar 3 Mawrth 2022, cynhaliodd Croeso Cymru, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru, sesiwn ar-lein i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid y diwydiant am y gweithgarwch sydd ar y gweill ar gyfer eleni, i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu Llwybr Arfordir Cymru.

Rhannodd ein siaradwyr gwadd newyddion am raglen o weithgarwch cynaliadwy a fydd yn:

  • codi ymwybyddiaeth am fuddiannau Llwybr Arfordir Cymru
  • cynyddu’r defnydd ohono 
  • ysbrydoli ymwelwyr i’w fwynhau a’i werthfawrogi 

Roeddent hefyd yn rhannu eu cynlluniau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol drwy gydol 2022. Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael gwybod sut y gall eich busnes gymryd rhan yn y dathliadau pen-blwydd. Mae'r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Pecyn Busnes - Pecyn cymorth sydd wedi'i gynllunio i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu busnes drwy ddefnyddio atyniad Llwybr Arfordir Cymru.  
  • Pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd - Trosolwg o Lwybr Arfordir Cymru a beth sy’n digwydd yn ystod dathlu degfed ben-blwydd y Llwybr. 
  • Cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i gynllunio ymweliad: Teithiau Cerdded; App Darganfod Llwybr Arfordir Cymru; Map Rhyngweithiol Llwybr Arfordir; Codau QR Mannau Hanesyddol mewn mannau o ddiddordeb. 

Gallwch hefyd lawrlwytho logos pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed i'w defnyddio i farchnata eich busnes, ceir rhain ar wefan croeso Cymru Assets.

Mae gwybodaeth o'r sesiwn ar gael isod:

  1. Cofnod o’r digwyddiad diwydiant ar-lein - Dathlu 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru
  2. Cyflwyniad 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru (cyflwyniad allanol) (PDF)  
  3. Llwybr Arfordir Cymru 
  4. Cyngor ynghylch Diogelwch Llwybr Arfordir Cymru 
  5. Pecyn Busnes 
  6. Pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd 
  7. Cynllunio'ch Ymweliad 
  8. Codau QR - Mannau hanesyddol 
  9. Defnyddiwch yr ap Refill i ganfod dŵr yfed ar eich taith   
  10. Asedau : Llwybr Arfordir Cymru | Croeso Cymru (rhaid cofrestri)  
  11. Erthygl National Geographic (Saesneg yn unig)