Dewch inni lunio’r dyfodol

Yn 2020, bydd strategaeth twristiaeth Cymru yn dod i ben, a rydym yn dechrau ystyried beth fydd yn dod yn ei lle.

Mae’r strategaeth bresennol – Partneriaeth ar gyfer Twf – yma.

Cyn inni ddatblygu blaenoriaethau yn y dyfodol ar gyfer twristiaeth a’r economi ymwelwyr ehangach yng Nghymru, rydym am glywed eich barn.  Felly rydym wedi lansio sgwrs ehangach am dwristiaeth yng Nghymru.

Mae’r sgwrs hon wedi dechrau gydag 10 cwestiwn - Dewch inni lunio’r dyfodol sy’n nodi rhai o’r heriau mawr i Gymru yn y dyfodol. 

Mae hyn yn cynnwys 10 o gwestiynau mawr y bydd angen inni eu hystyried i ddatblygu ‘Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr’ dros yr haf.

Mae Croeso Cymru yn ymgymryd â dadansoddiad cynhwysfawr ar berfformiad y diwydiant o ran cyflawni’r strategaeth. Mae'r sleidiau hyn yn rhoi trosolwg byr o'r canfyddiadau allweddol.

Gallwch weld y ffilm fer sy'n rhoi barn rhai rhanddeiliaid yn y sector i ysgogi eich syniadau eich hun.