Digwyddiadau ar-lein y diwydiant twristiaeth
Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae Croeso Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i helpu i dyfu twristiaeth er lles Cymru.
Mae ein gwaith ymgysylltu amrywiol gyda busnesau twristiaeth a lletygarwch, awdurdodau lleol, cyrff masnach, sefydliadau'r trydydd sector a phartneriaid eraill yn hanfodol i Croeso Cymru.
Oherwydd y pandemig, ataliwyd y cyfarfodydd a'r digwyddiadau wyneb yn wyneb arferol, gan gynnwys Sioeau Teithiol. Defnyddiodd Croeso Cymru dechnoleg ar-lein i gyfarfod yn amlach â rhanddeiliaid.
Hyd nes y gall Croeso Cymru ddychwelyd yn llawn i ddigwyddiadau ymgysylltu, bydd ddigwyddiadau ar-lein yn parhau.
Mae gwybodaeth o’r gweminarau a gynhalwyd hyd yma ar gael isod.
Mae mwy o weminarau'n cael eu cynllunio. Tanysgrifiwch i gylchlythyrau ein diwydiant a dilynwch ni ar Twitter i fod y cyntaf i gael y wybodaeth.