Show all parts of this guide
1. Hunaniaeth Cymru: Teimlad o le
Mewn byd sy’n gynyddol rithwir, y ‘teimlad’ sydd gennym fydd yn gwneud i Gymru fod yn arbennig. Y teimlad hwnnw o fod yn gartrefol, o ddiogelwch a chynefindra sy’n asio nodweddion ffisegol y tir gyda chof, celfyddyd a myth. Y cyffyrddiad anesboniadwy hwnnw y byddwn yn ei adael ar y croen a’r enaid - ein teimlad o le.
Mae’r gwaith ehangach a wnawn i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth yn chwarae rhan bwysig, ond mae gennych chi’r grym i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r profiad a gaiff pobl o Gymru. Rydym wedi creu rhai canllawiau ar ein teimlad o le. Gobeithiwn y bydd yr offerynnau hyn yn rhoi syniadau i chi ynglŷn â sut i greu profiad bythgofiadwy i ymwelwyr.
2. Sgiliau
Mae'n bwysig bod pobl sy'n ymweld â Chymru yn mwynhau eu hunain tra maent yma. Os bydd ein hymwelwyr yn cael amser da yng Nghymru maent yn fwy tebygol o ddychwelyd a’n hargymell i eraill. Pobl yw ein hased pwysicaf i helpu sicrhau bod hyn yn digwydd.
Ceir llawer o adnoddau ar gyfer i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau cywir i chi a'ch staff.
3. Technoleg ddigidol
Mae technoleg ddigidol (neu dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCH)) a gwasanaethau ar-lein eisoes wedi gweddnewid sawl agwedd ar ein ffordd o fyw yn gyffredinol a'r ffordd y mae busnesau twristiaeth yn cael eu redeg. Rydym yn wynebu dyfodol lle byddant yn chwarae hyd yn oed mwy o ran yn ein bywydau.
Mae’r Offeryn Diagnostig TGCH busnes twristiaeth yn ffordd hawdd a chyflym i adolygu eich defnydd o TGCH. Mae Cymorth pellach ar gael yn y Canllaw Cyflymu Cymru I Fusnesau and Twristiaeth Ddigidol – Canllaw i’ch Cynorthwyo
4. Cruise Wales
Mae Cruise Wales yn bartneriaeth marchnata arloesol, sy’n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys:
- Awdurdodau Porthladdoedd Cymru
- awdurdodau lleol
- atyniadau a lletyau lleol
- unrhyw randdeiliaid allanol sydd â diddordeb
Nod y Partneriaeth ar gyfer Twf: strategaeth ar gyfer twristiaeth 2013-2020 yw sicrhau twf o 10% mewn twristiaeth yng Nghymru erbyn 2020. Mae'r farchnad mordeithio yn rhan annatod o'r strategaeth a dyma un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf. Rydym yn parhau i weld twf yn nifer y teithwyr sy'n ymweld â Chymru bob blwyddyn.
Ein nod ar gyfer y dyfodol yw:
- gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu'r cyfleusterau mordeithio sydd ar gael
- datblygu ymhellach y ddarpariaeth ar y lan ar draws y chwe phorthladd allweddol
- ehangu ffocws y farchnad yn y DU, Ewrop a'r UDA
- annog mwy o ymwelwyr i Gymru
Fel cyrchfan, mae gan Gymru rywbeth at ddant pawb. Cewch gyfle i fwynhau ein diwylliant a'n treftadaeth, i ymweld â'n tirluniau ysblennydd ac i fwynhau gweithgareddau unigryw.
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â Cruise Wales (saesneg yn unig) neu cysylltwch â Elaine Thomas, Swyddog Gweithredol Cruise ar 03000 628146 neu drwy e-bost elaine.thomas4@llyw.cymru
5. Wefan llyw.cymru
Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Mae twristiaid yn gwario o gwmpas £14 miliwn y dydd tra yng Nghymru, sy’n rhoi cyfanswm o tua £5.1 biliwn y flwyddyn. Tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yw Croeso Cymru, ac mae’n perthyn i’r Adran Economi a’r Seilwaith
Mae Croeso Cymru yn gyfrifol am lunio polisi twristiaeth, annog buddsoddiad yn y diwydiant twristiaeth, a gwella ansawdd y profiad ymwelwyr yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyfrifol am farchnata Cymru yn y DU a thramor.
Am wybodaeth am dwristiaeth yn gyffredinol yn cynnwys newyddion twristiaeth, ymchwil diweddaraf a dogfennau polisi a strategaeth gan gynnwys ein Strategaeth Twristiaeth Genedlaethol 'Partneriaeth ar gyfer Twf 'ewch i www.llyw.cymru/twristiaeth
6. VisitBritain
VisitBritain yw'r corff strategol ar gyfer twristiaid sy'n dod i Brydain ac asiantaeth twristiaeth cenedlaethol Prydain. Mae VisitBritain yn darparu:
- cipolygon, tueddiadau ac ymchwil i farchnad ymwelwyr rhyngwladol â'r DU
- bwletinau rheolaidd am dueddiadau twristiaeth yn y DU ac yn fyd-eang
- gwybodaeth am ysgogwyr economaidd a demograffig twristiaeth
- data am nifer a gwerth yr ymweliadau â Chymru gan ymwelwyr rhyngwladol
Mae VisitBritain hefyd yn creu cyfres o broffiliau marchnad rhyngwladol manwl, gan gynnwys gwybodaeth am faint a gwerth marchnadoedd daearyddol gwahanol, priodoleddau ymwelwyr, cymhellion teithio a gweithgareddau a gynhelir yn y DU.
Dyma ddolenni at wefannau eraill sydd â gwybodaeth ddefnyddiol yn ymwneud ag ystadegau twristiaeth, ymchwil a chipolygon.
7. Canolfan ddelweddau
Mae gan ein llyfrgell dros 50,000 o ddelweddau ffotograffig digidol eglurder uchel a sawl awr o gynnwys fideo HD, sydd wedi’u cynhyrchu’n benodol ar gyfer hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid a busnesau.
Mae’r adnodd helaeth hwn ar gael i bawb at ddiben cefnogi gwaith ym maes cysylltiadau cyhoeddus/marchnata a hyrwyddo twristiaeth a mewnfuddsoddiad i Gymru.
Ewch i’n gwefan Wales on View (dolen allanol) i weld casgliadau o’n delweddau sydd ar gael ac i archebu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill anfonwch e-bost atom imagesupport@llyw.cymru
8. Ymchwil
Mae deall sut mae twristiaeth yn perfformio yn hanfodol i unrhyw berchennog busnes twristiaeth.
Mae ymchwil yn ddefnyddiol er mwyn helpu i gefnogi’ch penderfyniadau marchnata, buddsoddi a Datblygu a’ch helpu chi.
- i ddeall tueddiadau ymwelwyr
- i ddeall y sectorau marchnad gwahanol
- i gael cipolwg o ymddygiad ymwelwyr a faint maent yn ei wario.
Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad ymwchil drwy chwilio am ‘ymchwil twristiaeth’ ar ein gwefan corfforaethol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymchwil twristiaeth cysylltwch â ni drwy e-bostio ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 025 0377.
Cymryd rhan
Llety
Os ydych yn rhedeg busnes llety hunan arlwyo neu lety â gwasanaeth gallwch gymryd rhan yn ein harolygon lletya, a byddwch yn derbyn:
- adroddiadau misol cyfrinachol ar berfformiad eich busnes, a
- chymhariaethau ag eraill yn eich sector a'ch rhanbarth
Atyniadau
Caiff atyniadau twristiaeth gymryd rhan yn ein 'Arolwg Ymweliadau ag Atyniadau i Dwristiaid'. Drwy gymryd rhan byddwch yn derbyn adroddiadau a data ynghylch tueddiadau nifer yr ymwelwyr blynyddol ag atyniadau yng Nghymru. Bydd hyn yn ddefnyddiol i feincnodi’ch atyniad yn eich rhanbarth a'ch sector cyfan.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y naill neu'r llall o'r arolygon uchod, cysylltwch â ni ar e-bost ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
9. Rheoliadau Pecyn UE 2018
Rheoliadau Pecyn UE: Pecyn Teithio a Rheoliadau Trefniadau Teithio Cysylltiedig 2018
Beth fyddai’r effaith ar eich busnes?
Mae Gov.UK wedi darparu canllawiau i fusnesau i'w helpu i gydymffurfio (saesneg yn unig).
Ewch ar gwefan genedlaethol i ddarllen y Rheoliadau Teithio Pecyn llawn.