Ffordd Cymru

Cyflwyniad

Teulu o dri llwybr cenedlaethol yw Ffordd Cymru, sydd yn arwain ymwelwyr ar hyd yr arfordir gorllewinol, ar draws y gogledd, a thrwy cadarnle mynyddig Cymru.

Mae’r llwybrau yn amlygu atyniadau a phrofiadau sy’n unigryw i Gymru ar hyd y ffordd: ein rhyfeddodau naturiol, tirnodau, trefi, orielau ac amgueddfeydd.  

Dyma Ffordd Cymru.  

 


Ffordd Cambria

Mae Ffordd Cambria yn daith rhwng y gogledd a'r de, o Landudno i Gaerdydd ar hyd  asgwrn cefn mynyddig Cymru. Yn 185 milltir (300km) o hyd, mae’n ymlwybro drwy ddau Barc Cenedlaethol - Eryri a Bannau Brycheiniog – gyda Mynyddoedd Cambria rhyngddynt.  

Mae yna ddarpariaeth ar gyfer cerddedwr, beiciwr a llwybrau i farchogaeth ceffylau, mae hefyd yn cysylltu â Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru.


Ffordd yr Arfordir

 

Mae Ffordd yr Arfordir yn ymestyn hyd arfordir cyfan y gorllewin o amgylch Bae Ceredigion. Mae'n llwybr 180 milltir (290km) o hyd. Y dechrau ar diwedd – Aberdaron a Thŷddewi – yn ddwy gyrchfan pererindod hynafol. Mae’r arfordir yn frith o drefi porthladd, pentrefi pysgota, traethau eang, clogwyni uchel a childraethau cudd.


Ffordd y Gogledd

 

Mae Ffordd y Gogledd yn dilyn yr hen lwybr masnachu ar hyd arfordir y gogledd o Gaergybi i Frychdyn . Mae’r llwybr 75 milltir (120 km) wedi'i leinio â threfi glan môr a chestyll. Anogir ymwelwyr i ymweld â Dyffrynnoedd Clwyd a Chonwy, mynyddoedd Eryri, Afon Menai ac Ynys Môn.


Os ydych yn fusnes twristiaeth, ac am wybodaeth bellach am gefndir datblygiad Ffordd Cymru, cymerwch gip olwg ar ein Dogfen cyfleoedd

 

Mae llawlyfr Ffordd Cymru ar gael rwan i’r diwydiant. 

Mae Llawlyfr Ffordd Cymru wedi ei gyhoeddi i gynorthwyo busnesau Cymru i fanteisio i'r eithaf o Ffordd Cymru. 

Mae'r busnesau ar hyd y llwybrau yn chwarae rôl allweddol o ran sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael y profiadau gorau tra byddant yng Nghymru, mae y llawlyfr yn llawn awgrymiadau a chanllawiau i helpu.
 

Am fwy o wybodaeth

Cysylltwch â Gwawr Price drwy e-bost
 Gwawr.Price3@llyw.cymru