Hyrwyddo Iaith a Diwylliant Cymru

Un o gryfderau twristiaeth yng Nghymru yw ei hunaniaeth unigryw. Mae'r iaith Gymraeg yn elfen bwysig o hyn. 

Mae twristiaeth yn rhan annatod o'r economi ac mae'n bwysig i gymunedau. Pan fyddwch yn mynd dramor, rhan bwysig o'r profiad yw clywed yr iaith frodorol yn cael ei siarad. Byddai'n teimlo'r un fath yng Nghymru. Mae llawer o ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn ddibynnol iawn ar dwristiaeth am incwm a chyflogaeth. Gallai hyrwyddo'r iaith a defnyddio ymadroddion syml gyda'ch gwesteion helpu i gynnal y diwylliant lleol ac mae'n cyfoethogi profiad yr ymwelydd. 

Mae llawer o wasanaethau a sefydliadau sy'n gallu eich helpu chi a'ch busnes i wneud defnydd o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Mae'r rhain yn cynnwys:

Mae'n fwy pwysig nag erioed bod gan Gymru fantais dros ei chystadleuwyr yn y cyfnod heriol hwn. Rydym wedi bod â chynlluniau graddio ac achredu ar waith ers amser hir i edrych ar ansawdd ein cynnyrch ffisegol, ond mae gan ein cystadleuwyr y rhain hefyd.  Mae'n hanfodol fod Cymru yn gallu cynnig rhywbeth unigryw a dilys, a gwir naws am le. Mae datblygu Naws am Le yn cynnwys sut y gellir defnyddio'r canlynol i greu eich Naws am Le unigol chi:

  • hanes lleol 
  • bwyd
  • tirwedd
  • cerddoriaeth
  • deunyddiau adeiladu 
  • crefftau Cymreig
  • yr Iaith Gymraeg 

Gweler adran Ymdeimlad o Le ar y chwith am fwy o fanylion.

 

 

Naws lle yw’r teimlad a gewch wrth ymweld â rhywle am y tro cyntaf – yr argraff gyntaf, yr olwg, y teimlad, yr awyrgylch, y bobl. Mae naws lle’n cynnwys y golygfeydd, y seiniau a’r profiadau arbennig sydd wedi eu gwreiddio mewn gwlad, y priodweddau unigryw a chofiadwy hynny sy’n atseinio ym meddyliau pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae’r pethau sy’n creu naws lle yn niferus ac amrywiol, ond mae rhai camau syml ac ymarferol y gallwch eu cymryd i helpu eich ymwelwyr i ddarganfod beth yw bod yn Gymry, a beth sy’n gwneud Cymru’n lle mor unigryw ac arbennig.

 

Y Gymraeg
Fel mewn llawer gwlad arall, mae dwyieithrwydd yn ffordd o fyw i lawer o bobl Cymru. Mae’r iaith fel arfer o ddiddordeb mawr i ymwelwyr a gall hyd yn oed pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain eu helpu i ddeall ychydig arni. Gall ymadrodd a nodyn esboniadol yma ac acw atgoffa ymwelwyr eu bod mewn gwlad sydd â diwylliant unigryw ac iaith hynafol a hyfryd iawn.

  • Defnyddiwch blatiau enw Cymraeg ar ystafelloedd gwesteion
  • Rhowch enwau dwyieithog ar dai bach, y gegin, yr ardd, etc.
  • Dysgwch Gymraeg drwy ddilyn cwrs am ddim ar lein, e.e. www.saysomethinginwelsh.com, a siarad ag ymwelwyr er mwyn ennyn eu diddordeb
  • Mynnwch wefan ddwyieithog
  • Cyflwynwch fwydlenni dwyieithog
  • Cefnogwch staff sy’n dymuno dysgu’r iaith

Diwylliant Cymru
Mae ymchwil wedi cadarnhau beth mae llawer ohonom yn ei glywed gan ymwelwyr bob dydd: maent wrth eu bodd gyda chwedlau a mythau Cymru, ei gwreiddiau Celtaidd, ei thraddodiadau a’i hen hanes – ac mae arnynt eisiau gwybodaeth gefndir am y diwylliant ac am y ffordd y mae’r bobl yn byw.

  • Darparwch dywyslyfrau lleol i ardaloedd o ddiddordeb
  • Trefnwch fod gennych gyfeirlyfrau am hanes Cymru a hanes y Cymry
  • Ceisiwch wybodaeth am ddigwyddiadau lleol; darparwch arweiniad i westeion am ‘beth sy’n digwydd’
  • Ystyriwch ystafelloedd â themâu i adlewyrchu’r fro, boed hen fwyngloddiau neu fytholeg!

Cynnyrch a Chynhyrchion Cymru
Mae profi seigiau lleol unigryw yn rhan hanfodol o fwynhau gwyliau. Mae ymwelwyr yn arbennig o hoff o gael bwyd Cymreig ar y fwydlen, ac mae mwy a mwy ohonynt yn dewis llefydd i fwyta sy’n gweini seigiau unigryw wedi’u seilio ar gynnyrch lleol ffres, uwchlaw popeth arall.

O datws cynnar Sir Benfro i aeron sy’n tyfu yng nghysgod glaw Eryri, mae Cymru’n cynhyrchu cynhwysion o safon uchel sy’n sylfaen i farchnad fwyd ffyniannus.

  • Gwnewch eich cynhyrchion eich hun neu prynwch gynnyrch lleol
  • Hyrwyddwch seigiau traddodiadol Cymru, fel cawl
  • Darparwch wybodaeth am farchnadoedd ffermwyr
  • Defnyddiwch ddeunyddiau, printiau a chelfwaith lleol i addurno ystafelloedd. Yn aml bydd tirwedd Cymru wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar artistiaid traddodiadol a chyfoes ac, felly, beth bynnag fo eich arddull, gallwch ddefnyddio celf a chrefftau lleol i ddatblygu naws lle. Mae hostel yn Sir Benfro wedi neilltuo lle bychan lle gall artistiaid lleol ddangos eitemau i’w gwerthu.