Gweminar Croeso Cymru -  Recordiad Microsoft Teams 

Hysbysiad Preifatrwydd

Diweddaredig: 14-10-2021

Recordiadau Microsoft Teams a chi: sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a chyda phwy rydym yn ei rhannu 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth cyfarfodydd 'byw' wrth gael effaith gadarnhaol ar ei chysylltiad â rhanddeiliaid y sector twristiaeth wrth i ni weithio tuag at adfer yr economi ymwelwyr yng Nghymru. Gall y ffordd y mae busnesau'n parhau i weithio yn ystod y coronafeirws (Covid-19) ei gwneud yn anodd i bawb fynd i gyfarfodydd 'byw' y diwydiant twristiaeth a gynhelir gennym drwy Microsoft Teams. Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i sesiynau’r diwydiant twristiaeth, rydym yn mynd i recordio'r sesiwn a sicrhau eu bod ar gael i'w gweld ar wefan Diwydiant Twristiaeth Llywodraeth Cymru am gyfnod cyfyngedig i alluogi'r rhai na allent fod yn bresennol ddal i fyny â'r newyddion diweddaraf. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolwr data ar gyfer data personol mewn perthynas â chofnodi cyfarfodydd y diwydiant. At ddibenion y cofnodi, rydym yn dibynnu ar ddarpariaethau cyfreithlon canlynol Erthygl 6 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR): 

  • Tasg Gyhoeddus – mae angen prosesu er budd y cyhoedd neu ar gyfer swyddogaethau swyddogol ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

Os byddwch yn dewis cymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol byw, byddwch yn ymwybodol y gall eich delwedd a'ch data llais ymddangos ar y sgrin a bydd eich enw i'w weld. Os nad ydych am ymddangos mewn recordiadau, sicrhewch fod eich fideo a/neu feicroffon wedi'u diffodd yn y feddalwedd.

Dylai cyfranwyr fod yn ymwybodol bod recordiadau yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod recordiadau'n cael eu storio'n ddiogel ac ni fyddant ond ar gael drwy ddolen ddiogel i sianel YouTube Croeso Cymru (Hysbysiad Preifatrwydd ar-lein), ar wefan Twristiaeth Busnes Cymru, cylchlythyrau’r diwydiant a rhwydweithiau Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.  Bydd y recordiadau ar gael i'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Bydd y recordiadau yn cael eu cadw ac ar gael i’w gweld drwy’r dolenni am gyfnod o flwyddyn i ddyddiad y digwyddiad cyn eu dileu o'r holl fannau a ffynonellau a enwir, oni nodir yn wahanol.

Ni fyddwn yn rhannu recordiadau yn ehangach na thrwy'r wefan a nodir oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith (e.e. y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth).

Rydym yn defnyddio Microsoft Teams ar gyfer digwyddiadau ar-lein. Mae manylion hysbysiad preifatrwydd a pholisïau diogelwch MS Teams ar gael yng Nghanolfan Ymddiriedolaeth Microsoft.

 

O dan y ddeddfwriaeth DU diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:

  • gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) i prosesu 
  • gofyn i'ch data gael ei 'ddileu'
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Cyswllt y Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk


Ymholiadau Pellach 
I gael rhagor o wybodaeth am y data sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn:

Swyddog Gwarchod Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost:  DataProtectionOfficer@llyw.cymru