LlC yn Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ym Maes Twristiaeth - Hysbysiad Preifatrwydd

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth rhanddeiliaid allweddol yn y sector twristiaeth yr ydych chi’n ei darparu, a byddwn yn ei phrosesu yn unol â’n gorchwyl cyhoeddus i ymgysylltu â chi, fel rhanddeiliad allweddol ym maes twristiaeth, er mwyn gwneud y canlynol: 

  • darparu gwybodaeth i chi
  • rhoi sylw i ddigwyddiadau perthnasol a’ch gwahodd iddynt
  • tynnu eich sylw at gyfleoedd datblygu busnes a chyfleoedd i drawsweithio a allai fod yn fuddiol i chi
  • eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymgyngoriadau, ymarferion ymchwil neu grwpiau ffocws 

Ar gyfer grwpiau penodol, mae’n bosibl y cewch wahoddiad i ymuno ar wahân. Yn yr achosion hyn, darperir rheolaethau a hysbysiadau preifatrwydd sy’n benodol i’r gweithgaredd.

Bydd eich gwybodaeth ar gael (fel y bo’n briodol) i staff / timau ehangach Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar brosiectau / gweithgareddau / ymchwil / ymgyngoriadau / digwyddiadau sy’n benodol i’r sector twristiaeth yn unig, a chaiff rheolaethau priodol eu cynnwys sy’n cwmpasu defnyddio a storio eich data.

Weithiau, gofynnir i drydydd parti fod yn gyfrifol am gyflawni prosiectau / gweithgareddau / ymchwil / ymgyngoriadau / digwyddiadau sy’n ymwneud â thwristiaeth, ar ran Llywodraeth Cymru, a byddwn yn rhoi eich manylion i’r parti hwnnw fel y gallent gysylltu â chi at y diben hwnnw. 

Bydd yr holl wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei storio a, phan fo hynny’n briodol, ei rhannu’n ddiogel, ac yn cael ei defnyddio gan gydymffurfio’n llawn â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cadw eich manylion ac yn eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfredol cyhyd ag yr ydych yn rhanddeiliad – ac am flwyddyn wedi hynny. Os nad ydych yn dymuno parhau i fod yn aelod o’r grŵp rhanddeiliaid hwn, anfonwch e-bost at quality.tourism@llyw.cymru a chaiff eich data ei archifo.  

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff newidiadau eu postio yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Byddwn yn eich hysbysu pan wneir newidiadau i’r polisi hwn, drwy anfon e-bost atoch i’r cyfeiriad rydym wedi’i nodi, er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod pa ddata personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch, ac i gael mynediad ato;
  • i ofyn i ni gywiro data anghywir;
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol);
  • i ofyn i’ch data gael ei ddileu (o dan amgylchiadau penodol);
  • i symud data (o dan amgylchiadau penodol);
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o wybodaeth am y data y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw a’r ffordd maent yn cael eu defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Croeso Cymru – Ymgysylltu â’r diwydiant
E-bost:  quality.tourism@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Yr Ail Lawr
Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill 
Caerdydd
CF10 2HH

Teleffon: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
E-bost: cymru@ico.org.uk
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/