1. Cronfa Dyfodol yr Economi  -  Y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (CDE-TISS)

Roedd y Cynllun ar gael ar gyfer busnesau canolig i fawr, gyda 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn.

Roedd y CDE-TISS yn gronfa fuddsoddi oedd yn cynnig amryw fathau o gyllid ad-daladwy a chyllid nad oedd rhaid ei ad-dalu, ac yn targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellid ei ddefnyddio naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.  

Roedd y cymorth ar gael er mwyn:

  • creu a diogelu swyddi
  • sicrhau lles a datblygiad economaidd
  • sicrhau ansawdd, arloesedd a naws am le.

Prosiectau sydd wedi derbyn cymorth fel rhan o'r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth
Cynigion a wnaethbwyd 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017
Cynigion a wnaethbwyd 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018

2. Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)

Cronfa refeniw oedd y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) a gefnogwyd drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, ac a ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Diben y Gronfa oedd gweithio gyda phartneriaid ar lefel cyrchfan i gyrraedd y targed twf o 10% a nodwyd yn y strategaeth twristiaeth trwy gefnogi gweithgareddau a fyddai:

  • yn cyflawni amcanion strategol strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru 'Partneriaeth ar gyfer Twf'.
  • yn cefnogi cyrchfannau ledled Cymru i hyrwyddo a datblygu cyrchfannau nodedig o ansawdd uchel i ymwelwyr trwy gynnal eu cynlluniau rheoli cyrchfannau er mwyn estyn eu tymor a chynyddu gwariant ymwelwyr
  • yn galluogi cyrchfannau i wneud y gorau o fanteision alinio â’r Flwyddyn Darganfod 2019, y blynyddoedd thematig a Ffordd Cymru
  • yn adlewyrchu'r tair prif thema ar gyfer hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru, sef antur, diwylliant a thirwedd

Prosiectau 2019-2021
Prosiectau 2018-2019
Prosiectau 2017-2019

3. Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF)

Cronfa refeniw oedd y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) a gefnogwyd drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, ac a ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Pwrpas y Gronfa  oedd gweithio gyda phartneriaid  ledled Cymru i:

  • annog cydweithio agosach rhwng partneriaethau masnach i wella’r cynnyrch twristiaeth ac i helpu i dyfu economi twristiaeth Cymru mewn ffordd gynaliadwy
  • galluogi'r sector preifat i fanteisio i'r eithaf ar y manteision o alinio gyda'r Flwyddyn Darganfod 2019, y blynyddoedd thematig a Ffordd Cymru 
  • adlewyrchu bob un neu unrhyw un o'r tair thema allweddol ar gyfer hyrwyddo twristiaeth i Gymru  -  antur, diwylliant a thirwedd.

Prosiectau 2019-2021
Prosiectau 2018-2019
Prosiectau 2017-2019

4. Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)

Cefnogwyd y gronfa drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a noddwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Roedd y cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) ar gael i’r sector cyhoeddus, y trydyddd sector a sefydliadau dielw.

Roedd TAIS yn gronfa fuddsoddi yn targedu prosiectau amwynderau yn y sector twristiaeth yng Nghymru. 

Ystyrid cymorth o rhwng £25,000 i £128,000 . Uchafswm gwariant ar brosiect cymwys oedd £160,000. Ein nod oedd:

  • datblygu cyfleusterau twristiaeth cynaliadwy o safon
  • ychwanegu gwerth at brofiad yr ymwelydd
  • darparu safon, arloesedd a naws am le.

Prosiectau 2018-2019
Prosiectau 2017-2018

 

5. Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Cefnogwyd y gronfa drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a noddwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Roedd y gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) ar gael i fusnesau micro a bychan oedd â llai na 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn.

Roedd MSBF yn gronfa fuddsoddi oedd yn targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Fe'i defnyddiwyd naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.   

Roedd cymorth o rhwng £25,000 a £500,000 yn cael ei ystyried, er mwyn:

  • creu a diogelu swyddi
  • sicrhau lles a datblygiad economaidd
  • sicrhau ansawdd, arloesedd a naws am le. 

Prosiectau 2019-2020
Prosiectau 2018-2019
Prosiectau 2017-2018

 

6. Y Pethau Pwysig 2021-2022

Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa ledled Cymru a oedd yn cefnogi’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau di-elw i: 

  • ddarparu gwelliannau bychain sylfaenol i seilwaith twristiaeth a 
  • sicrhau bod pob ymwelydd â Chymru yn cael profiad positif a chofiadwy drwy gydol eu arhosiad.  

Adeiladwyd y gronfa hon ar y cylchoedd ariannu blaenorol drwy Cefnogi Buddsoddiad mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) a lansiwyd yn 2017 ac a gefnogwyd drwy Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 (RDP), sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru. 

O dan y cylch cyllido TAIS blaenorol, dim ond wardiau gwledig oedd yn gymwys, yn unol â rheolau’r Cynllun Datblygu Gwledig. Drwy gynnig cyllid ychwanegol nad oedd yn gyllid yr UE, roedd cynllun TAIS yn medru cael ei ymestyn i’r ardaloedd hynny y tu allan i wardiau gwledig drwy’r gronfa Y Pethau Pwysig.  Roedd hyn yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn gallu elwa o’r gronfa newydd.  Ar gyfer y prosiectau hynny oedd wedi cael eu lleoli o fewn y wardiau cymwys, roedd Y Pethau Pwysig yn parhau i gael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE Llywodraeth Cymru.  

Amcanion Cyllid

Roedd cyllid o hyd at £10m ar gael rhwng 2020 a 2025 tuag at flaenoriaethu prosiectau a oedd yn:  

  • darparu profiadau o safon i ymwelwyr sydd â naws Cymreig
  • sicrhau bod modd i amrywiaeth eang o ymwelwyr fanteisio ar gyfleoedd llesiant newydd a’u mwynhau
  • gwella mynediad at gyfleusterau a chyflwyno cipolwg cynhwysol ar Gymru 
  • buddsoddi mewn cyfleusterau sy’n gwella arlwy antur Cymru 
  • cyfrannu at brif fentrau twristiaeth Llywodraeth Cymru gan gynnwys ymgyrch Blwyddyn Awyr Agored 2020 – 2021 a Ffordd Cymru 
  • annog cyrchfannau glân, gwyrdd, er enghraifft drwy welliannau i seilwaith cynaliadwy  
  • hyrwyddo ymdeimlad o le, diwylliant a iaith yn fwy rhagweithiol  
  • darparu cyfleusterau  sydd ar agor gydol y flwyddyn ledled Gymru 
  • buddsoddi mewn profiadau a chyfleusterau ar gyfer digwyddiadau o safon byd-eang 

Roedd cymorth o rhwng £25,000 a £128,000 ar gael i brosiectau gydag uchafswm gwariant cymwys o £160,000 a chyfradd ymyrraeth o 80%. 

Cynigion a wnaethbwyd Awst 2021 i Mawrth 2022

 

7. Y Pethau Pwysig 2022-2023

Roedd Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf ar gyfer 2022-23 i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru. 

Pwy oedd yn medru gwneud cais?

Mae'r cynllun eleni yn agored i: 

  • Awdurdodau Lleol 
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 

Amcanion y gronfa oedd:

  • Buddsoddi mewn seilwaith sylfaenol sydd o fudd i gymunedau ac ymwelwyr mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig.  
  • Datblygu prosiectau seilwaith o ansawdd uchel sy'n cefnogi twristiaeth ehangach mewn cyrchfannau ac sy'n rhoi profiad cofiadwy i ymwelwyr drwy gydol eu harhosiad. 
  • Sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol ar agor drwy'r flwyddyn ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr gyda'r nos.

Ar gyfer y cylch ariannu hwn, canolbwyntiodd y flaenoriaeth ar 4 maes allweddol:-

  • Lleddfu mannau prysur. Dod o hyd i atebion seilwaith i oresgyn pwysau ar ardaloedd o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
  • Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
  • Twristiaeth Hygyrch/Gynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau o fewn cyrchfan ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
  • Gwella cynhyrchion llofnod cenedlaethol neu ranbarthol, er enghraifft, prosiectau sy'n gwella ac yn codi proffil Llwybr Arfordir Cymru ddeng mlynedd ers ei sefydlu.

Lefel y cyllid sydd ar gael

Cronfa gyfalaf oedd hon. Ni chafodd costau refeniw eu hystyried.
Cyfanswm y grant a oedd ar gael oedd £250,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oedd isafswm grant.

Y dyddiad cau ar gyfer a cylch hwn oedd 4 Mawrth 2022

Cynigion a wnaethbwyd Ebrill 2022 i Mawrth 2023

 

8. Cronfa’r Sector Ymwelwyr Rhyngwladol â Chymru (WIITF)

Roedd Cronfa WIITF yn gronfa refeniw wedi'i thargedu, a gynlluniwyd i gefnogi'r gadwyn gyflenwi hanfodol yn dilyn y pandemig.

Canolbwynt y cyllid oedd sicrhau bod Cymru'n cadw ac yn adeiladu ar gysylltiadau'r gadwyn gyflenwi gyda marchnadoedd rhyngwladol gwerthfawr a ddarparwyd gan is-sector bach o:

  • Cwmnïau Rheoli Cyrchfan (DMCs)/cwmnïau teithio sy’n dod I mewn i’r wlad
  • arweinwyr twristiaid proffesiynol  
  • ysgolion Saesneg achrededig wedi'u lleoli ac yn gweithredu yng Nghymru.

Roedd i gefnogi'r sector ymwelwyr rhyngwladol

  • amserlenni cynaliadwy i ymwelwyr rhyngwladol
  • cyrsiau iaith a rhaglenni y gellir eu harchebu
  • hybu cyrchfannau ar gyfer dechrau adfer proffil a busnes Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol. 

Roedd yn gronfa refeniw gystadleuol gyda gwobrau hyd at £50,000.  Dyrannwyd arian i gwmnïau cymwys:

  • yn ôl rhaglen o weithgareddau y cytunwyd arni yn erbyn meini prawf gosod
  • a ystyriwyd y mwyaf tebygol o hyrwyddo gwydnwch ac adferiad economaidd ar gyfer twristiaeth yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol.

Grantiau a gynigwyd 2021-22