Edrych tua'r dyfodol
Gyda 150,000 o westeion y flwyddyn, 750 aelod o staff a throsiant o dros £30 miliwn, mae Bluestone yn un o'r busnesau twristiaeth mwyaf yng Nghymru. Ac fel sy'n gweddu i gwmni sydd wedi ei leoli ym mharc cenedlaethol enwog Sir Benfro, maen nhw hefyd yn un o fusnesau mwyaf blaengar y wlad o ran cynaliadwyedd.
Dŵr
Gan fod dros 300 o gabanau ar draws y parc, yn ogystal â pharc dŵr i'r teulu, sba a man chwarae dŵr, mae galw Bluestone am ddŵr yn un sylweddol. Er mwyn helpu i warchod yr adnodd naturiol gwerthfawr, datblygodd Bluestone rwydwaith o is-fesuryddion clyfar i gadw golwg agos ar y defnydd o ddŵr a chanfod arbedion posib.
Menter arall allweddol oedd gosod awyryddion mewn bron i 500 o gawodydd, sy'n haneru'r defnydd o ddŵr yn y llety ac yn arbed tua £58,000 y flwyddyn mewn costau ynni. Yn y cyfamser, cynlluniwyd ac adeiladwyd y Serendome enfawr i ddal a defnyddio dŵr glaw ar gyfer dyfrhau. Yn goron ar y cyfan, mae gan Bluestone ei waith trin dŵr ei hun.
I gael gwybod sut y gallwch chi wneud newidiadau yn eich busnes chi - lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Dŵr.
Sbwriel
Oeddech chi'n gwybod mai Bluestone oedd y busnes cyntaf yn y byd i ailgylchu cewynnau, ac mai nhw oedd y parc gwyliau cyntaf ym Mhrydain i roi'r gorau i werthu dŵr mewn poteli plastig? Maent hefyd wedi bod yn dargyfeirio eu gwastraff bagiau du o safleoedd tirlenwi ers 2017.
Mae gwastraff bwyd yn bwnc trafod i unrhyw fusnes, ac mae Bluestone wedi sicrhau'r ateb gorau ar gyfer eu busnes hwy. Caiff pob un o’r 80 tunnell y flwyddyn ei gludo i gyfleuster treulio anaerobig gerllaw, lle caiff ei droi’n ynni gwyrdd a gwrtaith organig i ffermwyr lleol. Yn ogystal, bob blwyddyn mae tua 8000 litr o olew coginio wedi'i defnyddio yn cael ei anfon i'w wneud yn fiodiesel.
Eisiau gwybod sut y gallwch chi droi eich gwastraff yn rhywbeth cadarnhaol? Lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Gwastraff.
Ynni
Credir mai parc dŵr Blue Lagoon yw’r cyfleuster cyntaf o’i fath sy’n cael ei gynhesu â biomas o ffynonellau lleol yn hytrach nag olew, gan arbed ymhell dros 1000 tunnell o CO²e y flwyddyn. Mae'r ganolfan hamdden dan do, The Hive a 60 caban hefyd yn cael eu gwresogi â biomas, y cyfan yn dod o'r ardal o fewn 30 milltir i'r parc. Mae’r cwmni’n talu premiwm sylweddol am drydan di-garbon a gefnogir gan dystysgrifau REGO ac yn 2022, Bluestone oedd y busnes lletygarwch cyntaf yng Nghymru i newid ei gyflenwad nwy i fiopropan 100%, wedi’i wneud o wastraff planhigion a llysiau. Mae’r dasg o drydaneiddio eu fflyd gyfan o 25 cerbyd erbyn diwedd 2024 hefyd wedi bod yn datblygu'n dda.
Trwy’r mentrau hyn ac eraill, mae Bluestone wedi lleihau allyriadau Cwmpas 1 a 2 o tua 90% o linell sylfaen 2018.
A yw hyn wedi rhoi syniad i chi o'r ffyrdd y gallwch newid eich defnydd o ynni? Edrychwch ar ein Pecyn Adnoddau Ynni
Cadwyn Gyflenwi
Mae Bluestone yn gwario tua £3 miliwn gyda chyflenwyr lleol bob blwyddyn ac yn gweithio'n agos gyda'r cyflenwyr i helpu i ddadansoddi a lleihau'r allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â darparu nwyddau a gwasanaethau. Mae'r cwmni hefyd wedi ymgorffori egwyddorion yr economi gylchol yn ei strategaethau a'i brosesau a datblygu partneriaethau gydag ystod o sefydliadau cymunedol er mwyn rhoi bywyd newydd buddiol i eitemau fel dodrefn, nwyddau gwyn a dillad.
Hoffech chi wybod sut y gall defnyddio eich cadwyn gyflenwi leol fod o fudd i’ch busnes chi? Darllenwch ein Pecyn Adnoddau Cadwyn Gyflenwi.
Teithio
Er mwyn mynd i’r afael â'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, mae Bluestone yn cydweithio gydag Narberth Travel i redeg fflyd o fysiau, a rhoi cludiant am ddim i'w staff i’r gwaith ac adref. Mae Bluestone yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro i dreialu estyniad i'r gwasanaeth bws presennol sydd bellach yn stopio yn y parc ddwywaith y dydd. Y bwriad yw sicrhau mwy o wasanaethau os bydd yn llwyddiannus, ac mae Bluestone wedi ymrwymo £42,000 i’r llwybr aml-ddefnydd Arberth i Slebets, sef prosiect dan arweiniad Cyngor Sir Penfro.
Mae gan Bluestone grŵp rhannu ceir i staff ar ap y cwmni, ac mae’r parc ei hun yn ddi-gar, gyda bygis trydan ar gael i westeion eu llogi. Mae deg gwefrydd ceir trydan newydd wedi’u gosod, gyda deg arall ar y gweill ar gyfer 2023.
Beth am lawrlwytho ein Pecyn Adnoddau Teithio i ddysgu am newidiadau bach y gallwch chi eu gwneud heddiw.
Rhan Un
Rhan Dau