1. Cyflwyniad
Daeth arbenigwyr blaenllaw o'r diwydiant twristiaeth at ei gilydd i drafod tueddiadau a heriau'r dyfodol i dwristiaeth mewn Uwchgynhadledd Twristiaeth gan Croeso Cymru.
Roedd y digwyddiad pwysig hwn, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2017 yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod, wedi'i anelu at arweinwyr twristiaeth yng Nghymru. Rhoddodd gyfle gwerthfawr i fusnesau twristiaeth gael gwybodaeth arbenigol a syniadau ymarferol i wella eu busnes er mwyn eu helpu i ffynnu yn 2017 a thu hwnt.
Cafodd y cynrychiolwyr hefyd y cyfle i fwynhau bwyd a diod o Gymru mewn arddangosfa a drefnwyd gan Bwyd a Diod Cymru a Croeso Cymru.
2. Agenda
Mae llyfryn yr uwchgynhadledd yn cynnwys agenda 'r diwrnod, manylion y siaradwyr a gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â thwristiaeth yng Nghymru.
Isod, ceir y cyflwyniadau a sesiynau’r grŵpiau trafod a recordiwyd yn fyw yn ystod y digwyddiad. (yn Saesneg yn unig)
Blwyddyn Darganfod
– Ken Skates AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Llywodraeth Cymru
Problemau Brexit a chyfleoedd wedi Brexit
- Kurt Janson – Cyfarwyddwr, Cynghrair Twristiaeth Cymru
Cadw Cymru yn Rhyngwladol
- Laura Lyndsey - Cyfarwyddwr Cyfathrebu Byd-eang, Lonely Planet
Tueddiadau Twristiaeth
- Simon Calder - Uwch-olygydd Teithio The Independent, Darlledwr Teledu a Radio
Gwella syniad pobl o yrfa mewn twristiaeth
- William McNamara - Prif Swyddog Gweithredol, Parc Cenedlaethol Bluestone, Sir Benfro
Prinder pobl
- Arwyn Watkins – Llywydd, Blas ar Gymru
Gwerthu yn rhyngwladol – Manteisio i’r eithaf ar eich potensial yn y farchnad
- Trafodaeth banel gyda:
Holger Lenz – Rheolwr Canolbarth Ewrop, VisitBritain
Emily Moore – Pennaeth Trafod gyda Phartneriaid y Cenedlaethau a’r Rhanbarthau, VisitBritain
Lauren Summers – Rheolwr Marchnata Gogledd America, Croeso Cymru
Aled Rees – Rheolwr-gyfarwyddwr, Teithiau Cambria
The Wild Atlantic Way
- Fiona Monaghan - Pennaeth Rhaglen the Wild Atlantic Way, Fáilte Ireland
Ychwanegu gwerth at eich busnes – cyfle i ddatblygu marchnad wahanol
- Trafodaeth banel gyda:
Jill Manley – The Celtic Manor Resort
James Lynch – Sylfaenydd fforest
Adrian La Trobe - Venue Cymru, Llandudno
Aled Rees – Rheolwr-gyfarwyddwr, Teithiau Cambria
Themâu “Blynyddoedd…” Croeso Cymru
- Claire Chappell - Pennaeth Perfformiad Brand, Croeso Cymru