Gweminarau Gwlan

Mae effaith pandemig COVID-19 ar y diwydiant gwlân wedi amlygu’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, gydag incwm y mwyafrif o gnu yn annigonol i dalu costau tyfu a chynaeafu. Mae sylw mynych yn y cyfryngau ynghyd â sawl ffermwr yn lleisio barn ar y mater ar y cyfryngau cymdeithasol wedi amlygu’r achos yn 2020, yn cynnwys llunwyr polisi a sefydliadau amrywiol sy'n ymwneud â datblygiadau economaidd.

Yn gynharach yn y flwyddyn, fe wnaeth stori’r ffermwr ifanc o Ynys Môn, Gerallt Hughes, yn gwaredu 800 o gnu trwy ei losgi ennyn diddordeb cenedlaethol ar draws ystod o gyfryngau. Ymddangosodd y llun isod yn y Daily Mail ym mis Gorffennaf 2020, sy'n dangos pentwr o gnu gan Gerallt yn barod i fynd allan i'w losgi. Bydd y gyfres o bedwar gweminar yn gyfle i drafod ymhellach yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant gwlân.

Nod y gyfres o webinarau bydd darparu gofod ac amser i barhau gyda’r ddadl ynghylch y prisiau gwlân gwael a gafwyd yn hanesyddol yn 2020, ac i hwyluso trafodaethau a datrysiadau posib wrth symud ymlaen. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£6000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Elin Parry
Rhif Ffôn:
01766514057
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts