Y Dyfodol yn Abertawe

Bydd Prosiect Youth Solutions Abertawe Wledig yn darparu llwyfan digidol ac wyneb yn wyneb i bobl ifanc ymgysylltu, hyrwyddo a thrafod Eiriolaeth a Gweithredaeth Amgylcheddol Ieuenctid, Technoleg Werdd, Rheoli Gwastraff, Gweithredu ar yr Hinsawdd, Cyfiawnder Hinsawdd ar lefel RhDG leol a lefel Abertawe, ac ymgysylltu ar lefel fyd-eang drwy Rwydwaith Dan Arweiniad Ieuenctid yr YMCA ar draws y byd i gymryd rhan mewn darparu atebion ar gyfer ein hargyfwng amgylcheddol presennol. Nod y prosiect yw dod â phobl ifanc at ei gilydd a darparu a hyrwyddo lefelau uwch o gyfleoedd hygyrch yn y wardiau gwledig ac o'u cwmpas. Gwneir hyn yn rhithwir yn ystod y cyfnod ailagor ein cymunedau oherwydd y cyfyngiadau symud, a bydd yn dechrau cynnwys gwaith wyneb yn wyneb yn ystod ail hanner blwyddyn un (os bydd COVID yn caniatáu) ac yn parhau â rhaglen gymysg o waith prosiect digidol ac wyneb yn wyneb.  

Defnyddir yr arian i ddarparu gweithiwr i gefnogi a hwyluso Grŵp Youth Solutions Abertawe Wledig, i nodi a hyfforddi hyrwyddwyr ac i ddatblygu a llunio 3 phrosiect dan arweiniad pobl ifanc dros 18 mis, a bydd yn cyrraedd dros 250 o bobl ifanc yn ystod ei waith. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£49999.60
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1, 5
Mesur:
19.2
Y-Future Swansea and COP26

Cyswllt:

Enw:
Victoria Thomson
Rhif Ffôn:
01792636992
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts