Hedge in full growth

Mae ffermwyr Cymru wedi cael sicrwydd y gall mesurau sy’n diogelu ac yn cynyddu bioamrywiaeth ar eu ffermydd gael eu hintegreiddio’n hawdd a bod o fudd i’w da byw.

Mae gan ffermydd eisoes asedau gwerthfawr yn eu gwrychoedd a’u coed. Trwy docio llai ar wrychoedd a’u tocio’n llai aml, a phlannu coed yn y lle iawn, bydd cynefin i fywyd gwyllt nid yn unig yn cael ei wella, ond bydd hefyd yn rhoi cysgod i wartheg a defaid, meddai Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio.

“Mae yna lawer o newidiadau y gellir eu gwneud ar eich ffermydd a fydd yn gweithio er budd eich busnesau,” meddai wrth ffermwyr a oedd yn gwrando ar weminar bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.

“Mae angen i ffermwyr benderfynu beth yw gwir fanteision ac anfanteision gwahanol fesurau, o safbwynt amgylcheddol ac economaidd, a rhoi rhaglen waith ar waith i gyflawni’r amcanion hynny.”

Ni fydd hyn yn golygu newidiadau ar raddfa fawr yn y ffordd y caiff tir ei ffermio yng Nghymru, awgrymodd Mr Jones. Fodd bynnag, bydd mabwysiadu technegau ac opsiynau sy'n galluogi arferion amaethyddol i weithio law yn llaw â byd natur yn cyfrannu at wella perfformiad amgylcheddol ac economaidd busnes y fferm, ychwanegodd.

“Bydd caniatáu i wrychoedd a lleiniau cysgod gynyddu yn eu maint yn gwella strwythur, a gallai helpu tuag at gyrraedd y targed a awgrymwyd, sef cynnydd net o 10% mewn bioamrywiaeth,” dywedodd Mr Jones.

Anogodd ffermwyr i “gael y sgwrs honno” gyda’u contractwyr tocio gwrychoedd.

“Yn aml, does dim sgwrs rhwng ffermwyr a’u contractwyr torri gwrychoedd, ac mae’r ffermwyr yn hapus i adael i’r contractwyr gymryd yr awenau ar y drefn torri sy’n cael ei hailadrodd o flwyddyn i flwyddyn.

“Fodd bynnag, yn y dyfodol, gyda phwyslais clir ar wella bioamrywiaeth, mae angen iddynt nodi amcanion, cynllunio’r newid a chyfleu hynny mewn sgwrs â’u contractwyr.’’

Gwelodd y weminar enghreifftiau o ba fuddion y gellid eu hennill, mewn cyfres o ddelweddau o dair o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio. Roedd mwyafrif y gwrychoedd a arolygwyd yn llydan, yn dal ac yn darparu cynefin bywyd gwyllt rhagorol, yn ogystal â lloches i dda byw yn ystod tywydd garw, a chysgod mewn tymheredd poeth.

Ffermydd llaeth neu gig eidion a defaid masnachol yw’r ffermydd, gyda glaswelltir wedi’i wella’n amaethyddol a thir âr yn bennaf. Fodd bynnag, mae gan bob fferm nifer o nodweddion sy'n hafan i fywyd gwyllt, gan gynnwys coetiroedd, cyrsiau dŵr a rhwydweithiau helaeth o wrychoedd.

Roedd Cyswllt Ffermio wedi comisiynu Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt, Cymru (FWAG Cymru) i gynnal archwiliadau amgylcheddol ar y tair fferm - Graig Olway ym Mrynbuga, Mountjoy ger Hwlffordd, a Pentre ger Rhuthun.

Dywedodd cyfarwyddwr FWAG Cymru, Glenda Thomas, a oedd yn siarad yn y weminar, mai nodwedd ar y tair fferm oedd gwrychoedd llydan, a oedd yn “gynefinoedd hynod drawiadol”, gydag adar cân, gloÿnnod byw, gwenyn a llu o bryfed a phlanhigion blodeuol eraill o fewn ac wrth ochr y gwrychoedd.

“Cynefinoedd rhagorol eraill ar y tair fferm oedd amrywiaeth o goetiroedd llydanddail yn amrywio o ran maint o goedlannau bach i ardaloedd sylweddol, y mwyaf dros 3.5 hectar o faint,” dywedodd.

Roedd nodweddion dŵr, gan gynnwys afonydd mawr, nentydd, ffosydd a phyllau, yn amlwg ar bob fferm. Roedd gan y rhain ddigonedd o fywyd dyfrol, gydag amrywiaeth o blanhigion blodeuol a choed hefyd yn tyfu ar hyd y glannau.

Yn Pentre, roedd gweithredu system o bori cylchdro trwy ei rôl fel safle arddangos wedi arwain at fudd annisgwyl i wrychoedd.

“Nawr bod y caeau wedi’u rhannu’n badogau a’r defaid heb fod mewn caeau cyfan am gyfnodau hirach, mae’r cloddiau’n cael cyfle i dyfu,” meddai Dr Thomas.

Roedd defaid a gwartheg, meddai, ill dau yn arfau rheoli ardderchog ar gyfer rhai cynefinoedd, gyda gwahaniaeth amlwg yn nwysedd y cloddiau yn nes at lefel y ddaear pan oedd gwartheg ond yn pori’r tir.

“Mae gwartheg yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr o ran rheoli cynefinoedd, gyda’u dull pori yn werthfawr wrth reoli llystyfiant mwy bras, gan ganiatáu i blanhigion mwy bregus ffynnu,’’ meddai.

Roedd cloddiau wrth ymyl y caeau a ddefnyddiwyd i dyfu cnydau âr a phorthiant hefyd yn ffynnu ar y ffermydd a arolygwyd, a ffynnodd fflora o fewn y cloddiau, oherwydd diffyg pwysau pori yn ystod y tymor tyfu.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.