Dyfi Biosffer arfon

Mae prosiect Tyfu Dyfi yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â rhwydwaith o arddwyr ar draws y Biosffer sy’n fodlon rhannu eu brwdfrydedd a’u gwybodaeth ag eraill, ac mae’n cynnal digwyddiad rhagarweiniol ddydd Gwener 24 a dydd Iau 30 Mehefin yn Aberystwyth.

Mae gwirfoddolwyr garddio Tyfu Dyfi yn rhannu eu sgiliau tyfu bwyd mewn ysgolion, gerddi cymunedol, canolfannau gofal dydd neu’n syml gyda’u ffrindiau a’u cymdogion, ac maent yn derbyn hyfforddiant a chymorth rheolaidd yn gyfnewid am ddim ond cwpl o oriau’r mis o’u hamser.

Trefnir y cwrs rhagarweiniol rhad ac am ddim gan yr elusen arddio Garddio Organig (Garden Organic) yn y DU mewn partneriaeth â Bwyd Dros Ben Aber a phrosiect AnTir Tir Coed, a bydd yn cynnwys ymweliadau ag o leiaf ddau safle tyfu cymunedol yn Aberystwyth.

“Rydym bob amser yn chwilio am bobl newydd i gymryd rhan,” meddai Jade Phillips, cydlynydd y cynllun. "Rydym yn croesawu pobl o bob oed a chefndir, ac rydym yn gweld bod pawb yn dod â'u syniadau unigryw a'u brwdfrydedd i'r prosiect. Mae'n gyfnod cyffrous iawn oherwydd mae cymaint o ddiddordeb mewn tyfu bwyd y dyddiau hyn. Mae pobl eisiau gweld mwy o fwyd lleol ac maen nhw hefyd yn cydnabod bod garddio yn dda i iechyd meddwl.”

Mae Tyfu Dyfi, prosiect gan Lywodraeth Cymru a gefnogir gan yr UE ac a redir gan gonsortiwm o saith partner dan arweiniad Ecodyfi, yn ymwneud â chysylltu pobl â bwyd a natur ar draws Biosffer Dyfi. Yn ogystal â thyfu cymunedol, mae'n datblygu systemau dosbarthu bwyd lleol ac yn cefnogi ffermwyr a thyfwyr i arallgyfeirio.

“Mae hwn yn brosiect peilot i ddangos sut y gall cymunedau fod yn rhan o’u systemau bwyd lleol a gweld yr holl fanteision sy’n deillio o hynny. Mae gennym ni gyfle yma i wneud rhywbeth hynod gyffrous sy’n adeiladu ar flynyddoedd o brofiad yn y rhan hon o Gymru,” meddai cydlynydd y prosiect Chris Higgins o Ecodyfi.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae Tyfu Dyfi hefyd yn cefnogi tyfu cymunedol trwy roi grantiau i wella safleoedd tyfu cymunedol. Hyd yn hyn mae'r rhain wedi cynnwys Laudato Si ym Mhenparcau a Gardd Gymunedol Llandre, gyda llawer mwy ar y gweill. Bydd cyfle i fwy o sefydliadau wneud cais am arian yn ddiweddarach eleni.

“Yn ogystal âg hyfforddai gwirfoddolwyr, mae gennym ni gylchlythyr i roi pobl mewn cysylltiad â’i gilydd, ac rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd mewn safleoedd cymunedol. Rydym yn awyddus iawn i glywed mwy o syniadau am yr hyn y gallem ei wneud ar gyfer tyfu cymunedol yn y Biosffer,” ychwanegodd Jade.

Os hoffech chi archebu lle am ddim ar y cwrs rhagarweiniol ar ddydd Iau 24 a dydd Gwener 30 Mehefin, neu i ddarganfod mwy am raglen wirfoddoli Tyfu Dyfi, cysylltwch â Jade Phillips ar td@gardenorganic.org.uk, neu ffoniwch Jade ar 07583 575930. Archebwch erbyn dydd Llun 20 Mehefin.