Math o ddigwyddiad:
Digwyddiad Dathlu'r Cynllun Datblygu Gwledig
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Maes Sioe Frenhinol, Neuadd Fwyd
E-bost:
RWFH

Ers degawdau mae Cymru wedi elwa o gymorth drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE (CDG). Wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae'r gefnogaeth hon yn dod i ben, ac mae gennym gyfle i ddatblygu dull gwirioneddol Gymreig o gefnogi ein heconomi wledig.

Mae'n bwysig dysgu'r gwersi o lwyddiannau niferus y CDG wrth i ni ystyried sut i dargedu ymyriadau yn y dyfodol. Bydd y digwyddiad hwn yn ceisio tynnu sylw at lwyddiannau, a sut y gallwn fwrw ymlaen â'r rhain yn seiliedig ar y blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Cyfle i glywed gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd a Materion Gwledig
  • Gweithdai ar gynlluniau'r dyfodol wrth i ni symud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
  • Ardal arddangos â thema, sy'n cwmpasu bwyd a thwristiaeth, rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, arloesi, coetiroedd a choedwigaeth, a chymunedau arloesol.
  • Trafodaethau â thema yn edrych ar lwyddiannau a gyflawnwyd gan fuddiolwyr cyllid
  • Astudiaethau achos fideo - cyfle i weld astudiaethau achos o brosiectau, cwrdd â'r bobl sydd wedi elwa a chlywed yn uniongyrchol y gwahaniaeth y mae cyllid wedi'i wneud iddynt hwy a'u hardal leol
  • 'Gwobrau Gwledig' – rhoi cydnabyddiaeth i brosiectau sydd wedi llwyddo

Cadwch lygad am yr hashnod #dathlucymruwledig ar Twitter, Facebook ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn arwain at ac yn ystod y digwyddiad.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'w fynychu, ond bydd angen i chi gofrestru: https://www.dathlucymruwledig.cymru/  -  Gallwch hefyd ddod o hyd i'r agenda ar gyfer y ddau ddiwrnod yma.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Darperir cinio ysgafn a lluniaeth.