Yr adnodd storio data’n ddiogel ar-lein ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Cyfle unigryw i gadw eich holl gofnodion datblygiad proffesiynol a phersonol. 

Gallwch chi, eich staff ac unrhyw sefydliadau neu ddarpar gyflogwyr gael mynediad at eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch data datblygiad proffesiynol a’u diweddaru mewn un man diogel ar-lein.

Gan gymryd eich bod eisoes wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio ac wedi cwblhau Cynllun Datblygu Personol, gallwch greu ‘proffil personol’ yn y Storfa Sgiliau mewn dim o dro.  
 

Bydd Storfa Sgiliau yn eich galluogi i:

  • Cael mynediad at adroddiad digidol, neu adroddiad mae modd ei lawrlwytho, sy’n cynnwys eich holl sgiliau, hyfforddiant a chyraeddiadau academaidd/proffesiynol perthnasol
  • Rhoi tystiolaeth o hyfforddiant rydych chi wedi’i wneud ar gyfer Cynlluniau Gwarant Fferm a sefydliadau yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys cyfanwerthwyr, adwerthwyr ac ati
  • Cael mynediad at y ffeithiau angenrheidiol i ddiweddaru eich CV

Bydd eich cofnod yn y Storfa Sgiliau yn cynnwys


Gweithgareddau Cyswllt Ffermio (Bydd Cyswllt Ffermio yn uwchlwytho'r wybodaeth yma ar eich rhan)

  • Pob tystysgrif/hyfforddiant wyneb yn wyneb achrededig Cyswllt Ffermio
  • Pob modiwl e-ddysgu Cyswllt Ffermio rydych chi wedi'i gwblhau
  • Presenoldeb mewn digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio 
  • Cyfranogiad mewn prosiectau datblygiad personol neu fentrau penodol i sector Cyswllt Ffermio 

Gweithgareddau nad ydynt yn cael eu cynnal gan Cyswllt Ffermio (Bydd Cyswllt Ffermio yn uwchlwytho'r wybodaeth yma ar eich rhan) 

  • Gall sefydliadau allanol, e.e. grwpiau cynhyrchwyr yn y gadwyn gyflenwi, anfon tystiolaeth o weithgareddau at Cyswllt Ffermio i’w uwchlwytho ar dudalen benodol ar Storfa Sgiliau. 
  • Bydd yr wybodaeth rydych wedi'i storio yma yn cefnogi mentrau presennol y gadwyn gyflenwi.

Fy lle (Cewch eich cynghori i uwchlwytho'r wybodaeth yma eich hun) 

  • Cymwysterau/tystysgrifau neu ddiplomâu academaidd a phroffesiynol
  • Ysgoloriaethau/dyfarniadau (Nuffield, Hybu Cig Cymru ac ati)
  • Rôl bresennol a chyfrifoldebau/cyraeddiadau ar y fferm ac oddi arni
  • Swyddogaeth(au) a chyfrifoldebau/cyraeddiadau blaenorol
  • Profiad gwaith neu interniaeth (gan gynnwys ymweliadau gwaith dramor)
  • Aelodaeth o sefydliadau perthnasol e.e. Undebau Ffermio, CFfI Cymru, Ffermwyr Dyfodol Cymru

I storio a diweddaru eich holl gofnodion perthnasol ar y Storfa Sgiliau, mewngofnodwch i’ch Cyfrif BOSS drwy Sign on Cymru