Gyda mynediad i’r we a thechnoleg yn bwysicach nag erioed mae cynllun newydd ym Môn a Gwynedd  yn sicrhau bod canolfannau cymunedol a gweithwyr allweddol yn cael cyswllt am ddim yn ystod y cyfnod clo.

Mae’r prosiect sy’n cael ei gydlynu gan Menter Môn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi mynediad i’r we mewn ardaloedd gwledig sydd heb gyswllt dibynadwy. Y nod yw sicrhau bod gweithwyr allweddol a chanolfannau sy’n rhan o ymdrechion lleol i ymateb i COVID19 yn gallu manteisio yn llawn ar dechnoleg er mwyn cyflawni gwaith hanfodol.

Eglurodd Sioned Thomas, Uwch Reolwr Cynlluniau Menter Môn: “Rydan ni gyd mor ddibynadwy ar dechnoleg a’r rhyngrwyd erbyn hyn. Mae wedi sicrhau bod cymaint ohonom wedi gallu parhau i weithio a chadw cysylltiad efo cydweithwyr a gwasanaethau pwysig. Mae’n anodd dychmygu felly ceisio gweithio heb gyswllt cyson i’r we – ond dyma realiti i lawer yng nghefn gwlad. 

“Roedd cyfle yma i ni allu gwneud gwahaniaeth i nifer oedd yn cael trafferth darparu gwasanaethau hanfodol o bell oherwydd diffyg cysylltedd.  Mae’r cynllun yn caniatáu mynediad felly i weithwyr allweddol i raglenni fel Zoom i gyfathrebu nid yn unig efo cydweithwyr ond hefyd gyda defnyddwyr gwasanaeth bregus fyddai fel arall yn cael eu hynysu.”

Mae’r cynllun yn gweithio trwy ddarparu llwybrydd gyda cherdyn ‘sim’ 4G i unigolion allweddol sy’n gorfod gweithio o gartref neu i adeiladau cymunedol sy’n darparu gwasanaethau i bobl fregus ar hyn o bryd. Ymysg y canolfannau sydd wedi gallu manteisio ar y cynllun mae Siop Mechell yn Llanfechell, Ynys Môn; a Chyngor Tref Blaenau Ffestiniog, yn ogystal â nifer o gartrefi henoed. 

Un arall i dderbyn llwybrydd ydi Gwenan Griffiths sy’n weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gwynedd. Dywedodd: 

“Ryda' ni’n byw mewn llecyn mor wledig, ac mae’r signal ffôn a’r we yn wael iawn yma ar y gorau. Mae gen i bedwar o blant, a gyda dau ohonyn nhw angen gwneud gwaith ysgol ar lein roedd hi’n amhosib i mi fedru gwneud fy ngwaith i, a chael mynediad i Hwb i’r plant yr un pryd."

“Rydw i’n ofnadwy o ddiolchgar i’r cynllun yma. Mae wedi golygu nad oes rhaid i mi wneud fy ngwaith yn oriau mân y bore bellach gan fod mwy nag un ohonom yn medru bod ar y we ar yr un pryd.”

Dyma’r prosiect diweddaraf mewn cyfres gan Menter Môn yn ystod yr argyfwng presennol. Ymysg y cynlluniau mae’r fenter gymdeithasol wedi bod yn arwain arnynt mae cynllun i ddosbarthu bwyd i bobl fregus a gweithwyr rheng flaen ac un arall i gydlynu llety i weithwyr iechyd sy’n methu dychwelyd i’w cartrefi oherwydd yr angen i hunan ynysu.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Fel cwmni rwy’n falch iawn o’r hyn rydan ni wedi gallu ei gyflawni yn ystod y pandemig. Mae’r peilot diweddaraf yma i ddosbarthu llwybryddion 4G wedi profi’n llwyddiannus a byddwn yn edrych i adeiladu ar hyn dros y misoedd nesa. Byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr a gwasanaethau lleol er mwyn  sicrhau bod nifer mwy o leoliadau ac unigolion mewn ardaloedd gwledig yn gallu cadw mewn cysylltiad ac yn gallu parhau i ddarparu a diogelu gwasanaethau.”

Mae’r cynllun yn brosiect LEADER sy’n treialu syniadau newydd er mwyn ymdrin â’r heriau sy'n wynebu cymunedau cefn gwlad Môn a Gwynedd.