Yn y Deyrnas Unedig a Chymru, mae rhai cynhyrchwyr arloesol wedi dod o hyd i farchnad sy’n awyddus i brynu cig bison.  Ystyrir bod y cig coch hwn yn iachach na chynhyrchion biff traddodiadol gan ei fod yn cynnwys llai o fraster, colesterol a sodiwm.  Mae’r cynnwys protein hefyd yn debyg iawn, mae’n cynnwys llai o galorïau ac mae’n uchel mewn haearn a fitamin B12.

O’i gymharu â chig eidion yn y Deyrnas Unedig, mae cig bison yn werth llawer mwy, gyda phrisiau pwysau marw am fison yn tua dwywaith y pris a geir am wartheg, ac mae’r prisiau adwerthu am gig bison yn aml dros 1.5 gwaith yn fwy na chig eidion.

O’r herwydd, mae bison yn cael ei ystyried fel un dewis i ffermwyr sy’n awyddus i arallgyfeirio.  Fodd bynnag, nid yw bison yn hawdd i’w ffermio, nid yn unig oherwydd eu tymer a’u sensitifrwydd i straen, ond hefyd y ffaith eu bod yn fwy agored i’r clwy cataraidd malaen (MCF), sy’n cael ei ystyried fel yr un ffactor sy’n cyfyngu ar y gallu i’w cynhyrchu’n llwyddiannus.  

Gall MCF (a achosir gan y firws OvHV-2) effeithio ar wartheg, bison, byfflo dŵr, ceirw ac iaciaid ac er bod defaid yn cael eu hystyried fel y prif anifeiliaid lletyol, mae gwaith diweddar yn awgrymu y gall cyfran fawr o wartheg hefyd fod yn cario’r firws yn is-glinigol. Fodd bynnag, credir bod bison, byfflo a cheirw yn llawer mwy agored na gwartheg a dyma un o’r prif rwystrau i ffermwyr sydd eisiau arallgyfeirio i’r farchnad arbenigol broffidiol hon.

Bydd y prosiect hwn, a fydd yn canolbwyntio ar un daliad bison a dau ddaliad byfflo, yn ymchwilio i sut gellir rheoli’r clefyd ar ffermydd yng Nghymru.

Cynllun y prosiect 

  • Cymerir samplau gwaed gan y bison/byfflo ar bob fferm i brofi a ydynt, nawr neu yn y gorffennol, wedi dod i gysylltiad ag OvHV-2.
  • Cesglir samplau gwaed gan dda byw eraill ar y ffermydd e.e. defaid, ceirw a gwartheg i brofi a ydynt wedi dod i gysylltiad ag OvHV-2, a bydd hyn yn canfod a yw’r da byw eraill ar y ffermydd yn ffynonellau posibl i’r haint.
  • Bydd y gwaed, ynghyd â samplau tail cyfun, hefyd yn cael eu profi i weld a yw’r bison/byfflo wedi dod i gysylltiad â chlefydau heintus eraill neu barasitiaid a allai o bosibl gynyddu eu risg o ddatblygu MCF. 
  • Caiff brechlyn newydd yn erbyn OvHV-2 ei ddefnyddio ar y daliad bison lle mae MCF yn broblem, i weld a yw’n ddewis ymarferol ar gyfer rheoli MCF ar ffermydd.
  • Caiff pecyn i reoli’r clefyd ei greu ar sail y canlyniadau uchod a chynhelir profion am 12 mis pellach i asesu ei lwyddiant ar bob fferm.

Ychydig iawn a wybodaeth sydd gennym am MCF ac ni wyddom a oes modd ei reoli yng nghyd-destun ffermio bison/byfflo. Gyda lwc, bydd y prosiect hwn yn canfod camau posibl y gall ffermwyr eu cymryd i reoli MCF, gan mai prin iawn yw’r atebion yn y sector arbenigol hwn ar hyn o bryd. Dylai’r prosiect ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i gynhyrchwyr sy’n ystyried hwn fel ffordd o arallgyfeirio a darparu esiamplau o ddulliau rheoli i helpu’r rheini sydd ar ddechrau’r broses.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mae Menter a busnes wedi ennill y contract ar gyfer cyflawni EIP yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Os hoffwch ddysgu rhagor am EIP yng Nghymru, cysylltwch ar tîm: eipwales@menterabusnes.co.uk neu cwblhewch y ffurflen Cysylltwch â ni.